Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn dringo yn nhabl cynghrair Complete University Guide

Met Caerdydd yn dringo yn nhabl cynghrair Complete University Guide

Newyddion | 15 Mai 2024

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dathlu cynnydd sylweddol yn nhabl cynghrair Complete University Guide eleni.

Dringodd y Brifysgol naw lle i 62, ei safle uchaf mewn 14 mlynedd, ac ar draws y bwrdd, roedd metrigau perfformiad y Brifysgol naill ai wedi codi neu eu cynnal ar yr un lefel.

Mae bodlonrwydd myfyrwyr hefyd wedi codi 23 lle eleni. Mae Met Caerdydd hefyd yn safle 11 yn y DU – uwchlaw Rhydychen, Loughborough, a Chaerfaddon – ar gyfer y metrig ‘Rhagolygon Graddedigion ar y trywydd iawn’, sy’n adlewyrchu nifer y graddedigion diweddar sy’n cytuno bod eu gweithgaredd presennol yn cyd-fynd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd yr Is-Ganghellor a’r Llywydd, Rachael Langford: “Mae’r canlyniadau hyn yn arwydd o’r llwybr gwelliant parhaus yr ydym arno. Mae pawb yn ein cymuned wedi chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant ac rydym yn parhau i ymrwymo i wella profiad y myfyrwyr ymhellach.”

Ymhlith yr uchafbwyntiau o safleoedd CUG 2025 mae Therapi Iaith a Lleferydd sydd yn 6 yn y DU, Pensaernïaeth yn 16 a Chwaraeon yn 18. Roedd gan Gelf a Dylunio gynnydd mawr o 11 lle i 27.

Mae Pensaernïaeth hefyd yn ail yn y DU ar gyfer Rhagolygon Graddedigion.