Mae ZERO2FIVE yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o fentrau sy'n cefnogi'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
Prosiect HELIX
Mae Prosiect HELIX yn darparu cymorth cyllid ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth mewn perthynas â chynhyrchu bwyd byd-eang, tueddiadau a gwastraff er mwyn helpu gweithgynhyrchwyr bwyd bach i ganolig ledled Cymru i gynyddu cynhyrchiant a lleihau gwastraff.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am raglen HELIX.
Clwstwr Busnes Effaith Uchel
Mae'r Clwstwr Busnes Effaith Uchel yn rhan o raglen datblygu clystyrau Llywodraeth Cymru.
Mae Prif Weithredwyr busnesau bach a chanolig, Rheolwyr-Gyfarwyddwyr ac aelodau Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru detholedig yn cwrdd bob chwarter â Chanolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, Caerdydd a'r Ganolfan Technoleg Bwyd, Llangefni mewn amryw o leoliadau yng Nghymru.
Beth yw manteision ymuno â'r Clwstwr Busnes Effaith Uchel? Mae busnesau bwyd a diod yn elwa o gydweithredu a'r gefnogaeth a ddarperir gan y canolfannau bwyd a Llywodraeth Cymru. Mae'r cydweithrediad ar sawl ffurf ac yn cynnwys:
- Rhannu adnoddau (e.e. offer)
- Mentrau gwerthu ar y cyd (e.e. cydweithredu ar gyfer marchnad allforio newydd)
- Mynediad at fewnwelediadau i'r farchnad (e.e. ymchwil i'r farchnad)
- Mynediad at wybodaeth clwstwr (e.e. arbenigedd Canolfan Fwyd)
I gael gwybod mwy am sut y gall y Clwstwr Busnes Effaith Uchel fod o fudd i'ch busnes, cysylltwch â ni.
Darllenwch fwy am y Clwstwr Busnes Effaith Uchel:
Taflen ffeithiau Saesneg
Taflen ffeithiau Gymraeg
Gwastraff
Rydym yn falch iawn o fod yn aelodau o Gytundeb Courtauld 2025 sy'n dod ag ystod o sefydliadau sy'n ymwneud â'r diwydiant bwyd a diod ynghyd gyda’r nod o wneud cynhyrchu a bwyta bwyd a diod yn fwy cynaliadwy.
Am fwy o wybodaeth:
E-bost: ZERO2FIVE@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 41 6306