Cwestiynau Cyffredin 

Sut gall ZERO2FIVE gefnogi fy nghwmni? 

Rydym yn cynnig ystod o gymorth technegol a masnachol sydd wedi'i deilwra i anghenion eich cwmni gan gynnwys cefnogaeth yn y meysydd canlynol: 

Cymorth Technegol Rheoli alergenau 
Paratoi archwiliad BRCGS a SALSA a dadansoddi bylchau 
Ail fformiwleiddio / ail-beiriannu cynnyrch 
Dilysu (coginio, oeri, storio a dosbarthu) 
Technoleg pecynnu 
Dylunio ffatrïoedd Mynediad i gyfleusterau ac offer 
Datblygu Cynnyrch Newydd Diogelwch cynnyrch microbiolegol: cefnogaeth gyda phenderfyniad oes silff a dehongli canlyniadau labordy  
Gwella prosesau 
Rheoli Listeria 
Diwylliant diogelwch bwyd Hyfforddiant (pwrpasol) 
Rheoli argyfwng - galw cynnyrch yn ôl  Cymorth Masnachol a Marchnata 
Adolygiad HACCP Archwiliad 'touchpoints' defnyddwyr 
Dilysiad HACCP Archwiliad cyfathrebu 
Archwilio mewnol  Canllawiau cyfryngau cymdeithasol 
Adolygiad labelu 
Mewnwelediad i'r farchnad ac i ddefnyddwyr 
Gwerthuso cynnyrch: dadansoddiad synhwyraidd a gwead Strategaeth Marchnata 
Cyfrifiad maethegol Ymgysylltu â’r diwydiant 
Adolygiad system rheoli ansawdd   Dadansoddiad categori 
Dehongli deddfwriaeth bwyd Efelychu amgylchedd manwerthu ac astudiaethau tracio llygaid 
Lleihau / adolygu gwastraff Grwpiau ffocws 

 

A yw fy musnes yn gymwys ar gyfer cymorth a ariennir gan Project HELIX? 

Byddwn yn adolygu cymhwysedd cwmnïau a phrosiectau gyda chi’n unigol i wirio a ellir defnyddio cyllid Project HELIX i gefnogi'ch ymholiad. Mae rhai o'r meini prawf cymhwysedd allweddol yn cynnwys:  

• Rhaid i chi fod yn wneuthurwr bwyd neu ddiod (neu'n bwriadu cychwyn busnes cynhyrchu bwyd neu ddiod) yng Nghymru.  

• Mae’n rhaid i’r busnes fod o fewn ei derfynau rheoli cymorthdaliadau Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) o £315,000 yn y flwyddyn ariannol gyfredol a dwy flynedd ariannol flaenorol (1 Ebrill i 31 Mawrth).​

Efallai y bydd ZERO2FIVE yn gallu cefnogi'r ymholiadau canlynol ar sail fasnachol lle na ellir defnyddio cyllid Project HELIX:  

• Busnesau y tu allan i Gymru   

• Busnesau arlwyo bwyd neu fanwerthu bwyd  

Sut ydw i’n cael cefnogaeth Project HELIX ar gyfer fy musnes? 

Yn gyntaf, cysylltwch â ni gyda'ch ymholiad i gael trafodaeth gychwynnol. Byddwn yn mynd trwy ein gwaith papur cymhwysedd gyda chi ac yn eich gwahodd i ddigwyddiad Cwrdd â Chanolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, lle byddwn yn egluro mwy am y gwasanaethau y gallwn eu cynnig. Bydd un o'n tîm yn trafod eich ymholiad prosiect gyda chi’n unigol er mwyn amlinellu’r prosiect, pennu lefel y gefnogaeth a ariennir a'r amserlen debygol ar gyfer darparu cefnogaeth. Unwaith y bydd holl ddogfennau contract cyllido Project HELIX wedi'u cytuno a'u llofnodi, gall y prosiect ddechrau. 

Faint fydd cost cefnogaeth Project HELIX? 

Os yw eich busnes yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd ac wedi’i nodi fel micro-fusnes yna efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth wedi'i ariannu'n llawn. Gall busnesau bach, canolig a mawr cymwys dderbyn cefnogaeth rannol neu wedi'i hariannu'n llawn yn dibynnu ar lefel y cymorth sydd ei angen.  ​

A allwch chi helpu fy musnes i sicrhau achrediadau fel SALSA? 

Gallwn, gall Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE gefnogi a mentora pob agwedd ar sicrhau ardystiad BRCGS a SALSA.  

Mae gan ein tîm technegol gyfoeth o brofiad yn y diwydiant mewn perthynas â systemau rheoli diogelwch bwyd. Gall ZERO2FIVE hefyd gefnogi busnes trwy gynnal cyn-archwiliad manwl neu ddadansoddiad bwlch ar gyfer safon diogelwch bwyd o'ch dewis chi.  

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth..

Sut alla i gyflogi myfyriwr graddedig wedi'i ariannu'n rhannol trwy ZERO2FIVE? 

Mae ZERO2FIVE yn gweithredu Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth HELIX. Mae'r rhaglen hon yn cyflogi gweithwyr technegol a marchnata ac yn eu hymgorffori mewn busnesau cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yng Nghymru am o leiaf blwyddyn gyda chefnogaeth lawn a mentora gan ZERO2FIVE.  

Mae'r cwmni'n elwa o ran-ariannu’r gweithiwr, gweithiwr lefel graddedig llawn cymhelliant, cefnogaeth gan y staff profiadol yn ZERO2FIVE a mynediad at gyfleusterau ZERO2FIVE.  

Gall cwmnïoedd wneud cais ar gyfer gweithiwr fel hyn ddwywaith y flwyddyn fel arfer. Gweler yma am fanylion.  

A fydd fy nghwmni'n cael arian Project HELIX yn uniongyrchol? 

Na, darperir y gefnogaeth ariannol trwy amser staff a chostau prosiect ZERO2FIVE cysylltiedig gan gynnwys mynediad i'n hoffer a'n cyfleusterau.  

A yw ZERO2FIVE yn cynnig profion microbiolegol a phrofion oes silff? 

Yn anffodus nid yw cyfleusterau labordy Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi'u hachredu gan UKAS gan eu bod yn cael eu defnyddio'n bennaf at ddibenion academaidd ac ymchwil; felly nid ydym yn cynnal unrhyw brofion oes silff na microbiolegol. Fodd bynnag, gallwn eich cyfeirio tuag at UKAS a'u rhestr o labordai achrededig, eich helpu i bennu meini prawf profi tebygol i gefnogi anghenion eich cynnyrch, a dehongli'ch canlyniadau ar ôl eu derbyn o labordy ardystiedig UKAS o'ch dewis. 

A yw ZERO2FIVE yn cynnal dadansoddiadau maethegol? 

Fel yr uchod, nid ydym yn cynnal dadansoddiadau maethegol arferol yn ein labordai ymchwil ac addysgu. Fodd bynnag, gallwn eich cyfeirio at labordai achrededig UKAS a all gynnal dadansoddiad maethegol, a'ch helpu i ddehongli'ch canlyniadau ar ôl eu derbyn.  

Mae gennym fynediad at feddalwedd cyfrifo maeth y gellir ei ddefnyddio i roi syniad o gyfansoddiad maethegol eich cynnyrch yn seiliedig ar y rysáit a gwybodaeth am golledion coginio a gyflenwir gan eich busnes.  


A all ZERO2FIVE ysgrifennu cynllun HACCP ar gyfer fy nghwmni? 

Mae astudiaeth HACCP sydd wedi'i hystyried a’i dogfennu’n ofalus yn hanfodol ar gyfer unrhyw fusnes bwyd a diod ac mae gweithdrefnau HACCP sy'n seiliedig ar egwyddorion Codex yn ofyniad cyfreithiol ledled yr UE. Er y gall y tîm yn ZERO2FIVE eich cefnogi trwy'r broses o ddatblygu astudiaeth HACCP yn seiliedig ar ganllawiau arfer gorau, ni allwn ysgrifennu eich astudiaeth HACCP ar eich rhan. Perchnogion y busnes sy'n gyfrifol am ddiogelwch bwyd a chydymffurfiad cyfreithiol yr holl gynhyrchion a gynhyrchir gan y busnes.  

Gallwn adolygu eich cynllun a'ch cefnogaeth HACCP gyda throsglwyddo gwybodaeth neu fentora mewn unrhyw feysydd y gallai eich busnes fod angen cefnogaeth. Mae yna becynnau cyfrifiadur hefyd ar gael i helpu gydag ysgrifennu cynllun HACCP fel MyHACCP ar gyfer busnesau bwyd a diod cychwynnol a llai. 

A yw ZERO2FIVE yn calibradu pwysau a chloriannau? 

Na, cysylltwch ag adran safonau masnach eich awdurdod lleol a fydd yn gallu eich helpu gyda hyn. Fodd bynnag, gallwn eich cefnogi gyda gweithdrefnau calibradu a dogfennaeth ategol eich cwmni.  

A yw ZERO2FIVE yn dylunio labeli? 

Efallai y bydd cefnogaeth ar gyfer adolygu a datblygu cynnwys labeli bwyd a diod ar y cyd â deddfwriaeth gyfredol y DU a'r UE ar gael i fusnesau cymwys o dan gyllid Project HELIX.  

Ar hyn o bryd nid ydym yn cynnig cefnogaeth dylunio gwaith celf. Efallai y bydd cefnogaeth dylunio label a brandio ar gael i'ch busnes os ydych chi'n gymwys trwy gyllid amgen. Cysylltwch â Cywain i drafod eich anghenion dylunio ymhellach.

A all fy nghwmni ddefnyddio'r cyfleusterau yn ZERO2FIVE i gynhyrchu cynhyrchion? 

Ni allwn logi ein cyfleusterau cynhyrchu bwyd a diod at ddibenion cynhyrchu masnachol ar hyn o bryd oherwydd bod y prif ddefnydd o'n mannau cynhyrchu bwyd yn canolbwyntio yn canolbwyntio ar waith academaidd ac ymchwil. Fodd bynnag, gellir defnyddio ein mannau cynhyrchu a datblygu bwyd ar gyfer datblygu syniadau a threialon dichonoldeb cychwynnol ar raddfa fach. Mae gan ein partneriaid Arloesi Bwyd Cymru, Canolfan Fwyd Cymru yng Nghanolbarth Gorllewin Cymru a’r Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngogledd Cymru, ystod o gyfleusterau gweithgynhyrchu masnachol ac unedau deori pwrpasol - cysylltwch â nhw am fanylion y gefnogaeth y gallant ei chynnig naill ai trwy ddulliau wedi'u hariannu neu heb eu hariannu.  

Ydych chi'n darparu cyllid ar gyfer prynu offer neu gyfleusterau? 

Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth y gellir defnyddio cyllid Prosiect HELIX ac nid yw'n cynnwys taliad cyllid uniongyrchol ar gyfer prynu cyfleusterau. Cysylltwch â Cywain neu Busnes Cymru a fydd efallai’n gallu eich cynghori ar ffrydiau cyllido perthnasol eraill ar gyfer gwariant cyfalaf ar adeiladau, peiriannau ac offer. 

A all ZERO2FIVE ysgrifennu cynllun busnes ar gyfer fy nghwmni? 

Er na allwn ysgrifennu cynllun busnes ar gyfer eich cwmni, gallwn helpu gydag ymchwil i'r farchnad a defnyddwyr i lywio'ch cynllun a'ch strategaeth fusnes.  

A all ZERO2FIVE ddylunio logo ar gyfer fy nghwmni? 

Ar hyn o bryd nid ydym yn cynnig cefnogaeth gyda dylunio logo ond efallai y gallwn ddarparu cefnogaeth gychwynnol gydag ystyriaethau ar gyfer datblygu brand. Gallwn hefyd gefnogi gydag asiantaethau briffio. Efallai y bydd cyllid trwy ffynonellau amgen Llywodraeth Cymru ar gael i fusnesau cymwys. Cysylltwch â Cywain  i gael mwy o fanylion. Gallwn hefyd gynnig grwpiau ffocws neu gyfweliadau un i un gyda'ch marchnad darged er mwyn helpu gyda phenderfyniadau dylunio brandio a / neu becynnu.   

A all ZERO2FIVE ddylunio gwefan ar gyfer fy nghwmni neu reoli ein cynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefan? 

Efallai y bydd cefnogaeth cyfryngau cymdeithasol a gwefan gan ZERO2FIVE ar gael i fusnesau cymwys er ei fod yn gyfyngedig. Gallwn gynnal archwiliad o'ch gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol a gwefan a rhoi cyngor i chi ar sut i’w gwella. Nid ydym yn cynnig cefnogaeth dylunio gwefan nac yn rheoli cefnogaeth cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. 

A all ZERO2FIVE greu ryseitiau cynnyrch ar gyfer fy nghwmni? 

Efallai y bydd ZERO2FIVE yn cefnogi busnesau cymwys i ddatblygu ryseitiau cynnyrch pwrpasol. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod gennych rysáit gychwynnol ar gyfer eich cynnyrch a briff cynnyrch wedi'i ddogfennu y gallwn ni eich helpu i'w ddatblygu ymhellach.  

A oes marchnad ar gyfer fy nghynnyrch? 

Mae gennym fynediad at ddata marchnad a thueddiadau o  Kantar Worldpanel, The Food People ac Euromonitor a gallwn ddarparu mewnwelediadau a dadansoddiad i chi er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniad hwn yn effeithiol. 

A all ZERO2FIVE siarad â chyflenwyr, prynwyr, labordai neu iechyd yr amgylchedd ar ran fy nghwmni? 

Na, dim ond gyda chi y gallwn ni gysylltu. Ond, gallwn eich mentora ar y cwestiynau cywir i'w gofyn i'r sefydliadau hyn. Mae'r holl wybodaeth a drafodir fel rhan o'ch prosiect yn gwbl gyfrinachol. 

A all ZERO2FIVE helpu gydag allforio? 

Gallwn helpu eich cwmni gyda gofynion technegol allforio a hefyd darparu data marchnad i chi ar gyfer nodi cyfleoedd tramor. Am gefnogaeth pellach, cysylltwch â Busnes Cymru.

Beth mae ZERO2FIVE yn ei olygu? 

Dyma'r tymheredd diogel ar gyfer oergell. Rydym yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd felly dyna pam rydyn ni'n cael ein galw'n ZERO2FIVE.