Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Welsh pantry - Astudiaeth Achos

Welsh Pantry



​​

Cefndir

Wedi'i leoli yn Llantrisant yn ne Cymru, mae Wesh Pantry yn fusnes becws preifat sy'n cynhyrchu amrywiaeth o byrbrydau sawrus wedi'u brandio a'u label eu hunain fel pasteiod, rholiau selsig, tartenni sawrus a phrydau parod. Mae'r cwmni'n darpau cynnrych i lawer o fanwerthwyr mwyaf y DU, gan gynnwys Aldi, Lidl, Iceland, Tesco, Sainsbury's ac Asda.

Gall cyfleuster ardystiedig BRCGS o'r radd flaenaf Welsh Pantry gynhyrchu 7,200 o basteiod bach, 16,200 o dafelli a 50,000 o roliau selsig yr awr.

Trwy raglen Clystyrau Llywodraeth Cymru, derbyniodd Welsh Pantry gefnogaeth wedi'i hariannu gan ZERO2FIVE am bum diwrnod i'w helpu i ddiweddaru eu systemau rheoli diogelwch bwyd i fodloni gofynion Rhifyn 9 BRCGS sydd newydd ei gyhoeddi.

HELIX logo


Cefnogaeth gan ZERO2FIVE

Rhoddodd ZERO2FIVE gefnogaeth gyda'r adran offer wedi'i diweddaru a'i ehangu o Rif9 BRCGS, gan helpu'r cwmni i ddatblygu gweithdrefn gomisiynu, asesiad risg a templed manyleb prynu ar gyfer offer newydd. Yn ddiweddar cyflwynodd ZERO2FIVE gyfres o weithdai ar Ddylunio Offer Hylan er mwyn galw ar yr arbenigedd hwn wrth gefnogi'r cwmni.

Fe wnaeth ZERO2FIVE gynnal archwiliad mewnol manwl o brosesau cymeradwyp cyflenwyr y cwmni a systemau archwilio mewnol yn erbyn BRCGS Rhifyn 9. O ganlyniad, nododd ZERO2FIVE sawl maes i’w gwella i Welsh Pantry allu canolbwyntio arnynt.

Cyflwynodd ZERO2FIVE weithdai pwrpasol ar Amddiffyn Bwyd a Dilysrwydd Bwyd ar y safle i wyth aelod o staff Welsh Pantry. Roedd y gweithdy Amddiffyn Bwyd yn cefnogi cydymffurfiaeth â chymal 4.2.1 BRCGS Issue 9, sy'n canolbwyntio ar y gofynion hyfforddi ar gyfer staff sy'n cymryd rhan mewn asesiadau bygythiad a chynlluniau amddiffyn bwyd. Cefnogodd y gweithdy Dilysrwydd Bwyd gydymffurfiad â chymal 5.4.1, sy'n canolbwyntio ar y gofynion hyfforddi ar gyfer staff sy'n ymwneud ag asesiadau risg bregusrwydd ar y safle. Roedd yr hyfforddiant yn ymdrin â phynciau gan gynnwys diffiniadau allweddol, egwyddorion amddiffyn bwyd a risg o dwyll bwyd, dulliau ar gyfer cynnal asesiadau bregusrwydd a bygythiadau yn ogystal â chefnogi'r safle i nodi risgiau penodol i'w safle a deunyddiau crai.


Manteision y gefnogaeth

O ganlyniad i gefnogaeth ZERO2FIVE, llwyddodd Welsh Pantry i weithredu gwelliannau i'w systemau rheoli diogelwch bwyd yn unol â Rhifyn 9 BRCGS. Ym mis Gorffennaf, cafodd y cwmni eu archwiliad rhifyn 9 BRCGS dirybudd a dyfarnwyd gradd AA+ iddynt.


Dyfynnu

Dywedodd Dan Walker, Rheolwr Technegol, Welsh Pantry:

"Mae cefnogaeth ZERO2FIVE gyda BRCGS Rhifyn 9 wedi bod o fudd i'r busnes mewn sawl ffordd. Roedd cymalau BRCGS newydd yn ymwneud ag offer yn newid mawr i'r safle a mabwysiadwyd y ddogfennaeth a ddarparwyd gan ZERO2FIVE ar unwaith i sicrhau cydymffurfiaeth.

Mae'r archwiliadau mewnol manwl ar y broses o gymeradwyo cyflenwyr ac archwiliadau mewnol wedi codi sawl maes i’w gwella i'r busnes. Mae’r broses o gymeradwyo cyflenwyr yn faes ffocws allweddol i'r busnes y flwyddyn galendr hon, mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

FYn olaf, cafodd yr hyfforddiant Amddiffyn Bwyd a Dilysrwydd Bwyd dderbyniad gwresog ac mae wedi darparu'r sylfeini ar gyfer rheoli amddiffyn bwyd cadarn ar gyfer Welsh Pantry yn y dyfodol​”
​​"

EU funding logo​​