Wrth ymdrechu i fod yn Ysgol Chwaraeon fwyaf blaenllaw'r DU, rydym yn ceisio arwain trwy ansawdd ein gwasanaethau, galluogi ein partneriaid a'n rhanddeiliaid, a datblygu rhwydwaith eang o bartneriaid mewnol ac allanol. Cyflawnir ein menter trwy ganolfannau rhagoriaeth penodol sy'n darparu gwasanaethau pwrpasol, cyfleoedd addysg a hyfforddiant mewn hyfforddi, dadansoddi perfformiad, dawns, arweinyddiaeth a rheolaeth, gwyddor chwaraeon, a meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff.
Mae gan yr ysgol staff a myfyrwyr academaidd, hyfforddi a datblygu chwaraeon o ansawdd uchel, ynghyd â chyfleusterau ac adnoddau addysg o'r radd flaenaf.
Mae ein gweithgareddau menter yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i ymgynghoriaeth, dysgu seiliedig ar waith, trosglwyddo / cyfnewid gwybodaeth, addysg menter, darparu gwasanaethau ac offer dadansoddeg yn fasnachol, sgil-gwmnïau, ymgysylltu â chyrff proffesiynol a gweithgareddau cymdeithasol / diwylliannol.
Mae ein hamcanion menter yn cynnwys:
Partneriaethau cynhyrchiol, trwy ddatblygu sgiliau, trosglwyddo gwybodaeth ac interniaethau;
Arloesi wrth ddarparu gwasanaethau;
Hyrwyddo Gwasanaeth Cyhoeddus; ac,
Effaith Ymchwil