Pwy all ddefnyddio cyflesuterau Met Heini ar hyn o bryd?
Mae Met Heini ar agor i aelodau ac i’r rhai and ydynt yn aelodau.
Mae hynny’n cynnwys Myfyrwyr, Staff a’r gymuned lleol.
Rwy’n aelod allanol, beth ddylwn i ei wneud?
Lawrlwythwch Ap Chwaraeon Met Caerdydd – Cliciwch ‘Ymunwch a Ni’, rhowch eich manylion, yna gallwch benderfynu ymuno ag un o’n haelodaeth neu ymuno fel aelod ‘Talu Wrth Fynd’ lle gallwch dalu i ddefnyddio ein gwasanaethau a’n cyfleusterau.
Beth sy’n rhaid i mi ei wneud cyn ymuno’r gampfa?
I ddefnyddio’r gampfa neu fynychu dosbarth mae’n rhaid i chi archebu safle gan ddefnyddio’r Ap Chwaraeon Met Caerdydd, sydd i’w lawr lwytho am ddim ar y siop apiau neu Play Store, neu ar-lein. Mae pob sesiwn yn para 50 munud. Gallwch archebu dosbarth neu sesiwn gampfa hyd at saith diwrnod ymlaen llaw.
Beth os na allaf fynychu archeb?
I ganiatáu i ni agor ein cyfleuster i’r nifer fwyaf o bobl ag sy’n bosib, os nad ydych yn gallu mynychu eich archeb, gadewch i ni wybod o flaenllaw. Rydym yn gofyn i chi rhoi rhybudd o 24 awr wrth ganslo archeb i ganiatáu i rywun arall cymryd eich archebu. Lle nad yw sylw yn cael ei rhoi, bydd ffi archebu a gollwyd yn cael ei gosod ar eich cyfrif.
Beth ddylwn i ei wneud wrth gyrraedd y gampfa?
Ewch i’r cyfleusterau Met Heini a rhowch wybod at aelod o ddesg y derbynfa eich bod wedi cyrraedd.
Beth ddylwn i ei wneud wrth adael y gampfa?
Gadewch yn frydlon pan fydd eich amser wedi dod i ben.