Astudio>Catering>Where to eat on campus

Ble i Fwyta Ar y Campws

Where To Eat On Campus

locally sourced.jpg

Dewch o hyd i'r lle perffaith i gael tamaid i'w fwyta a phaned o goffi. Yma gallwch ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am fwyd a diod ar y campws. Mae gennym chwe lleoliad ar draws campysau Cyncoed a Llandaf.

Campus Cyncoed


Bwyty K1

Y prif fwyty lle mae myfyrwyr, staff a gwesteion yn mwynhau bwyd o’r ansawdd gorau am bris rhesymol ac o ffynonellau lleol.

Yng nghanol Campws Cyncoed, wrth y brif dderbynfa mae'n un o'r mannau arlwyo mwyaf yn y Brifysgol. Lle gwych i ddal i fyny gyda'ch ffrindiau neu ymlacio a mwynhau bwyd a diod o’r ansawdd gorau sy'n rhoi gwerth am arian. Bwyty K1 yw’r prif gyfleuster bwyta ar gyfer yr holl fyfyrwyr preswyl.

Caffi'r Fainc

Lle mae hyfforddwyr ac addysgwyr yn dod at ei gilydd i fwynhau diodydd a byrbrydau.

Lleolir y Fainc ger y cyfleusterau chwaraeon poblogaidd ar gampws Cyncoed. Mae’r cyfleuster arlwyo cyfoes hwn yn cynnig coffi barista ynghyd ag amrywiaeth wych o gacennau moethus, bwyd a diodydd poeth ac oer, gan gynnwys baguette clodwiw y Fainc.

Y Trac

Mwynhewch ddiod a thamaid i'w fwyta yn y seddi y mae Olympiaid wedi eistedd ynddynt!

Wedi'i leoli ym mhrif gyntedd yr arena chwaraeon dan do Genedlaethol wych. Mae’r Trac yn gartref i’r ffefryn ar y stryd fawr, Costa Coffee, ac mae’n cynnig dewis eang o fyrbrydau poeth ac oer, cacennau moethus, cynhyrchion iach a chwaraeon.

Campws Llandaf


Llys Bwyd Atriwm YRC

Prydau poeth a bwyd rhyngwladol mewn cyfleuster modern yng nghanol Ysgol Reoli Caerdydd.

r Atriwm yw’r cwrt bwyd mwyaf ar Gampws Llandaf sy’n cynnig dewis helaeth ac amrywiol o fwyd a diod. Mae'r cwrt bwyd ar agor o frecwast tan fin nos gan roi amser a chyfleustra i chi fwyta o amgylch eich ymrwymiadau academaidd a chymdeithasol prysur. Mae'rc cwrt bwyd hefyd yn cynnig eich hoff ddiodydd Costa, teisennau a chacennau. P'un a ydych yn bwriadu bwyta i mewn neu nôl tecawê, mae digonedd o fwydydd i ddewis ohonynt a staff wrth law i helpu.

Yr Oriel

Amser i feddwl gyda diod boeth tra’n gwylio'r byd yn mynd heibio ar gampws Llandaf

Mae’r Oriel yn lle gwych i gwrdd a threulio amser gyda ffrindiau dros goffi barista deniadol ac amrywiaeth eang o gacennau, cawl, brechdannau poeth a thatws trwy’u crwyn. Mae'r oriel wedi'i lleoli ar y llawr cyntaf ychydig uwchben y parth-g ger y brif dderbynfa.

Caffi'r Blwch

Ymlaciwch gyda choffi a byrbrydau wrth fwynhau naws artistig Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Peidiwch â chael eich twyllo gan ein maint, efallai bod caffi’r Blwch yn fach ond mae gennym ni ddewis gwych o goffi, brechdanau a chawl poeth i chi eu mwynhau rhwng darlithoedd a seminarau. Mae caffi’r Blwch wedi’i leoli yng ngofod y galon ar lawr cyntaf adeilad yr Ysgol Gelf a Dylunio.

Caffi’r Hyb

Canolfan gymdeithasol newydd i staff a myfyrwyr wedi’i lleoli o flaen campws Llandaf. Mae’r hyb yn gartref i goffi Starbucks a chyfleuster bwyd poeth newydd. Bydd y lleoliad bwyd poeth yn agor yn gynnar ym mis Medi 2022.

The Hub is a great place to meet and spend time with friends over a tempting Starbucks coffee and a wide range of pastries, cakes, iced drinks and toasties. The Hub is located at the front of the campus and real focal point for students to spend time inbetween lectures.

Llandaff map showing catering venues.JPG 

Cyncoed map showing catering venues.JPG