Mae prentisiaethau uwch yn darparu i weithwyr gyfuniad o hyfforddiant yn y gwaith wrth astudio cymhwyster lefel uwch gan roi'r wybodaeth sy'n ofynnol iddynt yn y gweithle. Mae prentisiaethau uwch ar gael ar ystod o lefelau, o'r hyn sy'n cyfateb i radd Sylfaen, i radd Baglor a lefel gradd Meistr mewn rhai sectorau. Mae prentisiaid uwch yn dysgu yn y gwaith felly gallent ddatblygu'r wybodaeth a'r cymwyseddau galwedigaethol y mae rolau a sectorau swyddi penodol yn gofyn amdanynt.
Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn cyd-ddarparu gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith ar nifer o fframweithiau Prentisiaeth Uwch i gyflenwi’r cymhwyster perthnasol a'r sgiliau a'r wybodaeth addysgu academaidd sy'n ofynnol ar y lefel hon o ddysgu. Cyflwynir ein Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol gydag un o'n sefydliadau partner, dysgu a datblygu Acorn ac mae bellach yn cael ei hariannu fel rhan o'r Brentisiaeth Uwch mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth. Mae'n darparu addysgu a dysgu ynghyd ag asesiadau swydd, gan wneud astudio yn fwy hyblyg.