Dawns

​​

Bu cynnydd yn yr ystod o gyfleoedd gyrfa ym maes dawns yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn y galw cynyddol am ymgysylltu a chymryd rhan mewn dawns mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae gan ein staff Dawns arloesol enw da am baratoi ymarferwyr dawns medrus ar gyfer y diwydiant, o fewn amgylcheddau perfformio, cymunedol ac Addysgol. 

Mae’r gwasanaethau'n cynnig cyswllt â pherfformiad llawrydd a choreograffi, addysg ac ymarfer dawns gyda chwmnïau dawns proffesiynol, dawns addysg gynradd ac uwchradd, datblygu dawns, ymchwil, dawns cymunedol, ymarfer cynhwysol, a pherfformiadau dawns masnachol.