Hafan>Newyddion>Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021

Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021

Newyddion | 18 Medi, 2020

Mae rhestr y 'The Times and The Sunday Times Good University Guide' wedi enwi Prifysgol Metropolitan Caerdydd fel 'Prifysgol y Flwyddyn 2021 yng Nghymru'.

Mae'r Brifysgol wedi codi 33 o safleoedd yn nhabl y gynghrair, sef y naid uchaf erioed yn y canllaw hwn a'r dyrchafiad trydydd uchaf o unrhyw brifysgol yn y DU eleni.

Mae acolâd 'Prifysgol y Flwyddyn 2021 yng Nghymru' yn cydnabod perfformiad cryf Met Caerdydd yn yr arolwg Boddhad Myfyrwyr yn Genedlaethol eleni lle ymddangosodd y brifysgol yn 40 uchaf y DU am foddhad ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.

Mae'r dyfarniad hefyd yn cydnabod cynnydd y Brifysgol wrth gyflawni ei strategaeth uchelgeisiol a'r amrediad cysylltiedig o ddatblygiadau dros y blynyddoedd diwethaf. Rhoddwyd sylw penodol i ddatblygiad Ysgol Technolegau Caerdydd a'n cyfraniad maith a rhagorol i berfformiad a chyfranogiad chwaraeon.

Mae'r Brifysgol hefyd wedi'i chydnabod fel man gydag amgylchedd gwaith ac astudio cefnogol, cynhwysol a chroesawgar sy'n ymdrechu i feithrin staff, myfyrwyr a chymunedau iach a gwydn ledled Caerdydd a thu hwnt trwy ehangu cyfranogiad ac ychwanegu gwerth at fywydau ei myfyrwyr amrywiol.

Mae rhestr 'The Times and The Sunday Times Good University Guide' yn gyhoeddiad blynyddol sy'n helpu i hysbysu darpar fyfyrwyr a'u rhieni am addysg uwch yn y DU. Cyhoeddwyd y canllaw ar-lein ddydd Gwener 18 Medi a bydd y rhifyn print yn cael ei ddosbarthu ddydd Sul 20 Medi gyda'r rhifyn hwnnw o'r 'Sunday Times'.

Dywedodd Alastair McCall, golygydd The Sunday Times Good University Guide: "Mae perfformiad Met Caerdydd yn y safle academaidd eleni yn eithriadol. Dyma'r cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r drydedd fwyaf yn y DU, sydd bellach yn 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.

"O wybod am ddarparu addysg uwch ymarferol, perfformiodd Met Caerdydd yn gryf yn ein mesur cyflogaeth newydd gyda bron i dri chwarter o’i graddedigion mewn swyddi sgiliau uchel neu astudiaeth ôl-raddedig o fewn 15 mis o adael. Ychwanegwch at hyn y cyfraniad eithriadol y mae'r brifysgol wedi'i wneud yn y maes chwaraeon dros nifer o ddegawdau - mireinio talentau 300 o athletwyr o safon ryngwladol yn cystadlu ar draws 30 o chwaraeon gan ddefnyddio cyfleusterau hyfforddi sy'n arwain y sector ynghyd â hyfforddiant o'r radd flaenaf - a gwnaeth y brifysgol achos cymhellol i ennill gwobr eleni fel Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru."

Dywedodd Yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor a Llywydd Met Caerdydd: “Mae holl gymuned Met Caerdydd wrth eu boddau yn cael cychwyn y flwyddyn academaidd newydd hon gyda gwobr genedlaethol a gydnabyddir mor eang, un sy'n cydnabod ansawdd yr addysg a'r profiad a ddarparwn i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd.

“Yn y farchnad gyflogaeth hynod gystadleuol sy'n bodoli heddiw, rydym yn gweithio gyda'n gilydd fel prifysgol sy'n cael ei gyrru gan werthoedd er mwyn rhoi'r sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd i bob un o'r graddedigion –egwyddorion unigryw sy'n ffurfio'r hyn a elwir yn 'EDGE Met Caerdydd'.

“Bu eleni'n flwyddyn heriol, ond rydym wedi perfformio’n gryf yn gyffredinol yn y prif arolygon a chanllawiau blynyddol. Rydym wedi cael dathlu ein llwyddiant yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion, y 'Complete University Guide', y 'Guardian University Guide' a'r 'Times Higher Education World University Rankings'.

“Mae Met Caerdydd yma i wasanaethu ei myfyrwyr a rhanddeiliaid ehangach ac fe hoffwn gydnabod y rôl y mae ein partneriaethau wedi’i chwarae yng ngwobr 'Prifysgol y Flwyddyn 2021 yng Nghymru' gan 'The Times and The Sunday Times Good University Guide'.

“Rydyn ni i gyd ar daith ac mae cydweithwyr, myfyrwyr a phartneriaid ehangach wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau’r canlyniadau hyn sy’n hollol unol â’r cerrig milltir ymestynnol iawn wnaethon ni eu gosod dros dair blynedd yn ôl.

“Mae dod yn 'Brifysgol y Flwyddyn 2021 yng Nghymru' wedi bod yn ymdrech ar y cyd gan 'UnMetCaerdydd/OneCardiffMet' a gobeithio bod pob aelod o staff yn teimlo'n falch o'r rhan y maen nhw wedi'i chwarae yn y llwyddiant ysgubol hwn. Diolch i bawb sydd wedi gwneud y cyflawniad rhagorol hwn yn bosibl.”