Chwaraeon Glân

Cardiff Met Sport Display Banner with logo and student exercising in the gym

​​​​​​Ein hymrwymiad i Chwaraeon Glân

Mae gan bawb sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yr hawl i gystadlu mewn chwaraeon heb gyffuriau (Chwaraeon Glân).

Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi safbwynt Gwrth-Gyffuriau'r DU (UKAD) a Gwrth-Gyffuriau'r Byd (WADA) sef bod twyllo, gan gynnwys dopio, mewn chwaraeon yn groes i ysbryd cystadlu.

                               

Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i’r canlynol:

  • Cefnogi cenhadaeth UKAD a WADA

  • Darparu addysg a chyngor a gymeradwywyd gan UKAD i'n holl athletwyr a hyfforddwyr

  • Disgwyliad y bydd pob athletwr, hyfforddwr a phersonél cymorth yn ymddwyn yn unol â disgwyliadau rhaglen 100% ME UKAD

  • Gweithio gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol ym maes chwaraeon i gefnogi cenhadaeth UKAD a WADA ac atal cyffuriau mewn chwaraeon.

  • Peidio â goddef, cynorthwyo na chefnogi'r defnydd o sylweddau a dulliau gwaharddedig (oni chaniateir hynny gan yr

  • Esemptiad Defnydd Therapiwtig) mewn unrhyw agweddau ar eu gwaith.

  • Sicrhau y bydd unrhyw un sy'n torri'r Cod Ymddygiad Chwaraeon yn cael eu cyfeirio at yr asiantaeth fewnol neu allanol briodol.

  • Rhoi gwybod, yn gyfrinachol, i linell gymorth UKAD Doping in Sport am unrhyw ddigwyddiad y mae staff yn ymwybodol ohono sy'n ymwneud yn uniongyrchol â Chwaraeon Met Caerdydd a'r defnydd o sylweddau gwaharddedig.

  • Cynnal unrhyw sancsiynau a roddir ar athletwr gan UKAD neu gyrff priodol eraill yn unol â chod WADA.