Newyddion | 15 Medi 2023
Mae myfyrwyr ledled Cymru wrthi’n paratoi i ddechrau yn y brifysgol.
I baratoi ar gyfer yr Wythnos Groeso, sy’n cychwyn ddydd Llun 18 Medi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym wedi casglu ynghyd rhai o’n hawgrymiadau gorau i helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu ym mywyd y brifysgol.
Hanfodion Myfyrwyr Newydd ar gyfer 2023/24
Ffair/Wythnos y Glas: Cynhelir Ffair y Glas Prifysgol Met Caerdydd ar ddydd Mercher 20 Medi. Mae hwn yn gyfle gwych i gael gwybod am y cymdeithasau a chlybiau chwaraeon y gallwch ymuno â nhw a chael rhai pethau am ddim hefyd. Mae hefyd yn gyfle gwych i chi ddod i adnabod eich cymdogion newydd ac i gwrdd â phobl newydd.
Dysgwch fwy ar dudalen we Undeb y Myfyrwyr am rai o’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn ystod Wythnos y Glas:
www.cardiffmetsu.co.uk
Hybiau Croeso: bydd pebyll mawr ar Gampws Llandaf a Chyncoed ar gyfer yr Wythnos Groeso – os oes angen cyngor ychwanegol neu gymorth cyffredinol arnoch, dyma’r lle i fynd.
Pethau i’w cofio – rhestr wirio
Trwydded Deledu: Bydd angen
trwydded deledu arnoch os oes gennych deledu yn eich neuaddau neu os ydych yn gwylio iPlayer i wylio rhaglenni. Darganfyddwch sut i wneud hyn ar-lein.
Yswiriant cynnwys: mae’n synhwyrol cael yswiriant cynnwys i ddiogelu eich eiddo pe bai’n mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn. Mae gan
Ganolfan Myfyrwyr Confused.com lu o ddarparwyr yswiriant ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r polisi cywir.
Cofrestrwch gyda Meddyg Teulu fel y gallwch dderbyn gofal arferol a gofal brys os oes ei angen arnoch. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych gyflwr iechyd parhaus. Mae rhagor o wybodaeth am opsiynau gofal iechyd ar gael ar
Met Canolog.
Treth cyngor: Fel myfyriwr, rydych wedi’ch eithrio rhag talu’r dreth gyngor. Os ydych yn byw mewn llety rhent preifat, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol am eich cyfeiriad newydd.
Cardiau teithio: Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac yn byw yng Nghymru, tra’n astudio ym Met Caerdydd, mae gennych hawl i arbed arian ar eich siwrneiau bws drwy ddefnyddio gwasanaeth bws y Brifysgol,
Met Wibiwr.
Cyllid – Gall tîm Cyngor Ariannol Met Caerdydd eich helpu gydag unrhyw bryderon ynghylch cyllidebu ac arian. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar
MetHub.
Dysgwch hobi/sgìl bywyd newydd
Dysgwch sut i goginio: gall bwyd fod yn ffordd wych o ddod a phobl at ei gilydd, dysgwch ryseitiau newydd o wahanol gefndiroedd a diwylliannau a gwneud ffrindiau newydd. Awgrymwch ginio tŷ unwaith yr wythnos, rhaid i bawb ddod â chynhwysyn a bydd un person yn dysgu gweddill y grŵp sut i goginio pryd o fwyd.
Ymunwch â thîm chwaraeon/campfa: mae cadw’n heini yn ffordd dda o gadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol ond fe allech chi hefyd ddarganfod hobi rydych chi’n ei garu a chwrdd â phobl newydd ar hyd y ffordd. Mae Met Caerdydd yn cynnig
aelodaeth campfa a nofio AM DDIM i fyfyrwyr eleni felly nid oes amser gwell i ymuno.
Rydych chi nawr ym Mhrifddinas Cymru. Os ydych chi’n newydd i Gymru, archwiliwch weithgareddau oddi ar y campws yn Croeso Cymru:
www.croeso.cymru/cy/pethau-iw-gwneud
Ailgylchwch – efallai mai dyma’r tro cyntaf i chi fyw oddi cartref. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa eitemau i’w gwahanu a gwnewch eich rhan i gadw’r amgylchedd yn lân ac yn daclus. Mae rhagor o wybodaeth ailgylchu a gwastraff ar gael ar y dudalen we
Cyngor Caerdydd.
Gwasanaethau Myfyrwyr
I lawer, prifysgol yw’r tro cyntaf iddynt fyw mewn ardal newydd neu fyw oddi cartref a gall hyn fod yn frawychus.
Mae gan Met Caerdydd nifer o wasanaethau ar gael i fyfyrwyr i’w cefnogi i drosglwyddo i fywyd prifysgol, gan gynnwys cymorth gyda lles cyffredinol, cymorth ariannol neu lety. Mae ein parth-g yn gweithredu fel y ddesg flaen ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Chyflogadwyedd. Gallwch alw heibio ar gampws Llandaf a Chyncoed, i drafod a datrys ystod o ymholiadau anacademaidd.
Gallwch hefyd siarad â nhw os oes angen help arnoch i gyrchu gweddill ein gwasanaethau cymorth. Mae manylion cyswllt a
ble i ddod o hyd i’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar y campws ar ein gwefan.
Gofalwch am eich iechyd meddwl
Gall dechrau yn y brifysgol fod yn dipyn o gorwynt, ond cofiwch, nid ydych chi ar eich pen eich hun ar y daith hon a bydd pawb yn teimlo cymysgedd o emosiynau wrth iddynt gychwyn ar y bennod gyffrous hon yn eu bywydau. Cofiwch:
- Rhowch amser i chi’ch hun – efallai na fydd yn ymgartrefu’n syth ac mae hyn yn iawn. Bydd rhoi lluniau o ffrindiau, teulu i fyny yn eich ystafell newydd yn gwneud i’ch gofod newydd deimlo’n gyfarwydd ac yn eich helpu i ymgartrefu.
- Peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi’ch hun – marathon yw e, nid sbrint. Mae dechrau cwrs newydd a symud i ddinas newydd yn dipyn o beth – gosodwch dasgau dyddiol i chi’ch hun ac ysgrifennwch restr o beth i’w gwneud yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf fel bod pethau’n teimlo’n llai llethol.
- Blaenoriaethwch yr hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus – gwnewch amser ar am goffi yn y bore, pryd o fwyd maethlon gyda’r nos a thaith gerdded yn y dydd. Gwrandewch ar y pethau sy’n eich gwneud chi’n hapus a cheisiwch eu cynnwys yn eich amserlen dyddiol.
- Ceisiwch gadw meddwl agored – mae prifysgol yn ymwneud â dysgu, ond byddwch hefyd yn dysgu amdanoch chi’ch hun. Rhowch gynnig ar bethau newydd, gwrandewch ar bobl a chofiwch mai taith yw hon.
Gweithdai lles
Mae Met Caerdydd hefyd yn cynnig nifer o weithdai lles i fyfyrwyr ymuno â nhw. Mae rhagor o wybodaeth am y sesiynau sydd ar gael a sut i ymuno ar gael ar
MetHub.