Mae gan yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd amrywiaeth o gyfleusterau o’r radd flaenaf, ar ddau gampws. Ar ein Campws yn Llandaf, mae ein cyfleusterau Gwyddorau Iechyd yn cynnwys labordai gwyddorau biofeddygol, clinigau proffesiynau iechyd ac amgylcheddau profi bwydydd, i enwi ond rhai. Ar gampws Cyncoed, rydym yn cynnal nifer o gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys amrywiaeth o labordai, clinigau tylino a champfeydd.
I gael rhestr lawn o gyfleusterau ein Hysgol, cliciwch yma.
Hefyd, gallwch ddilyn teithiau rhithwir o amgylch campysau Llandaf a Chyncoed.
Mae gwefan ein Gwasanaethau Cynadledda yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am gyfleusterau’r brifysgol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau, arlwyo a llety. Hefyd, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o ddelweddau i ddangos beth gall y brifysgol ei gynnig a manylion cyswllt ein Tîm Gwasanaethau Cynadledda, sy’n barod i helpu.