Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Doethuriaeth mewn Seicoleg Fforensig Gymhwysol

Doethuriaeth mewn Seicoleg Fforensig Gymhwysol (D. Foren. Psy.)

Mae'r Doethuriaeth mewn Fforensig Gymhwysol yn 'ychwanegiad atodol' a gynlluniwyd ar gyfer Seicolegwyr Fforensig cymwys a hoffai ymgymryd â phrosiect ymchwil cymhwysol mewn maes sy'n gysylltiedig â maes seicoleg fforensig.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

​Cynnwys y Cwrs

Mae'r Doethuriaeth mewn Seicoleg Fforensig Gymhwysol ar gael i Seicolegwyr Fforensig cofrestredig y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn unig. Fe'i cynlluniwyd yn benodol i ddatblygu maes arbenigedd unigolion cymwys ar ôl cofrestru. Mae Cofrestriad HCPC yn caniatáu i ymgeiswyr feddu ar 360 o gredydau ar Lefel 8 sy'n cael ei gydnabod fel dysgu blaenorol. Mae cwblhau traethawd ymchwil 36,000 o eiriau yn darparu'r 180 credyd sydd eu hangen i roi'r teitl Doctor.

Mae ymarfer Seicoleg Fforensig yn waith proffesiynol, cymhleth a heriol iawn. Nod y Doethuriaeth mewn Seicoleg Fforensig Gymhwysol yw cefnogi'r proffesiwn drwy ymarfer ymchwil myfyriol, moesegol sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu gwybodaeth, technegau ymarfer, syniadau neu ddulliau newydd. Bydd yr ymchwil o ansawdd i fodloni adolygiad gan gymheiriaid, ymestyn ffocws y ddisgyblaeth, ac yn deilwng o gael ei gyhoeddi.

Dysgu ac Addysgu

Bydd ymchwilwyr doethurol yn gweithio gyda thîm o oruchwylwyr a fydd yn eu cefnogi i gyflwyno traethawd ymchwil sy'n cofnodi darn sylweddol fawr o ymchwil. Mae gan y traethawd ymchwil derfyn geiriau o 36,000. Cynhelir cyfarfodydd goruchwylio rheolaidd bob blwyddyn, a bydd adolygiad trylwyr o anghenion yn cael ei sefydlu a'i adolygu bob blwyddyn. Lle mae myfyrwyr yn byw gryn bellter o Gaerdydd, gellir hwyluso'r cyfarfodydd goruchwylio trwy MS Teams neu Zoom. Drwy gydol y flwyddyn, bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar weithgareddau dysgu a chymorth ychwanegol a ddarperir ar gyfer Ymchwilwyr Doethurol​.

Asesu

Asesir y traethawd ymchwil gan arholiad viva voce yn unol â rheoliadau Gradd Ymchwil Ddoethurol​.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael eu cofrestru fel Seicolegydd Fforensig gyda'r HCPC a byddant wedi cwblhau llwybr cymeradwy HCPC i gymhwyster​.

I gael gwybodaeth am raddau ymchwil a sut i wneud cais cliciwch yma.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 7.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer yn seiliedig ar ffurflen gais wedi'i chwblhau, cynnig ymchwil a chyfweliad.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasaneth Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen tudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Mae dau gyfle i wneud cais y flwyddyn - Ebrill a Medi. Anogir ymgeiswyr sy'n dymuno cofrestru ar y rhaglen hon i wneud cais erbyn diwedd mis Chwefror a diwedd mis Mehefin.

Cysylltwch â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i'r cwrs, e-bostiwch forensic@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

​Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
2 flynedd rhan-amser gydag ymgeisyddiaeth 4 blynedd