At bwy mae'r Rhaglen Chwaraeon Perfformiad wedi'i hanelu?
Bydd pob camp yn defnyddio gwahanol feini prawf i ddiffinio perfformiad. Mae gan y Brifysgol ddiddordeb arbennig mewn cefnogi myfyrwyr sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu potensial ym myd chwaraeon ac sydd ag amcanion perfformiad clir ar gyfer y tri neu bedwar cyfnod y maent yn eu hastudio yn Met Caerdydd.
Byddai'r lefelau perfformiad yn cynnwys y potensial i gynrychioli'ch gwlad Dan 21 / Dan 23, lefel genedlaethol neu ranbarthol uwch, pa un a ydych yn yr hanner cant uchaf mewn disgyblaeth benodol ar gyfer oedran unigol fel nofio, beicio neu athletau neu eisoes yn cystadlu ar lefel ryngwladol wrth ddechrau yn y Brifysgol.
Chwaraeon Perfformiad Myfyrwyr
Mae rhaglen Chwaraeon Perfformiad y Brifysgol yn cynnwys saith camp ac ysgolhgeigion chwaraeon o amrywiaeth eang o chwaraeon:
Athletau (Dynion a Menywod)
| Pêl-fasged (Menywod)
| Criced (MCCU)
| Pêl-droed (Dynion a Menywod)
|
Pêl-rwyd
| Rygbi (Dynion a Menywod)
| Hoci (Menywod)
|
|
Rhaglen y Gynghrair Genedlaethol
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cefnogi rhaglen Cynghrair Genedlaethol yn:
Pêl-droed (Dynion a Menywod)
| Rygbi (Dynion)
| Pêl-fasged (Menywod)
| Pêl-rwyd
|
BUCS chwaraeon yn unig
Mae gan y Brifysgol hefyd raglen BUCS gynhwysfawr gyda llawer o'r chwaraeon yn gweithio tuag at statws Ffocws Chwaraeon ac mae gan bob un ohonynt gynlluniau datblygu ar waith gan gynnwys:
Tenis ((Dynion a Menywod)
| Triathlon
| Sboncen (Dynion a Menywod)
| Badminton (Dynion a Menywod)
|
Golff (Cymysg)
| Beicio
| Marchogaeth
| Futsal
|
Pêl-droed Gaeleg
| Nofio | Polo dŵr
| Gymnasteg |
Rhwyfo
| Lacrosse
| Rygbi'r Gynghrair
| |
Mae cyfarwyddwyr y chwaraeon unigol yn gweithio'n agos ac yn cysylltu'n uniongyrchol â hyfforddwyr, clybiau a chyrff llywodraethu cenedlaethol i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu cynrychioli a bod modd cael y gefnogaeth athletaidd ofynnol yn hawdd a bod unrhyw amharu ar astudiaethau academaidd y myfyriwr yn cael ei reoli'n sensitif.
Ar draws y brifysgol mae'r staff academaidd a chwaraeon wedi arfer rheoli gofynion perfformwyr academaidd a chwaraeon. Dros y blynyddoedd maent wedi meithrin perthynas effeithiol ag ystod eang o glybiau chwaraeon a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol ledled Prydain.