Newyddion | 20 Ionawr 2023
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dathlu ar ôl cael ei hailachredu fel Prifysgol Noddfa.
Mae’r sefydliad, a ddaeth yn Brifysgol Noddfa gyntaf Cymru yn 2018, wedi derbyn yr anrhydedd eto gan City of Sanctuary UK.
Roedd City of Sanctuary UK “yn llawn edmygedd o’r strwythur, y darpariaethau a’r gweithgareddau rhagorol sy’n parhau i wneud Met Caerdydd yn Noddfa”, gan ddweud bod y gwaith o “ymgorffori’r weledigaeth hon ym mhob lefel o’r Brifysgol yn amlwg” a’i bod “yn wych gweld yr amrywiaeth o ysgoloriaethau sydd wedi cynyddu’n ddiweddar, y gwaith gyda’r cyngor, a’r cyfraniad i’r mudiad cenedlaethol wrth godi ymwybyddiaeth o faterion Noddfa”.
I gloi, dywedodd yr arfarnwyr: “Mae Met Caerdydd yn enghraifft wych o estyn croeso i ysgolheigion ac academyddion mewn perygl”.
Nododd City of Sanctuary hefyd enghreifftiau o arfer da yn y gwaith a wnaed gyda’r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA) i gefnogi ysgolheigion sydd wedi’u dadleoli a defnydd y Brifysgol o’r cyfryngau cymdeithasol sydd wedi galluogi cymunedau y tu hwnt i’r sector addysg uwch i gydnabod y gwaith a wneir yn y brifddinas a thu hwnt.
Fe wnaeth dull y Brifysgol o hyrwyddo ysgoloriaethau a chysylltu â darpar fyfyrwyr posib trwy grwpiau cymunedol, ysgolion a cholegau AB gael argraff ar City of Sanctuary hefyd.
O ran dysgu iaith a’r ystod o ddulliau o ymdrin â hynny, gwelwyd bod y Brifysgol yn darparu cymorth i fagu hyder ac ymdopi ag ysgytwad diwylliannol wrth ddechrau bywyd fel myfyriwr.
Lansiwyd rhaglen Ysgoloriaethau Noddfa Met Caerdydd yn 2017 ac i ddechrau, cynigiodd ddwy ysgoloriaeth ar lefel ôl-raddedig i bobl a oedd yn ceisio noddfa yn y DU. Yn 2019, ychwanegwyd ysgoloriaethau israddedig at y cynnig hwn. Eleni, gwnaed 12 Ysgoloriaeth Noddfa ar gael ac ehangwyd y meini prawf cymhwystra i gynnwys myfyrwyr â chaniatâd o dan gynllun Cartrefi i Wcráin.
Yn ogystal â chyflwyno ysgoloriaethau israddedig, erbyn hyn, mae Met Caerdydd hefyd yn cynnig y ffioedd dysgu is i geiswyr lloches ar yr un gyfradd â'r myfyrwyr hynny sy'n gymwys am 'Statws ffioedd cartref', yn hytrach na'r gyfradd ffioedd dysgu rhyngwladol uwch.
Daeth Ysgolor Noddfa ôl-raddedig gyntaf Met Caerdydd, Larysa Agbaso, o Donetsk yn Nwyrain Wcráin ar ôl goresgyniad Rwsia yn 2014, a graddiodd yn ddiweddar â gradd Meistr. Ers hynny, mae Larysa wedi ennill swydd addysgu.
Mae'r brifysgol hefyd wedi darparu noddfa i ddau Gymrawd CARA a ymunodd â Met Caerdydd ar ôl gadael Affganistan. Cyn hynny, bu’r ddau’n gweithio fel darlithwyr mewn economeg ym Mhrifysgol Herat cyn i'r Taliban gipio grym yn y wlad fis Awst diwethaf.
Meddai Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: “Mae Met Caerdydd yn brifysgol flaengar, sy’n gweithio gyda phwrpas a thosturi i wneud economïau’n fwy llewyrchus, cymdeithasau’n decach, diwylliannau’n gyfoethocach, amgylcheddau’n wyrddach a chymunedau’n iachach. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i drawsnewid bywydau a chymunedau trwy addysg effaith uchel o ansawdd uchel sy’n cael ei llywio gan ymchwil ac arloesi sydd ar flaen y gad.
“Mae’r Brifysgol yn cychwyn ar ei Chynllun Strategol Corfforaethol nesaf 2023-2030 lle byddwn yn datblygu ein perthnasoedd rhyngwladol, diplomyddiaeth ddiwylliannol a chymell tawel fel Prifysgol Noddfa gan chwarae rhan allweddol wrth sefydlu Cymru fel Cenedl Noddfa.”
Mae Met Caerdydd wedi datblygu enw rhagorol fel Prifysgol Noddfa gyntaf Cymru, gyda sawl datblygiad sy’n arwain y sector:
• Yn gynharach eleni, penodwyd Cyfarwyddwr Gweithredol CARA, Stephen Wordsworth CMG LVO, gan Met Caerdydd yn Ganghellor newydd y Brifysgol. Mae gan Stephen brofiad helaeth a lefel uchel mewn cysylltiadau rhyngwladol, diplomyddiaeth ddiwylliannol a rôl addysg mewn datrys gwrthdaro rhyngwladol a meithrin gallu. Ym mis Rhagfyr, bydd Mr Wordsworth yn lansio cyfres newydd o ddarlithoedd y Brifysgol, lle bydd yn annerch cynulleidfa wadd.
• Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi addo £400,000 i gefnogi rôl addysg mewn meithrin heddwch yn Wcráin. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio dros y ddwy flynedd nesaf mewn Cymrodoriaethau ac Ysgoloriaethau, yn ogystal â llety i'r rhai sy'n ffoi o Wcráin.
• Mae Met Caerdydd hefyd wedi arwyddo cytundeb gefeillio gyda Phrifysgol Addysgegol Genedlaethol HS Skovoroda Kharkiv (Prifysgol Skovoroda) – gan hwyluso rhannu adnoddau a chymorth mewn arwydd cyfunol o undod a dwyochredd i helpu sefydliadau, staff a myfyrwyr o Wcráin.
• Dros yr haf, croesawodd y Brifysgol dîm athletau dynion Wcráin wrth iddynt baratoi ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop ym Munich, gan ddarparu cyfleusterau, llety, bwyd, ffisiotherapi a chymorth gwyddor chwaraeon, i gyd yn rhad ac am ddim.
• Lansiwyd Grantiau Byd-eang ym mis Mawrth 2022. Maen nhw’n agored i holl staff a myfyrwyr y brifysgol a'u nod yw cefnogi gweithgareddau, mentrau a digwyddiadau ar thema integreiddio, amrywiaeth ddiwylliannol a chynhwysiant a'n statws fel Prifysgol Noddfa. Mae'r grantiau’n cefnogi gweithgareddau a mentrau sy'n digwydd ar y campws neu yn y gymuned leol ac maent ar gael rhwng £100 a £1,000.