Ein nod yw darparu bwyd ffres o safon i'n holl gwsmeriaid am bris cystadleuol.
P’un a ydych yn chwilio am baned o goffi ffres neu bryd o fwyd cyllel a fforc, mae ein tîm o staff proffesiynol cyfeillgar ac amrywiaeth o gyfleusterau yma i ddiwallu’ch anghenion.
Rydym yn darparu ar gyfer ystod eang o anghenion a dewisiadau dietegol, gan gynnwys:
- opsiynau fegan a llysieuol
- darparu ar gyfer dietau arbennig– cael sgwrs gyda’n cogyddion, a fydd yn hapus i helpu
- bwyd halal ar gael yn y rhan fwyaf o’n cyfleusterau arlwyo
- gwybodaeth am alergenau ar gyfer pob pryd, ar gael ar gais
- Amrywiaeth iach o fwyd ar gael ar draws y 7 cyfleuster arlwyo ar y campws
Cadwch ef ar y Campws
Arlwyo ym Met Caerdydd yw gwasanaeth y Brifysgol ei hun. Mae'r holl incwm yn cael ei ail-fuddsoddi yn y Brifysgol a'i chyfleusterau er mwyn gwella profiad y myfyrwyr
Arobryn
Gwobr aur Cymdeithas Bwytai Cynaliadwy.
Yn ddiweddar, enillodd gwasnaeth arlwyo Met Caerdydd wobr aur gan y gymdeithas bwytai cynaliadwy, gan nodi ei hymrwymiad i fwyta cynaliadwy.
Gwobr Academi Gynaliadwy.
Yn 2018 dyfarnwyd gwobr Academi Gynaliadwy i ni am ein hymrwymiad parhaus i leihau gwastraff ar y campws a’n haddewid di-blastig.
Am fanylion pellach
http://www.sustainableacademy.wales/innovation-in-procurement-or-supply-chain-winner/
Diogelwch Bwyd
Gallwch fod yn hollol sicr, mae gan bob cyfleuster arlwyo ar y campws y sgoriau uchaf gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Rydym hefyd yn cynnal gwobr Aur Dewisiadau Iach ar y ddau gampws, i gydnabod yr amrywiaeth o opsiynau iach sydd ar gael ar draws ein bwydlenni.