Chwaraeon Met Caerdydd>Iechyd a Ffitrwydd>Dosbarthiadau Ffitrwydd

Dosbarthiadau Ffitrwydd

​​​​​​​

Mae dosbarthiadau yn agored i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau, ac maent yn cael eu harchebu trwy Ap Chwaraeon Met Caerdydd​​.

  • Gall ​ aelodau archebu dosbarthiadau am ddim gan ddefnyddio Ap Chwaraeon Met Caerdydd.​

  • ​Mae'n ofynnol i'r rhai nad ydynt yn aelodau sefydlu proffil 'Talu Wrth Fynd' ar Ap Chwaraeon Met Caerdydd​.

Mae amserlenni dosbarthiadau ar gael ar Ap Chwaraeon Met Caerdydd.​

​ ​

Gwybodaeth Dosbarth

  • Mae dosbarthiadau'n addas ar gyfer pob lefel gallu.
  • Rhaid i'r cyfranogwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn (oni nodir yn wahanol yn disgrifiad o'r dosbarthiadau isod).
  • Rhowch wybod i'r Hyfforddwr os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol a allai effeithio ar eich gallu i wneud ymarfer corff.
  • Ni fydd dosbarthiadau ar wyliau banc.

Ffoniwch 029 2041 6743 (Canolfan Ffitrwydd Cyncoed) neu 029 2041 6779 (Canolfan Ffitrwydd Llandaf) i gael rhagor o wybodaeth.

Fel arall, e-bostiwch y Rheolwr Ffyrdd o Fyw Egnïol: gjwalters@cardiffmet.ac.uk.​

Disgrifiadau o'r ​Dosbarthiadau

Cryfder Barbwysau

Mae’r ymarfer corff llawn hwn yn canolbwyntio ar adeiladu cyhyrau, cynyddu dygnwch, a gwella ffitrwydd cyffredinol drwy ymarferion barbwysau. Yn addas ar gyfer pob lefel o allu, mae’r dosbarth yn cynnwys cynhesu deinamig a symudiadau cyfansawdd fel cyrcydu, codi pwysau marw, pwyso a rhwyfo, a dadgynhesu trylwyr.

Cryfder Pwysau Corff

Mae’r ymarfer di-offer hwn, yn adeiladu cyhyrau, yn cynyddu dygnwch, ac yn gwella ffitrwydd cyffredinol gan ddefnyddio ymarferion fel gwrthwasgu, cyrcydu, rhagwthio a phlanciau. Yn berffaith ar gyfer pob lefel o allu, mae ein hyfforddwyr yn eich tywys drwy’r ffordd gywir o ymarfer corff ac yn cynnig addasiadau personol.

Clwb Codi Pwysau i Ferched

Ymunwch a’n Clwb Codi Pwysau i Ferched a chodi’ch hyder drwy hyfforddiant cryfder mewn amgylchedd cefnogol, sy’n canolbwyntio ar fenywod. Mae’r dosbarth hwn wedi’i gynllunio i adeiladu cyhyrau, cynyddu hyder, a gwella ffitrwydd yn gyffredinol drwy amrywiaeth o ymarferion codi pwysau. Mae ein hyfforddwyr yn darparu arweiniad ar ffurf gywir, technegau, a chynnydd personol wedi’u teilwra i’ch lefel ffitrwydd.

Metrocs

Ymarfer dwyster uchel sy’n cyfuno hyfforddiant cryfder swyddogaethol gydag ymarferion dygnwch. Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys amrywiaeth o orsafoedd megis rhwyfo, rhedeg, gwthio sled, a symudiadau pwysau corff. Gwthiwch eich terfynau, adeiladwch gryfder, a chynyddwch eich dygnwch mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol.

Dosbarth Symudedd

Gwella’ch hyblygrwydd a’ch symudiad gyda’n dosbarth Symudedd! Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar ymarferion ac ymestyniadau sydd wedi’u cynllunio i gynyddu eich ystod symudedd, lleihau stiffrwydd cyhyrau ac atal anafiadau. Yn addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd.

Ffitrwydd Beichiogrwydd

Cadwch yn llawn egni ac yn iach yn ystod eich beichiogrwydd gyda’n dosbarth Ffitrwydd Beichiogrwydd! Wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer mamau beichiog, mae’r dosbarth hwn yn canolbwyntio ar ymarferion diogel ac effeithiol i gefnogi’ch corff newidiol a’ch paratoi ar gyfer genedigaeth. Dan arweiniad hyfforddwyr ffitrwydd cyn-geni ardystiedig, bydd y sesiwn yn cynnwys cyfuniad o ymarferion cardio, cryfder, hyblygrwydd ac anadlu.

Sesiwn Flasu Hyfforddwr Personol

Gallwch gael blas ar sesiynau ffitrwydd personol gyda’n Sesiwn Blasu Hyfforddiant Personol unigryw! Mae’r profiad rhagarweiniol hwn yn cynnig cipolwg ar fyd hyfforddiant un-i-un wedi’i deilwra’n benodol i’ch nodau a’ch anghenion.

Clwb Rhedeg

Ymunwch â’n Clwb Rhedeg bywiog wrth redeg gyda grŵp cefnogol ac ysgogol a phrofwch yr amgylchedd llawen! P’un a ydych chi’n rhedwr profiadol neu dim ond yn dechrau arni, mae ein clwb yn croesawu pob lefel o ffitrwydd a chyflymder.

LBT i Ferched yn Unig

Dosbarth ffitrwydd poblogaidd yw hwn sydd wedi’i gynllunio i dargedu a chryfhau tair rhan benodol o’r corff: y coesau, y penwain, a chyhyrau’r abdomen. Mae’n ymarfer cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar ymarferion hyfforddi cyflyru cryfder i helpu cerflunio a chryfhau’r meysydd allweddol hyn. Mae’r dosbarth wedi’i gynllunio ar gyfer pob lefel o ffitrwydd a gallu - o’r dechreuwyr i’r rhai mwy profiadol.

Craidd a Chydbwysedd

Nod y dosbarth hwn yw datblygu craidd cryf, gwella sefydlogrwydd a chydsymud, a gwella ffitrwydd swyddogaethol cyffredinol, gan ei wneud yn fuddiol i unigolion o bob lefel ffitrwydd ac oedran.

Ffitrwydd swyddogaethol

Math o ymarfer corff sy’n canolbwyntio ar wella cryfder, dygnwch, hyblygrwydd a symudedd cyffredinol drwy ymarferion sy’n dynwared symudiadau bywyd go-iawn yw hwn. Fe’i cynlluniwyd i wella eich gallu i gyflawni tasgau bob dydd yn effeithlon a gyda llai o risg o anaf. Mae awyrgylch y dosbarth yn gefnogol a chynhwysol, gan feithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith cyfranogwyr.

Pilates

Mae'r dosbarth hwn yn cynnig ymarfer corff cynhwysfawr sy'n targedu'r corff cyfan, yn gwella cryfder eich craidd, yn gwella hyblygrwydd, ac yn hyrwyddo cysylltiad meddwl-corff. Mae ymarferion Pilates yn aml yn canolbwyntio ar y cyhyrau craidd, gan gynnwys y bol, rhan isaf y cefn, y cluniau a chyhyrau’r ffolennau. Mae’r dosbaeth hwn addas ar gyfer unigolion o bob lefel ffitrwydd a gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion a nodau unigol.

Beicio dan do

Ymarfer beicio dan do olynol gyda cherddoriaeth ysgogol. Gall aelodau losgi hyd at 620 o galorïau fesul ymarfer trwy sesiwn hyfforddi a fydd yn caniatáu iddynt ddatblugu eu ffitrwydd yn gyflym. Bydd y dosbarth hwn yn darparu symudiadau beicio sylfaenol, sefyll i fyny, eistedd i lawr, newid cyflymder, a newid safle’r dwylo. Ffordd wych i adeiladu ymdeimlad o'ch cyflawniad personol chi ar eich cyflymder chi.

YOGA

Mae'r dosbarthiadau hyn yn addas ar gyfer pob lefel gallu ac yn cyfuno ystumiau penodol, technegau anadlu ac ymwybyddiaeth ofalgar i annog y corff a'r meddwl i ymlacio. Mae’r sesiynau hyn yn defnyddio ymarferion sy’n canolbwyntio ar gryfder, hyblygrwydd ac anadlu sy’n sicr o hybu lles corfforol a meddyliol.

Bwtcamp

Prif ffocws dosbarth ffitrwydd bwtcamp yw gwella lefelau ffitrwydd cyffredinol, llosgi calorïau, adeiladu cryfder, cynyddu dygnwch, a gwella iechyd cardiofasgwlaidd. Gall cyfranogwyr ddisgwyl chwysu, herio eu hunain, a chael profiad o ymarfer corff cyfan mewn amgylchedd grŵp cefnogol ac egnïol. Gall bŵtcamps fod dan do ac yn yr awyr agored a defnyddio amrywiaeth o offer fel clychau tegell, peli ymarfer, bagiau pwnio a rhaffau brwydro.

Cryfder i Ddechreuwyr

Sesiwn ymarfer corff mewn grwpiau sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer unigolion sy'n newydd i hyfforddiant cryfder neu sydd â phrofiad cyfyngedig o godi pwysau. Prif ffocws y dosbarth hwn yw cyflwyno ymarferion cryfder sylfaenol a darparu amgylchedd cefnogol ac ysgogol.

Campfa i'r Teulu

mae'r dosbarth hwn yn sesiwn ymarfer corff wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer anghenion ffitrwydd y teulu cyfan. Mae'n canolbwyntio ar greu amgylchedd hwyliog a deniadol lle gall aelodau'r teulu ymarfer gyda'i gilydd a chefnogi ei gilydd ar eu taith ffitrwydd.

Cydbwysedd a Symudedd

Rhaglen ymarfer corff arbenigol sydd wedi'i chynllunio i wella ffitrwydd corfforol cyffredinol trwy dargedu rhannau penodol o'r corff a gwella patrymau symud gweithredol. Mae'r math hwn o ddosbarth yn addas ar gyfer unigolion o lefelau ffitrwydd amrywiol, gan gynnwys pobl hŷn, athletwyr, ac unrhyw un sy'n edrych i wella eu cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd cyffredinol.