MCCU Caerdydd De Cymru

​​​ ​​​​​​

Ffurfiwyd MCCU Caerdydd De Cymru (Crimson Caps) gan dair prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Mae Prifysgolion yr MCC, y mae pob un ohonynt yn cael cyllid bob blwyddyn gan yr MCC (Clwb Criced Marylebone), wedi'u hanelu at fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd sydd â'r potensial i chwarae criced o’r radd flaenaf, a myfyrwyr benywaidd sydd wedi chwarae ar lefel uwch o fewn y siroedd. Nod MCCU yw rhoi cyfle i gricedwyr ifanc talentog gael cyfleoedd hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf wrth fynd ymlaen â’u haddysg.

Cardiff University Home Page Button Cardiff Metropolitan University Home Page Button​  University of South Wales Home Page Button

 

Mae’r MCCU wedi'i leoli ym mhrif ddinas Cymru ac o'i chwmpas, ac mae yna gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol rhwng y tri sefydliad partner.

Mae MCCU De Cymru Caerdydd, yn chwarae gemau cartref ar gaeau a ddefnyddir gan Glwb Criced Sir Morgannwg, gan gynnwys Gerddi Sophia.

Met Caerdydd yw'r canolbwynt ar gyfer gweithrediadau’r Ganolfan o ddydd i ddydd. Mae hyfforddiant hefyd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ysgol griced dan do CCS Morgannwg yn stadiwm SWALEC.​

Cysylltwch â mdoleary@cardiffmet.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.​

Sut i wneud Cais

Gallwch wneud cais i ddod yn aelod o sgwad MCCU Caerdydd De Cymru trwy e-bostio'ch CV at Mark O'Leary (Prif Hyfforddwr).

E-bost: mdoleary@cardiffmet.ac.uk

​Fel arall, cliciwch yma​ i lenwi ffurflen gais ar-lein o wefan prifysgolion MCC.

​​​Graddedigion Proffesiynol

Ers sefydlu MCCU Caerdydd De Cymru mae rhai o'r chwaraewyr wedi cael contractau proffesiynol ac wedi chwarae criced o’r radd flaenaf. Yn eu plith mae:

  • Aaron Nijjar (CCS Essex)

  • Kieran Bull (CCS Morgannwg)

  • Jake Libby (CCS Swydd)

  • Matthew Hobdon (CCS Sussex)

  • Fabian Cowdrey (CCS Caint)

  • Andrew Salter (CCS Morgannwg)

  • Heather Knight (Lloegr)

  • Andrew Balbirnie (CCS Middlesex ac Iwerddon)​​​