Cardiff School of Sport and Health Sciences>Courses>Sport Performance Analysis - BSc (Hons) Degree
BSc (Hons) Sport Performance Analysis

Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon - Gradd BSc (Anrh)

 

Ffeithiau allweddol

Cod UCAS: C690

Lleoliad Astudio: 
Campws Cyncoed

Ygol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair mlynedd llawn-amser.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall gymryd hyd at chwe blynedd. Mae'r myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â'r myfyrwyr llawn-amser ar gyfer pob modiwl. Felly cwblheir y rhan fwyaf o'r modiwlau rhwng 9.00 am a 6.00 pm yn ystod yr wythnos.

Ffioedd rhan-amser:
Codir taliadau fesul modiwl unigol oni nodir yn benodol: israddedig = 10 credyd. Cysylltwch ag arweinydd y rhaglen i gael mwy o wybodaeth am fodiwlau i'w hastudio'n rhan-amser a sut y bydd hyn yn effeithio ar ffioedd.

Blog Myfyriwr


WHAT IS SPORT PERFORMANCE ANALYSIS (AND WHY SHOULD YOU STUDY IT)?
Lucy Wilde.
 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon yn raglen gwyddor chwaraeon gymhwysol sy'n canolbwyntio ar ddeall, gwella a dadansoddi perfformiad mewn chwaraeon. Mae'r cwricwlwm yn datblygu eich gwybodaeth o ddadansoddi tactegol, mesur effeithiolrwydd technegol, a dadansoddi technegau penodol mewn perfformiad chwaraeon gan ddefnyddio amryw o dechnegau a thechnoleg fodern. Hefyd, byddwch yn cael eich cyflwyno i ddadansoddiad ymddygiadol hyfforddwyr ac athletwyr, a'r defnydd o dechnegau tracio athletwyr.

Mae'r modiwlau craidd mewn dadansoddi perfformiad yn cael eu hategu a'u hatodi gan fodiwlau o feysydd perthnasol hyfforddiant, addysgeg a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Mae'r elfennau hyn yn rhoi blas unigryw i'r cwrs sy'n eich galluogi i ddeall yr egwyddorion damcaniaethol a sgiliau prosesau cymhwysol sy'n sail i ddadansoddi perfformiad.

Cewch lawer o gyfleoedd i ddatblygu eich gwybodaeth ymarferol a chyd-destunol ym maes ymarfer, hyfforddi a pherfformio a fydd yn eich galluogi i werthuso a newid eich ymarfer proffesiynol chi fel dadansoddwr a pherfformiad perfformwyr a hyfforddwyr mewn amrywiaeth o chwaraeon. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau galwdigaethol penodol sydd eu hangen i gychwyn ar yrfa mewn dadansoddi perfformiad.

Course information on this page relates to September 2019 entry.Mae gwybodaeth am y cwrs ar y dudalen hon yn ymwneud â Medi 2019. Caiff y rhaglen hon ei hadolygu'n gyfnodol yn 2018/19. O'r herwydd, gall gynnwys y cwrs a ddangosir isod newid er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol. Bydd unrhyw ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau wedi iddynt gael eu cadarnhau.

​Cynnwys y Cwrs

Yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio byddwch yn ymgymryd â chwe modiwl gorfodol. Trwy gydol y modiwlau hyn byddwch yn archwilio cysyniadau allweddol ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon, cyn symud ymlaen i ddefnyddio a chymhwyso technolegau dadansoddi masnachol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwlau i hwyluso'ch cyfnod pontio i astudio ar lefel prifysgol, ymchwilio i ddamcaniaethau ym maes Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn ogystal â chael cyfleoedd i ennill hyfforddiant galwedigaethol cydnabyddedig a chymwysterau proffesiynol sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar y flwyddyn gyntaf gyda modiwlau dadansoddi derfformiad chwaraeon yn eich helpu i ymchwilio ymhellach i ddamcaniaethau dadansoddol ac adborth o fewn dadansoddi, hyfforddi a dysgu athletwyr, tra hefyd yn cael mwy o ffocws ar ddefnyddio'r wybodaeth mewn lleoliad cymhwysol. Yn faes galwedigaethol, cewch gyfleoedd i ddatblygu eich hunaniaeth broffesiynol gynnar ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon drwy ddysgu sy'n gysylltiedig â gwaith (e.e. darlithoedd gan arbenigwyr/gwestai) a dysgu’n seiliedig ar waith (e.e. lleoliadau). Fel maes allweddol, mae dysgu’n seiliedig ar waith wedi'i gynllunio er mwyn eich galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth o'r rhaglen mewn sefyllfa go iawn a chael profiadau gwerth chweil fel sylfaen ar gyfer gwaith yn y dyfodol

Mae'r flwyddyn olaf o astudio’n rhoi cyfle i chi archwilio meysydd cyfoes sy'n gysylltiedig â'r maes dadansoddi perfformiad chwaraeon. Byddwch yn archwilio a chymhwyso sgiliau datrys problemau i feysydd damcaniaethol cysylltiedig yn ogystal ag ymgymryd â thasgau dadansoddi cymhwysol sy'n gysylltiedig â rôl dadansoddwr perfformiad mewn chwaraeon perfformiad uchel. Mae'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel dysgwr annibynnol, ysgogol a all reoli eich dysgu a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch cam cyntaf i gyflogaeth raddedig neu astudiaethau pellach.

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail nodau addysgol a deilliannau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Amgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn elfen annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog, sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu beirniadol, ac yn annog integreiddio ymarfer a theori. Drwy gydol eich rhaglen, byddwch yn cael profiad o ddysgu a arweinir gan diwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori 'EDGE' Met Caerdydd (Sgiliau Moesegol, Byd-Eang, Digidol & Entrepreneuraidd) a byddwch mewn sefyllfad da i ddangos priodoleddau graddedig y disgwylir i chi eu cael mewn byd gwaith sy'n mynd yn fwyfwy cystadleuol. Ein nod yw eich helpu i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac yn ysgolheigion beirniadol. Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, byddwch yn cael profiad dysgu o'r cyfnod sefydlu i raddio sy'n gydlynus ac sy'n datblygu eich hunaniaeth o fewn eich rhaglen astudio.

Mae nodweddion penodol o brofiad dysgu ar Ddadansoddiad Perfformiad Chwaraeon yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr ac Ymarferwyr byd-enwog sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
  • Cyfleusterau Dadansoddi perfformiad chwaraeon penodol o safon fyd-eang i wella profiad dysgu myfyrwyr.
  • Mae'n cael ei gydnabod yn eang fel un o raglenni Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon blaenllaw yn DU, gyda model dysgu’n seiliedig ar waith ar gampws unigryw wedi'i gefnogi gan staff arbenigol.

Asesu

Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer eich maes astudio. Cynlluniwyd y dulliau asesu er mwyn gwella eich profiad dysgu ac er mwyn cydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y nodwyd gan y FHEQ a FFCCHC). Mae asesiadau'n ategu eich profiad dysgu drwy roi cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi eich gwybodaeth, eich gallu, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth feirniadol. Asesir y modiwlau israddedig drwy gyfuniad o fathau o asesiadau. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau wedi’u gweld a heb eu gweld
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill sydd wedi'u cynllunio er mwyn asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Bydd disgwyl i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a all fod yn brosiect ymchwil, arloesedd, ymgynghoriaeth neu gymunedol.​

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae EDGE Met Caerdydd yn eich cynorthwyo i ffynnu yn y byd modern. Drwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd drwy ddysgu sy'n seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos diwydiant y byd go iawn, profiadau gwaith integredig ar y campws a cyfleoedd ar gyfer lleoliadau dysgu’n seiliedig ar waith oddi ar y campws. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy megis cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth./p>

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn amrywiaeth o feysydd diwydiant perthnasol gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, ymarfer corff & iechyd a diogelwch. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r llu o gyfleoedd lleoliadau gwaith a gynigir ar y campws ac oddi arno. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi mantais hollbwysig i chi o ran cael gwaith proffesiynol ar ôl graddio. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio gyda BSc Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd o fewn y Diwydiant Chwaraeon a thu hwnt.

Mae diwylliant beunyddiol y ddarpariaeth dadansoddi perfformiad, ynghyd â phrofiadau galwedigaethol perthnasol, yn creu amgylchedd sy'n ategu'r dysgu a datblygiad proffesiynol. Amlygir hyn gan lwyddiant recriwtio graddedigion gan glybiau mawr a thimau rhyngwladol mewn amryw o chwaraeon. Mae graddedigion diweddar y BSc Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon bellach yn gweithio i’r English Institute of Sport, Chwaraeon Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Rygbi'r Scarlets, Undeb Rygbi'r Alban, Bath RFC, Clwb Pêl-droed Southampton, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Clwb Pêl-droed Briste a thu hwnt, fel y New South Wales Institute of Sport yn Awstralia. Mae myfyrwyr eraill wedi parhau i astudio ymhellach ar lefel meistr a doethuriaeth.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg (neu Iaith Gyntaf Gymraeg) a gradd C neu'n uwch mewn Mathemateg* (gradd 4 neu'n uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr) ynghyd â 120 - 128 o bwyntiau o 3 Safon Uwch (neu gyfwerth). Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:

  • Safon Uwch: 120 - 128 o bwyntiau i gynnwys graddau BB. Bydd Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried yn drydydd pwnc
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM mewn pwnc perthnasol
  • Diploma Estynedig VTCT mewn Astudiaethau Chwaraeon gradd DDM yn gyffredinol
  • Irish Leaving Certificate: 120 - 128 pwynt o Lefel Uwch i gynnwys graddau 3 x H2 (y radd i
  • saf a ystyrir yw H4)
  • Advanced Highers yr Alban: 120 - 128 pwynt i gynnwyd graddau CC
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio gyda 15 credyd gyda rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod
  • Yn ddelfrydol, dylai fod gan ymgeiswyr broffil chwaraeon cryf

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy'n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd.

Fel arfer, gwneir cynnig i ymgeiswyr yn seiliedig ar y manylion uchod. Bydd cynigion nodweddiadol yn cael eu gwneud o fewn yr ystod tariff a nodir uchod a byddant yn seiliedig ar gryfder eich cais cyffredinol, gan gynnwys eich proffil academaidd a chwaraeon. Ar gyfer ymgeiswyr sydd yn ymgymryd â 2 Safon Uwch (neu gyfwerth) yn unig neu sydd ddim yn rhagweld eu bod am gyrraedd y tariff safonol, caiff ceisiadau eu hystyried ar sail y proffil academaidd cyfan ac efallai y byddwn yn gwneud cynnig wedi'i raddio yn lle cynnig gan ddefnyddio Tariff UCAS.

Os ydych yn astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu edrychwch ar dudalen Chwilio am Gwrs UCAS am y gofynion mynediad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.

Diwrnodau Ymgeiswyr Chwaraeon:

Gwahoddir yr ymgeiswyr llwyddiannus i Ddiwrnod Ymgeiswyr Chwaraeon Penodol fel rhan o'r broses ymgeisio. Am fwy o wybodaeth am Ddyddiau Chwaraeon Agored a Dyddiau Ymgeiswyr, cliciwch yma. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus roi'r flaenoriaeth gyntaf i dimau chwaraeon y brifysgol drwy gydol eu gyrfaoedd israddedig.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Y Broses Ddethol:
Mae'r broses ddethol yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS wedi'i gwblhau a'r presenoldeb ar gyfer Diwrnod Ymgeiswyr Chwaraeon.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn ar-lein i UCAS: www.ucas.com. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply. Dylid gwneud ceisiadau rhan-amser yn uniongyrchol i'r Brifysgol yn www.cardiffmet.ac.uk/selfservice.
Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (RPL) a Throsglwyddo Credyd i flwyddyn 2 a 3

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a / neu 3, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.

Myfyrwyr aeddfed

Ymgeisydd aeddfed yw unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a gellir cael mwy o gyngor a gwybodaeth yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thîm Cefnogi’r Rhaglen:
E-bost: CCProgadmin@cardiffmet.ac.uk


Gellir dod o hyd i’r telerau ac amodau llawn sy’n ymwneud â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms