elJPAS

Cyfnodolyn Rhyngwladol Dadansoddi Perfformiad mewn Chwaraeon 

Yr International Journal of Performance Analysis of Sport yw cyfnodolyn y Gymdeithas Ryngwladol Dadansoddi Perfformiad mewn Chwaraeon, a gyhoeddir gan y Ganolfan Dadansoddi Perfformiad 3 gwaith y flwyddyn (Ebrill, Awst a Rhagfyr).

Mae'r cyfnodolyn bellach yn ei 10fed flwyddyn ac mae'n cynnwys meysydd dadansoddi techneg, effeithiolrwydd technegol, gwerthuso tactegol, dadansoddi cyfradd gwaith, adroddiadau profiad, ymddygiad hyfforddwyr, dangosyddion perfformiad, systemau dadansoddi, dadansoddi digwyddiadau critigol, dibynadwyedd dulliau, proffilio perfformiad, perfformiad dyfarnwyr a dadansoddiad o risg anaf mewn chwaraeon.   

Yn 2008, cyhoeddodd y cyfnodolyn gyfanswm o 40 o bapurau o 17 gwlad wahanol ac yn 2010 roedd yn cynnwys atodiadau oedd yn crynhoi gweithdai rhyngwladol a chynadleddau diweddar mewn dadansoddi perfformiad chwaraeon.  Mae'r cyfnodolyn yn darparu ffynhonnell werthfawr o ddeunydd cefndir i fyfyrwyr dadansoddi perfformiad ac ymchwilwyr academaidd eraill.

 

Tanysgrifiwch