Hafan>Newyddion>Cyn-Ysgrifennydd Addysg yn derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan Met Caerdydd

Cyn-Ysgrifennydd Addysg yn derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan Met Caerdydd

​Newyddion | 17 Tachwedd 2023

Mae’r ymgyrchydd symudedd gwleidyddol a chymdeithasol, y Gwir Anrh Justine Greening, wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae’r Gwir Anrh Justine Greening wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd


Yn dilyn ei gyrfa Seneddol, mae Justine wedi ymgyrchu dros symudedd cymdeithasol a chyfleoedd cyfartal, gan sefydlu’r Addewid Symudedd Cymdeithasol yn 2018. Nod y cynllun yw ehangu cyfleoedd a symudedd cymdeithasol ym Mhrydain, sy’n dod â busnesau a phrifysgolion at ei gilydd i wella symudedd cymdeithasol.

Y cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ac AS Putney, Justine yw Cadeirydd y Clymblaid Bwrpas, menter drawsbleidiol sy’n dwyn ynghyd arweinwyr mwyaf arloesol y DU, Seneddwyr, dros 700 o fusnesau a 50 o brifysgolion – gan gynnwys Met Caerdydd – i rannu arfer gorau a datblygu atebion ar gyfer gwella cyfleoedd a symudedd cymdeithasol i’w cymunedau.

Wrth siarad am yr anrhydedd, a ddyfarnwyd yn Seremonïau Graddio Met Caerdydd 2023 ym mis Tachwedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dywedodd Justine: “Mae’n anrhydedd mawr i mi dderbyn Doethuriaeth er Anrhydedd. Fel llawer o fyfyrwyr sy’n derbyn eu graddau yma heddiw, fi oedd y person cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol – profiad a newidiodd fy mywyd. Dyna pam mae’r gwaith y mae Met Caerdydd yn ei wneud mor bwysig, i wneud yn siŵr fod pawb yn cael yr un cyfle i fod yn llwyddiannus. Ac wrth wneud hynny i gyd, mae Met Caerdydd yn datblygu’r dalent sy’n hanfodol i’r economi ranbarthol a chenedlaethol ehangach dyfu. Mae’n sbardunwr ar gyfer symudedd cymdeithasol nid yn unig i’w myfyrwyr ond i’r wlad ehangach.”

Yn ogystal â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, bu Justine hefyd yn Weinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb.

Wrth rannu cyngor i raddedigion Met Caerdydd, ychwanegodd Justine: “Bydd llawer o gyfleoedd o’ch blaen mewn bywyd gyda gradd wych gan brifysgol wych. Ond pa bynnag lwybr yr ydych yn ei ddewis, rwy’n gobeithio y bydd yn adeiladu ar yr uchelgais y mae Met Caerdydd yn ei ddangos ar gyfer cael effaith gymdeithasol ehangach gadarnhaol. Gall pawb wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae’n sail i bopeth y mae Met Caerdydd yn ei gynrychioli – nawr mae gennych gyfle i fynd â’r ethos pwerus hwnnw i’ch bywydau yn y dyfodol – pob lwc i chi.”

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd: “Mae Justine yn dderbynnydd teilwng iawn o’n Doethuriaeth er Anrhydedd am ei hymgyrchu diflino dros symudedd cymdeithasol ledled y DU. Mae’n rhannu cred Met Caerdydd ym mhwysigrwydd addysg wrth greu cymdeithas fwy ffyniannus a thecach drwy ehangu cyfranogiad mewn addysg a chefnogi’r rheini heb y fraint o gysylltiadau teuluol a chyllid i lwyddo mewn proffesiynau i raddedigion. Bydd stori Justin ei hun a’i phenderfyniad i wella symudedd cymdeithasol i bawb, rwy’n siŵr, yn ysbrydoliaeth i’n graddedigion wrth iddynt gefnogi achosion y maent hwy’n credu ynddynt trwy gydol eu gyrfaoedd.”