Hafan>Newyddion>Myfyriwr Rhyngwladol Met Caerdydd yn gwireddu ei freuddwyd i astudio yn y DU

Myfyriwr Rhyngwladol Met Caerdydd yn gwireddu ei freuddwyd i astudio yn y DU ac i ddefnyddio addysg i newid bywydau gartref yn Nigeria

Newddion | 22 Mai 2024

“Dechreuwch gyda’r hyn sydd gennych chi a thyfwch i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod,” yw cyngor Chisimdi Okoh, myfyriwr rhyngwladol sy’n astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddor Data ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bu dod i’r DU i astudio yn freuddwyd gan Chismdi erioed, ac mae’n bwriadu defnyddio’r hyn y mae wedi’i ddysgu i newid bywydau gartref yn Nigeria.

“Fe ddysgodd fy nhad i ddechrau gyda’r hyn sydd gennych chi, ac i dyfu i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod. I mi, addysg a dysgu yw’r twf hwnnw,” meddai Chisimdi. Ar ôl dechrau clwb cyllid i bobl ifanc yn ei gymuned leol, aeth ymlaen i droi hwn yn fusnes. “Rydw i eisiau parhau i wella addysg ariannol, yn enwedig i’r rhai sydd ei angen fwyaf” parhaoedd Chisimdi.

Wedi’i ysbrydoli gan y gwahaniaeth positif yr oedd yn ei wneud yn Nigeria, daeth Chisimdi i’r DU i wella ei sgiliau data i helpu eraill i reoli eu harian. Mae’r croeso cynnes a gafodd yn y DU wedi ei arwain i wirfoddoli gyda Chanolfan Entrepreneuriaeth Met Caerdydd, a gyda myfyrwyr rhyngwladol newydd i’w helpu i ymgartrefu yn y DU.

“Yr her fwyaf i mi oedd addasu i ddiwylliant newydd... a’r tywydd!” meddai Chisimdi. Ond mae’n ddiolchgar am y croeso cynnes a gafodd pan gyrhaeddodd. “Byddwn i wedi darllen llawer am ba mor amrywiol yw’r DU. Felly, roeddwn i’n gwybod ei ddisgwyl. Mae’n fy syfrdanu sut mae’r DU yn croesawu’r holl bobl hyn ac yn gwneud iddynt deimlo mor gartrefol.”

Mae Chisimdi yn rhan o ymgyrch #WeAreInternational: Transforming Lives Universities UK International, sy’n gweithio gyda myfyrwyr ledled y byd, sy’n byw mewn trefi a dinasoedd ar draws y DU. Mae’r ymgyrch hwn yn ymroddedig i dynnu sylw at y cyfraniadau y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu gwneud i’r DU a’u cymunedau yn ystod eu hastudiaethau yma.

 


Dywedodd Anna Dukes, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Byd-eang ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y manteision economaidd a diwylliannol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu cael nid yn unig i’n prifysgolion, ond hefyd i gymunedau lleol. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn cyfoethogi’r profiad dysgu ac addysgu ar y campws, gan helpu ein holl fyfyrwyr i ddeall diwylliannau eraill a gwerth gweithio ar draws diwylliannau.

“Yn eu tro, mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn cael profiad addysgol o safon y maent yn mynd ag ef yn ôl i’w gwledydd priodol ledled y byd, gan gyfrannu at ddatblygu cysylltiadau byd-eang ar gyfer y DU mewn busnes ac ymchwil. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol a’n myfyrwyr o’r DU yn graddio gyda rhwydweithiau byd-eang a fydd o fudd i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad enfawr yn eu cymunedau lleol a thu hwnt, gan ddod â £41 biliwn i’r DU bob blwyddyn, sy’n golygu, ar gyfartaledd, bod pob un o’r 650 o etholaethau seneddol yn y DU £58 miliwn yn gyfoethocach – sy’n cyfateb i tua £560 fesul dinesydd. Yng Nghymru yn unig, mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu £1.43 biliwn i’r economi ranbarthol.

Dywedodd Jamie Arrowsmith, Cyfarwyddwr UUKi: “Nid fu erioed yn bwysicach cydnabod y cyfraniadau pwysig y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu gwneud i’w prifysgolion a’u cymunedau lleol, ac i’r DU yn ehangach. Nid yw’n ymwneud â’r ochr economaidd yn unig – mae myfyrwyr rhyngwladol yn rhoi yn ôl trwy gyfnewid diwylliannol, gwirfoddoli, a chymaint mwy. Rydym yn falch o fod yn rhannu eu straeon trwy gam diweddaraf yr ymgyrch #WeAreInternational.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch #WeAreInternational: Transforming Lives ar gael ar dudalen we Universities UK.