Hafan>Newyddion>Arferion bob dydd i’ch helpu i gadw’n iach ac yn heini y tymor hwn

Arferion bob dydd i’ch helpu i gadw’n iach ac yn heini y tymor hwn

​​Newyddion | ​15 Medi 2023

​Mae Wythnos y Glas ar y gorwel a bydd hwn yn gyfnod cyffrous a phrysur i fyfyrwyr newydd pan fyddant yn dechrau yn y brifysgol.

Mae Rheolwr Ffordd o Fyw Actif Prifysgol Met Caerdydd, Rhodri Williams, yn rhannu rhai arferion bach y gallwn eu hymgorffori yn ein harferion bob dydd a fydd yn ein cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol.

Darllen

Darllenwch bob dydd a chymerwch amser i ffwrdd o’r sgrin am awr cyn cysgu. Gall darllen helpu i wella gweithrediad yr ymennydd, tra bydd cyfyngu ar amser sgrin cyn cysgu yn eich helpu i syrthio i gysgu’n gyflymach a chysgu’n well (mae sgriniau’n ysgogi’r ymennydd!). Mae hyn yn ei dro yn gwella hwyliau, egni a gweithrediad y corff.

Cerdded

Cerddwch mor aml â phosibl. Cerddwch i’ch darlithoedd. Cerddwch a chael sgwrs gyda’ch cymdogion yn hytrach nag anfon neges atynt, cymerwch y grisiau yn hytrach na’r lifft, cerddwch o gwmpas pryd bynnag yr ydych ar y ffôn, ac os oes gennych gar, parciwch cyn belled â phosibl yn y maes parcio i gael cerdded ychydig mwy.

Paratoi prydau bwyd

Paratowch fwyd. Mae hyn yn eich helpu i osgoi bwyta bwyd nad yw’n iach o’r ffreutur neu’r siop. Byrbrydwr rheolaidd? Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ychydig o ffrwythau yn eich bag prifysgol yn barod i fynd.

Cadw’n hydradol

Yfwch gwpan fawr o ddŵr y peth cyntaf bob bore gan y bydd eich corff yn dadhydradu dros nos. Prynwch botel 2L o ddŵr a’i llenwi peth cyntaf yn y bore a cheisio ei orffen ddwywaith yn ystod y dydd, gan sipian yn rheolaidd. Peidiwch ag aros tan eich bod yn sychedig; mae hyn yn golygu bod eich corff eisoes wedi dadhydradu o 1%. Gall corff sydd wedi dadhydradu o 5% arwain at risgiau iechyd difrifol.

Cyfyngu ar gyfryngau cymdeithasol

Gosodwch derfyn dyddiol ar gyfer apiau cyfryngau cymdeithasol ar eich ffôn.

Nodi beth sydd wedi gwneud chi’n hapus heddiw

Ar ddiwedd pob dydd, ysgrifennwch dri pheth positif o’ch diwrnod. Mae hyn yn helpu gydag ymdeimlad o les a chael agwedd gadarnhaol.

Torri i lawr ar gaffein

Dechreuwch yfed te gwyrdd yn lle coffi ganol y bore. Mae te gwyrdd yn llawn gwrthocsidyddion, sy’n gwella gweithrediad yr ymennydd, yn llosgi braster ac yn dal i fod yn llawn caffein.

Osgowch gaffein yn y prynhawn – gallai hyn effeithio ar eich cwsg.

Lliwio eich plât cinio

Gwnewch eich prydau mor lliwgar â phosib. Mae ffrwythau a llysiau yn llawn wahanol fathau o wrthocsidyddion sy’n wych i’r corff. Mae’n bwysig bwyta gwahanol fathau o ffrwythau a llysiau.

Gwrando ar eich corff

​Mae symud bob dydd yn wych, ond gall hyn fod mor syml â cherdded yn hamddenol. Os nad yw’r corff yn teimlo’n ddigon iach i godi pethau trwm yn y gampfa am bedwerydd diwrnod yn olynol, gwrandewch arno. Mae cymryd diwrnod gorffwys yn holl bwysig gan fod y corff yn addasu wrth orffwys​.

Rhodri Williams yw Rheolwr Ffordd o Fyw Actif yn Chwaraeon Met Caerdydd​ sy’n cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol ac ystod eang o weithgareddau i bawb o athletwyr elitaidd i fyfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.