Prynwch Becyn Bwyd Gwobrau Met ac arbedwch 20% ar gost eich bwyd a diod wrth astudio ar y campws.
Gellir cyfnewid pecynnau bwyd Gwobrau Met yn erbyn unrhyw bryniannau bwyd a diod yn y mannau arlwyo a reolir gan y Brifysgol:
Llandaf - Yr Atriwm, Yr Oriel, Yr Hyb, Y Blwch
yncoed – Bwyty K1, Y Fainc, Y Trac
Mae defnyddio Gwobrau Met i brynu bwyd a diod ar gampysau Met Caerdydd yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth enfawr o fwyd a diod blasus:
- Dechreuwch eich diwrnod gyda'n bwydlen frecwast, a yw'n well gennych frecwast llawn neu bowlen o uwd? Galwch draw i Atriwm YRC yn Llandaf neu K1 yng Nghyncoed i drio drosoch eich hun.
- Mae gennym amrywiaeth wych o siopau coffi, gyda Phrydau Tymhorol Arbennig ar werth nawr yn Starbucks ( Yr Hyb ) neu Costa ( Yr Atriwm , Oriel neu’r Trac NIAC ). Tretiwch eich hun i'ch hoff ddiod yn ystod y dydd.
- Amser cinio mwynhewch ein Rhost Cerfdy Traddodiadol ar ddydd Mawrth, Cyri Thali ar ddydd Iau neu Bysgod a Sglodion ar ddydd Gwener. Gallwch hefyd godi brechdan neu salad tecawê ac amrywiaeth o ddiodydd oer.
I brynu eich pecyn bwyd, ewch i
Siop Ar-lein Met Caerdydd. Unwaith y byddwch wedi prynu ein pecyn bwyd, bydd y lwfans yn cael ei lwytho i'ch Ap Gwobrau Met.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at metrewards@cardiffmet.ac.uk neu galwch i mewn i un o'n siopau.
Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol.