Hafan>Newyddion>Prifysgol Met Caerdydd yn ymuno â Benchmark54

Prifysgol Met Caerdydd yn ymuno â Benchmark54

​​Newyddion | 8 Medi 2023

Mae Chwaraeon Met Caerdydd wedi cyhoeddi bartneriaeth gyda Benchmark54, cwmni gwyddoniaeth a thechnoleg chwaraeon blaenllaw, fel rhan o’u hymrwymiad parhaus i gefnogi athletwyr yn Rhaglenni Perfformiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bydd y cydweithio yn gweld tîm Ffisiotherapi Chwaraeon Met Caerdydd yn defnyddio technoleg arloesol Benchmark54 i reoli cofnodion meddygol athletwyr, olrhain hyfforddiant a gweithgaredd cyfatebol, rheoli llwyth gwaith, monitro a mesur datblygiad athletwyr, a dadansoddi gwybodaeth am anafiadau.

Student athletes in gym


Dywedodd Richard Williams, Pennaeth Ffisiotherapi Prifysgol Met Caerdydd: “Trwy ddefnyddio galluoedd uwch Benchmark54, bydd y tîm yn gallu gwerthuso chwaraewyr yn effeithiol a darparu gwell arweiniad i leihau cyfraddau anafiadau, gwneud y gorau o berfformiad a gwella perfformiad cyffredinol chwaraewyr a thîm. Mae’r tîm ffisiotherapi a minnau’n gyffrous i ddechrau gweithio gyda’r dechnoleg newydd.”

Mae’r bartneriaeth hon yn gam sylweddol tuag at wireddu gweledigaeth Chwaraeon Met Caerdydd o ddarparu cefnogaeth o’r radd flaenaf i’w myfyrwyr athletwyr.

Ychwanegodd Dr James Brown, Cyfarwyddwr Benchmark54: “Mae’r tîm yn Benchmark54 yn gyffrous iawn i fod yn bartner gyda Met Sport Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gefnogi’r sefydliad drwy ddarparu’r offer gorau posibl iddynt wireddu eu gweledigaeth ar gyfer y gefnogaeth i’w hathletwyr yn Rhaglenni Perfformiad Met Caerdydd.”