Newyddion | 7 Chwefror 2024
Mae myfyriwr aeddfed o Gaerdydd wedi egluro sut y gwnaeth darganfod prentisiaeth yn ddiweddarach mewn bywyd roi’r dewrder iddo roi’r gorau i’w swydd fel peintiwr trwsio cerbydau a dilyn ei freuddwyd o weithio ym maes gwyddor data.
Rhannodd Daniel Coles, 34, o Sblot, Caerdydd, sydd ar hyn o bryd yn ei ail flwyddyn ar Radd Prentisiaeth BSc Gwyddor Data Cymhwysol Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ei stori yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (5-11 Chwefror). Cyn cychwyn ar y cwrs, roedd ganddo swydd amser llawn yn gweithio fel technegydd ailorffen cerbydau.
Dywedodd Daniel: “Yn fy swydd flaenorol, ni chefais lawer o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, ac nid oedd y swydd yn fy herio mwyach a wnaeth i mi gymryd cam yn ôl a meddwl am yr hyn yr oeddwn am ei wneud yn y dyfodol. Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn cyfrifiaduron a mathemateg ac yn mwynhau dysgu pethau newydd. Yn benodol, roeddwn i eisiau dysgu rhaglennu a chodio – felly roedd gwyddor data yn teimlo’n addas.
“Rwyf bellach yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Campws Gwyddor Data, ac yn mynychu’r brifysgol un diwrnod yr wythnos. Yn ystod seibiannau o’r brifysgol, rwy’n cael un diwrnod fel diwrnod dysgu unigol, neu byddaf yn ymuno â thîm arall yn y gwaith i gael cipolwg ar brosiectau a ffrydiau gwaith eraill.
“Rwy’n mwynhau’r brentisiaeth yn fawr. Fe’i cefias hi’n dipyn o ymdrech i ddechrau gan nad oedd gen i unrhyw brofiad codio a bu’n 15 mlynedd ers i mi ddefnyddio mathemateg yn iawn yn yr ysgol. Ond ar ôl ychydig fisoedd o ddefnyddio’r rhaglenni o ddydd i ddydd, rydych chi’n dod i arfer â meddwl fesul cam, ac mae’n dod yn haws. Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau ac mae’n ddiddorol iawn. Ysgrifennu yw fy mrwydr mwyaf gan nad ydi wedi ysgrifennu’n academaidd o’r blaen, ond mae’r darlithwyr a’r myfyrwyr eraill yno bob amser i ateb cwestiynau.”
Ar ôl iddo orffen ei gwrs, hoffai Daniel barhau i weithio i’r SYG yn y Campws Gwyddor Data ar draws portffolio mawr o waith lle mae’n defnyddio llawer o dechnegau gwyddor data newydd.
Parhaodd: “Ni allaf argymell y brentisiaeth ddigon. Byddwch yn cwrdd â llawer o fyfyrwyr eraill, gydag ychydig yn dechrau o’r dechrau fel fi. Mae’r cwrs yn hwyl ac fe wnewch lawer o ffrindiau, a chael gweld sut mae gwahanol gyrff a chwmnïau’n gweithio, a pha feddalwedd sydd orau ganddynt a manteision ac anfanteision pob un.
“Byddwch chi’n brentis, rydych chi yno i ddysgu, felly peidiwch â phoenio pan nad ydych chi’n gwybod rhywbeth – dyna’r pwynt. Mae popeth yn adeiladu ar y wers ddiwethaf. Y rhan rydw i’n ei mwynhau fwyaf yw dysgu pethau newydd.”
Dywedodd Neil Hennessy, Pennaeth Colegau Agored a Phrentisiaethau Gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae’r cynnig prentisiaeth gradd yn brofiad unigryw a gwerthfawr i amrywiaeth o weithwyr sy’n ddysgwyr. Mae’r garfan bwrpasol hon yn amrywio o’r rhai a allai fod â phrofiad sylweddol eisoes mewn cyflogaeth llawn amser heb ennill cymhwyster academaidd, i’r rhai sy’n chwilio am lwybr gyrfa newydd, gan gynnwys pobl sydd wedi gorffen addysg ffurfiol yn ddiweddar ac sy’n chwilio am gyfleoedd i ennill a dysgu. Mae carfan mor amrywiol o brentisiaid ond yn gwella’r profiad dysgu ym Met Caerdydd.”
Mae rhagor o wybodaeth am y Prentisiaethau Gradd sydd ar gael ym Mhrifysgol Met Caerdydd ar gael ar y wefan.