Ymchwil ac Arloesi>Arloesi>Gweithio gyda Busnesau a Sefydliadau

Gweithio gyda Busnesau a Sefydliadau

 

Mae ymgysylltu â phartneriaid allanol yn galluogi cyfleoedd i staff a myfyrwyr herio’u hunain yn eu cymunedau ehangach i ennill profiadau a sgiliau newydd, yn ogystal â chyfrannu trwy rannu’u gwybodaeth a’u harbenigedd technegol.

Mae sawl ffordd y gall ein staff weithio gyda chi – dyma rai enghreifftiau yn unig isod:

Ymgynghori a rhannu ein harbenigedd

Mae llawer o’n staff yn gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau i helpu i fynd i’r afael â heriau penodol. Mae enghreifftiau’n amrywio o hyfforddi a dadansoddi gemau, i ffisioleg chwarae, gan fynd ati i greu cipolygon newydd i arferion a thechnolegau chwaraeon ac iechyd.
 
Mae cysylltiad agos rhwng ein gweithgareddau ymgynghori â’n themâu Ymchwil ac Arloesi, a chânt eu cyflwyno trwy’r grwpiau hyn.  Hefyd, mae canolfannau arbenigol yn yr Ysgol, gan gynnwys ein Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five, sy’n gartref i gyfleusterau o’r radd flaenaf a thîm o arbenigwyr ar y diwydiant bwyd a gyndabyddir yn rhyngwladol; ein Canolfan Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd, sy’n gartref i gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o asesu a rheoli materion galwedigaethol ac amgylcheddol; a’n Canolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles, sy’n dwyn ynghyd arbenigedd o feysydd chwaraeon a gwyddorau iechyd, gan gynnwys hybu iechyd, seicoleg, therapïau cyflenwol, newid ymddygiad, gofal iechyd a hyrwyddo iechyd meddwl.

Datblygiad Proffesiynol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Ein nod yw gwella ansawdd y sectorau rydym ni’n gweithio gyda nhw ac ynddynt trwy gynnig hyfforddiant proffesiynol, Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), cyrsiau byr a chyrsiau pwrpasol. Hefyd, cynigiwn ddysgu mwy traddodiadol, sef Rhaglenni ôl-raddedig a Doethuriaethau Proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth am DPP a hyfforddiant, cysylltwch â’r swyddfeydd Ymchwil ac Arloesi:
Campws Llandaf (Gwyddorau Iechyd): cshsresoffice@cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 6841/7007
Campws Cyncoed (Chwaraeon): CCR-I@Cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 6305

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

Mae Prosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth yn dwyn busnesau a’r Brifysgol ynghyd, gan roi cyfle i drosglwyddo gwybodaeth, technoleg a sgiliau nad yw’r cwmni partner yn gallu cael atynt ar hyn o bryd. Gall prosiectau ddigwydd naill ai dros gyfnod o 12 i 36 mis, neu ar ffurf 6 i 12 mis cywasgedig. Rhoddant gyfle i fusnesau ymwneud ag ysgolheigion a’u hymchwil flaenllaw, a fydd yn helpu’r busnes i fynd i’r afael â briff diffiniedig clir, sy’n eu helpu i ddatblygu’u busnes.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, cysylltwch â’r swyddfeydd Ymchwil ac Arloesi:
Campws Llandaf (Gwyddorau Iechyd): cshsresoffice@cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 6841/7007
Campws Cyncoed (Chwaraeon): CCR-I@Cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 6305

 

Cyngor i Lunwyr Polisïau

Mae ein staff yn cynorthwyo amrywiaeth o lunwyr polisïau o sefydliadau a ariennir gan y llywodraeth a chyrff proffesiynol, gan rannu’u harbenigedd academaidd ac ymarferol ym meysydd chwaraeon ac iechyd fel ei gilydd.

 

Cyngor Arbenigol

Gall staff yn yr Ysgol ddarparu cyngor a chymorth arbenigol mewn amrywiaeth eang o feysydd, yn amrywio o iechyd y gweithlu i hyfforddiant elît.  Mae ein themâu Ymchwil ac Arloesi yn grwpio amrywiaeth o arbenigeddau ynghyd ac mae enghreifftiau i’w gweld isod:

• Gwyddor Chwaraeon Gymhwysol – grwpiau’n ymwneud â dadansoddi gwyddonol a chymhwyso disgyblaethau gwyddor chwaraeon mwy traddodiadol, sef ffisioleg, seicoleg a biomecaneg, i berfformiad mewn chwaraeon.

• Iechyd Cardiofasgwlar a Heneiddio – mae’n gartref i Hwb Strôc Cymru, ac mae gwaith/diddordebau’r grŵp yn cynnwys: sail foleciwlaidd, patholeg gellol a ffisioleg glinigol clefydau fasgwlar a niwro-ddirywiol; ffocws ers tro ar homeostasis fasgwlar a llid a mecanweithiau sydd wrth wraidd clefydau cardiofasgwlar; deunyddiau maethol-fferyllol, bwydydd ergogenig ac ailfformiwleiddio bwydydd i wella iechyd.

• Diwylliant, Polisi ac Ymarfer Proffesiynol – nod grwpiau yn y thema hon yw ceisio deall damcaniaethau a gwybodaeth y gwyddorau cymdeithasol yn well, a’u cymhwyso’n well i ymarfer, ac mae’n cynnwys grwpiau sy’n ymwneud ag addysg iechyd corfforol, lles, hyfforddiant chwaraeon a rheolaeth chwaraeon.

• Risg i’r Boblogaeth a Gofal Iechyd – mae’n cwmpasu amrywiaeth fawr o feysydd arbenigol, gyda’r prif ffocws ar iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd, ac mae Canolfannau yn ein Hysgol yn chwarae rhan allweddol mewn nifer o’r grwpiau ymchwil. Mae gwaith hefyd yn cynnwys diogelwch bwyd, microbioleg a haint, seicoleg gymhwysol a newid ymddygiad, a llefaredd, y clyw a chyfathrebu.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r swyddfeydd Ymchwil ac Arloesi:
Campws Llandaf (Gwyddorau Iechyd): cshsresoffice@cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 6841/7007
Campws Cyncoed (Chwaraeon): CCR-I@Cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 6305​

Partneriaethau ac Ymgysylltu â’r Gymuned

Mae’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau iechyd yn hyrwyddo’n nodau Prifysgol Iach, sef datblygu campws cydlynol yn gymdeithasol, cyfrifol yn amgylcheddol a hollgynhwysol, sy’n ceisio cynnwys staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach mewn amrywiaeth o brosiectau.