Hafan>Newyddion>Prifysgol mewn ymgais i fynd i'r afael â newid hinsawdd

Met Caerdydd yn troi ystâd y campws yn 'labordy byw' mewn ymgais i fynd i'r afael â newid hinsawdd

Newyddion | 29 Hydref 2021

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi datgan cynlluniau i fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy ddefnyddio ystâd y brifysgol fel labordy ymchwil a datblygu i helpu i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gyrraedd sero net.

Mae academyddion, rheolwyr yr ystâd, partneriaid diwydiannol a myfyrwyr yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael â newid hinsawdd ar raddfa fawr, gan ddatblygu ac arddangos ffyrdd o fyw a dysgu'n fwy cynaliadwy yn ein bywydau gwaith a chymdeithasol, gan adeiladu 'labordy byw' i bob pwrpas.

Caiff arloesiadau newydd ym maes adeiladu, gwresogi thermol a chynhyrchu a storio ynni eu datblygu ochr yn ochr â'r byd diwydiant, a chânt eu gwerthuso ledled ystâd y brifysgol ar hyd y ddegawd nesaf gyda'r bwriad o ddatblygu ffyrdd newydd o ddelio â newid hinsawdd yn ein bywydau o ddydd i ddydd.

Wedi'i chrynhoi ar ddau brif gampws, mae'r brifysgol wedi'i lleoli ar safle gwyrdd cymharol fawr, sy'n cyfuno coetiroedd hynafol, tiroedd comin a chaeau chwarae gyda chyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf a grŵp weddol fach o adeiladau amlbwrpas modern. Yn dilyn gwerthuso portffolio'r ystâd yn ôl yn 2019, fe wnaeth y brifysgol ail-ffocysu ei hymdrechion ar ehangu ar ei safle presennol, gan ail-bwrpasu adeiladau cyn dechrau gwaith adeiladu newydd lle bynnag y bo modd.

Wedi lansio ysgol academaidd newydd (Ysgol Dechnolegau Caerdydd) yn 2018 a'r gyntaf mewn cyfres o Academïau Byd-eang rhyngddisgyblaethol yn 2020, ynghyd â chynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer modelau hybrid newydd o weithio ar ôl Covid, mae'r brifysgol yng nghanol rhaglen uchelgeisiol o ail-bwrpasu mannau i greu hybiau ymchwil, dysgu, astudio a chymdeithasu hyblyg sy'n canolbwyntio ar gydweithio, hyblygrwydd ac iechyd a lles.

Hyd yma, mae'r brifysgol wedi trosi 6,472m2 o'i hôl troed mewnol presennol, gan wrthbwyso cymaint â 30% o'r carbon y byddai adeilad newydd wedi'i allyrru yn ystod y gwaith adeiladu. Mae prif gynllun ystadau newydd wrthi'n cael ei ddatblygu sy'n ffafrio ailbwrpasu adeiladau o flaen adeiladau newydd.

Fodd bynnag, ni fydd y cynlluniau'n gyfyngedig i adeiladu. Mae'r prosiect dad-ddofi tir a ddechreuwyd yn ystod pandemig y coronafeirws wedi arwain at blannu mwy o goed; mannau gwyrdd yn disodli lleoedd parcio; mabwysiadu cychod gwenyn mêl, gwestai pryfed ac amgylcheddau sy'n gyfeillgar i ddraenogod ar draws yr ystâd; ac opsiynau trydan a hybrid yn disodli fflyd o gerbydau'r brifysgol yn llwyr; a phwyntiau gwefru perfformiad uchel i'w gosod yn y dyfodol.

Mae'r gwasanaeth bws MetWibiwr mewn partneriaeth â Bws Caerdydd, yn darparu mynediad gwyrdd, hawdd a chost-effeithiol i'r campysau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Yn y gymuned, mae myfyrwyr, staff a thrigolion lleol eisoes yn cymryd rhan mewn casgliadau sbwriel Cadwch Gymru'n Daclus rheolaidd o amgylch campysau Llandaf, Cyncoed a Phlas Gwyn (Neuaddau Myfyrwyr). Yn 2020, cefnogwyd casgliadau sbwriel lleol o amgylch ein tri safle gan 126 o wirfoddolwyr, gydag offer ar gael i'w fenthyg gan y brifysgol ar unrhyw adeg. 

Mae gweithdai amgylcheddol, diwrnodau cymunedol sy'n hyrwyddo cynnyrch lleol a Chaffis Atgyweirio a gynhelir bob mis, a siop ddiwastraff gyntaf y brifysgol ar y campws wedi arwain at gynnydd yn nifer y myfyrwyr, staff a'r gymuned sy'n mynd ati'n rhagweithiol i ddewis opsiynau prynu mwy cynaliadwy.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru gyrraedd Sero Net erbyn 2050, gydag uchelgais i gyrraedd y targed hwnnw'n gynt. Yma ym Met Caerdydd, byddwn yn chwarae ein rhan i sicrhau bod y gwersi a gaiff eu dysgu yma'n gallu ein helpu ni i gyd i gyrraedd Cymru Sero Net.