Gwasanaethau ar gyfer Busnesau Bwyd a Diod 

unnamedWPYMAHP4.jpg

Gall Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE helpu busnesau bwyd a diod gydag unrhyw agwedd ar gymorth technegol, gweithrediadau, dadansoddi'r farchnad, datblygu cynnyrch newydd, gwerthuso cynnyrch, marchnata ac ymgysylltu â masnachwyr: 

Project HELIX - cefnogaeth dechnegol a masnachol wedi'i ariannu 

 

Mae Project HELIX yn darparu cefnogaeth dechnegol a masnachol wedi'i hariannu i gwmnïau bwyd a diod Cymreig cymwys.  

Mae cefnogaeth HELIX yn hyblyg ac wedi'i theilwra i anghenion unigol eich busnes. Gall cwmnïau gael mynediad at gyfleusterau ZERO2FIVE ac arbenigedd ein timau cymorth technegol, academaidd a busnes.  

Mae Prosiect HELIX yn fenter ledled Cymru a ddarperir gan Food Innovation Wales. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma.  Gallwch hefyd weld ein cwestiynau cyffredinol ynghylch cefnogaeth Project HELIX

Ariennir Prosiect HELIX gan Lywodraeth Cymru.

  Welsh Government funding logo

Lleihau gwastraff a chynaliadwyedd

 Yma yn ZERO2FIVE gallwn gefnogi busnesau bwyd a diod i fod yn fwy cynaliadwy mewn nifer o feysydd allweddol:

  • Mapio gwastraff – Gallwn eich helpu chi i nodi pwyntiau rheoli gwastraff yn eich prosesau gweithgynhyrchu, o fwyd i ddeunydd pecynnu ac egni. Gallwn eich helpu i weithredu dulliau i fesur a lleihau gwastraff yn ogystal â chefnogi’ch cwmni i wella ei ddiwylliant gwastraff.
  • Effeithlonrwydd prosesau – Gallwn eich cefnogi chi i fapio a modelu effeithlonrwyddau proses ar lawr eich ffatri. Gall yr effeithlonrwyddau hyn ganolbwyntio ar brosesau rhyngol a chynhyrchion gorffenedig a gallwn eich helpu chi i weithredu mesurau rheoli i wella colledion coginio / pobi, colledion oeri, colledion rhewi, cynhyrchion a phwysau dyddodion.
  • Datblygu Cynnyrch Newydd Cynaliadwy (DCN) – Gallwn eich helpu chi i greu cynnyrch bwyd a diod newydd cynaliadwy, gan ddarparu mewnwelediadau i’r farchnad i chi i’ch helpu i ddatblygu cysyniadau cynnyrch cychwynnol. Mae ein cefnogaeth DCN aml-gategori yn dilyn proses cam wrth gam arfer gorau o’r cysyniad i’r lansiad.
  • Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy – Gallwn eich helpu chi i ddilyn prosesau cadarn ar gyfer cymeradwyo cyflenwyr, dethol, asesu risg a monitro er mwyn i’ch busnes fedru cyrchu deunyddiau crai a deunydd pecynnu cynaliadwy addas.  
  • Cefnogaeth Dechnegol & Gweithredol – Gallwn eich cefnogi chi i weithredu diogelwch bwyd, systemau ansawdd a gweithdrefnau i sicrhau bod eich busnes yn cynhyrchu bwyd, diod a deunydd pecynnu cyfreithlon, dilys a chynaliadwy. Gallwn hefyd eich mentora i’ch helpu chi i gydymffurfio â safonau bwyd cynaliadwy trydydd parti megis BRCGS a SALSA.
  • Masnach Foesegol & Chyrchu Cyfrifol (MFChC) BRCGS – Gallwn eich helpu chi i ddilyn dull sy’n seiliedig ar asesu risg er mwyn deall yr hyn mae ymrwymo i MFChC yn ei olygu, o safonau llafur ac iechyd a diogelwch i barchu hawliau dynol a llywodraethu corfforaethol.

Cymorth cychwyn​

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth cychwynnol i gwmnïau bwyd a diod o Gymru. Pa bynnag gam o'r daith rydych chi ynddo, gallwn eich helpu chi ar hyd y ffordd:

  • Cofrestru Busnes Bwyd — Cymorth gydag adolygiad cychwynnol o'r gofynion ar gyfer cofrestru busnes bwyd ac os yw'n berthnasol cymeradwyaeth busnes bwyd ar gyfer busnesau bwyd sy'n trin cynhwysion o darddiad anifeiliaid.
  • HACCP — Mae'n ofyniad cyfreithiol yn y DU i bob cwmni bwyd a diod gael cynllun diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddiad Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP). Mae eich cynllun HACCP yn cadw'ch bwyd yn ddiogel rhag peryglon diogelwch bwyd biolegol, cemegol a ffisegol. 
  • Datblygu Cynnyrch Newydd — O gael syniad hyd at lansio mewn manwerthwyr, gallwn eich cefnogi i ddatblygu cynhyrchion newydd. Mae yna lawer o bethau i'w hystyried, gan gynnwys a oes bwlch yn y farchnad ar gyfer eich cynnyrch ac os yw'n broffidiol, datblygu ryseitiau, cael adborth gan ddefnyddwyr, a chael digon o oes silff. 
  • Cymeradwyo Cynnyrch Rheoleiddiedig - Ydych chi'n siŵr bod y cynhwysion rydych chi'n bwriadu eu defnyddio yn eich cynnyrch yn cael eu hawdurdodi ar gyfer defnydd bwyd yn y DU? Os oes angen, gallwn eich helpu i adolygu'r gofynion ar gyfer y broses 'Cymeradwyo Cynnyrch Rheoleiddiedig 'gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd.
  • Gwybodaeth labelu a maeth — Gallwn eich helpu i sicrhau bod y wybodaeth rydych yn ei chynnwys ar eich labeli cynnyrch yn cydymffurfio â'r rheoliadau gwybodaeth am fwyd diweddaraf. A yw'r honiadau maeth ac iechyd yr ydych yn eu gwneud yn gywir ac yn gyfreithiol? Ydych chi wedi datgan cynhwysion, oes s​ilff, gwybodaeth faethol ac alergenau yn gywir? Efallai y bydd angen i chi ystyried cyfarwyddiadau coginio hefyd. 
  • Graddio i fyny cynhyrchu - Unwaith y byddwch wedi creu rysáit cynnyrch yn eich cegin gartref yn llwyddiannus, mae siawns dda y bydd angen i chi rampio fyny cynhyrchu i gegin fasnachol neu ffatri. Gallwn eich helpu i feddwl am y prosesau a'r offer y gallai fod eu hangen arnoch i gyflawni hyn. 
I gael gwybod mwy am sut y gall ZERO2FIVE gefnogi cwmnïau cychwynnol, cysylltwch â ni. 

Cymorth Masnachol a Marchnata Bwyd a Diod 

Mae tîm ZERO2FIVE yn darparu cefnogaeth fasnachol a marchnata i gwmnïau bwyd a diod. Mae ein cefnogaeth yn canolbwyntio ar:  

1. Dadansoddiad a mewnwelediad i'r farchnad 

Helpu cwmnïau i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ddatblygu cynnyrch newydd, a gwneud penderfyniadau ynghylch categori ac allforio sy'n deillio o well dealltwriaeth o'r farchnad neu'r wlad.  

Trwy Lywodraeth Cymru mae gennym fynediad at ystod eang o adroddiadau tuedd a data marchnad gan The Food People, Kantar Worldpanel a Euromonitor. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael unrhyw ran o'r data hwn gan ZERO2FIVE, cwblhewch y ffurflen ymholiadau yma.

Mae pob prosiect yn wahanol ac yn debygol o gynnwys: 

  • Perfformiad categori  
  • Mewnwelediadau defnyddwyr  
  • Tueddiadau cynnyrch
  • Mewnwelediadau i'r farchnad 
  • Sianeli allweddol a phartneriaid masnach  
  • Cystadleuwyr allweddol  
  • Amrywiaethau cynnyrch cyfredol  
  • Bylchau a chyfleoedd  
  • Awgrymiadau  


2. Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD)

  • Syniadau - Adroddiadau Tueddiadau
  • Saffaris bwyd – i ddarparu ysbrydoliaeth NPD
  • Meincnodi cystadleuwyr/dadansoddi'r farchnad
  • Dylunio pecynnau a phrofi fformat - gan ddefnyddio ein Labordy Profiad Canfyddiadol (PEL) o'r radd flaenaf


3. Aelodau cyswllt Gwerthu a Marchnata a mentora

  • Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth HELIX – aelod cyswllt gwerthu a marchnata wedi'i sefydlu o fewn cwmni cymwys gyda chefnogaeth lawn tîm marchnata ZERO2FIVE. Mae cyflog y cyswllt yn cael ei ariannu'n rhannol trwy Brosiect HELIX
  • Mentora marchnatwyr -  mentora 1-i-1/grŵp o archwilio brand i ddatblygu strategaeth farchnata

Gwerthusiad Synhwyraidd 

Yn ZERO2FIVE, mae gennym un o'r ystafelloedd gwerthuso synhwyraidd mwyaf yn y DU a'r unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru.  

Sensory Evaluation 

Sut gall gwerthuso synhwyraidd helpu'ch busnes?

  • Gwerthuso cynnyrch yn annibynnol  
  • Datblygu Cynnyrch Newydd / paru / gwella - meincnodi'ch cynhyrchion yn erbyn y cystadleuwyr. 
  • Rheoli a chynnal ansawdd - sicrhau cysondeb cynnyrch yn ystod newid prosesau neu wrth ailfformiwleiddio cynnyrch.  
  • Lleihau costau - sicrhau bod ansawdd y cynnyrch yn cael ei gynnal wrth ddod o hyd i ddeunyddiau crai mwy cost-effeithiol.  
  • Pennu sefydlogrwydd storio eich cynnyrch - gwerthuso ansawdd y cynnyrch dros oes silff.  

Datblygu Cynnyrch Newydd

Mae Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD) a Datblygu Cynnyrch Presennol (EPD) yn hanfodol i unrhyw fusnes bwyd a diod. 

Gyda'r galw cynyddol am arloesi i fodloni'r tueddiadau diweddaraf, gall NPD ac EPD llwyddiannus sicrhau bod cwmnïau'n cadw cyfran o'r farchnad ac yn parhau i fod yn gystadleuol. 

 New Product Development

Gall ZERO2FIVE helpu gyda phob agwedd o’ch NPD a'ch EPD:

  • Dadansoddiad o'r farchnad ac ymchwil i dueddiadau 
  • Diwrnodau arloesi/saffaris 
  • Datblygu ryseitiau
  • Arallgyfeirio a gwerth sgil-gynhyrchion
  • Dilysu prosesau/cefnogaeth treial 
  • Adolygiad meincnodi cystadleuwyr
  • Dadansoddiad synhwyraidd annibynnol a phaneli dethol
  • Profi cynnyrch — pH, gweithgaredd dŵr a dadansoddi gwead
  • Cymorth asesu oes silff (organoleptig)
  • Maeth ddamcaniaethol
  • Dilysu thermol
  • Dilysu coginio/ailgynhesu
  • Gofynion a chymorth cynhyrchu QAS 
  • Cydymffurfiaeth labelu
  • Dylunio pecynnu a phrofi fformat - gan ddefnyddio ein Lab Profiad Canfyddiadol (PEL) o'r radd flaenaf

Becws Arbenigol a Chefnogaeth Melysion

P’un a ydych yn fusnes sefydledig neu’n gwmni newydd, gall arbenigwyr becws a melysion ZERO2FIVE gynnig amrywiaeth o gymorth arbenigol: 

  • Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD) a Datblygu Cynnyrch Presennol (EPD), gan gynnwys bara, cacennau, patisserie, nwyddau boreol, bisgedi, pitsa a melysion melys 
  • Datblygu ryseitiau ac ailfformiwleiddio 
  • Cefnogaeth ymarferol yn ein becws a'n cyfleusterau melysion o'r radd flaenaf 
  • Technoleg cynhwysion – cynhwysion swyddogaethol, amnewidion siwgr, a dewisiadau fegan eraill
  • Uwchraddio offer 
  • Effeithlonrwydd prosesau 
  • Datblygu cynnyrch ‘heb’ a chymorth alergenau 
  • Cynllun a dyluniad y becws 
  • Hyfforddiant staff 
  • Estyniad oes silff 
  • Lleoliadau myfyrwyr 
  • Cysylltiadau diwydiant pobi y DU am ragor o gymorth a chefnogaeth

Dilysu Proses Thermol

Mae dilysu prosesau thermol yn hanfodol wrth fonitro tymheredd llawer o gynhyrchion bwyd. 

Mae dilysu'r broses goginio yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch y cynnyrch dros yr oes silff a fwriadwyd ac mae'n helpu i reoli ansawdd y cynnyrch. 

Gall ZERO2FIVE gynnig y gwasanaethau dilysu prosesau thermol canlynol: 

  • Dilysiad coginio 
  • Dilysiad oeri 
  • Dilysiad rhewi
  • Proffilio tymheredd yn ystod treialon datblygu cynnyrch 
  • Datrys problemau yn y broses thermol 
  • Proffilio tymheredd yn ystod y cludo 
  • Archwiliadau proses 
  • Dilysu cyfarwyddiadau coginio defnyddwyr 
  • Effeithlonrwydd proses

Mae gan ZERO2FIVE  arbenigwyr sydd â phrofiad ym mhob maes prosesu bwyd, gan gynnwys bwydydd di-haint yn fasnachol, cawliau a sawsiau, cynhyrchion wedi'u pobi, a phrydau parod. 

Cymorth Ardystio BRCGS 

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn gallu cefnogi pob agwedd ar ennill ardystiad BRCGS. 

BRC 

Beth yw BRCGS? 
System Rheoli Diogelwch Bwyd yw Consortiwm Manwerthu Prydain (BRCGS) a sefydlwyd gan y prif fanwerthwyr. Sefydlwyd tua 1998 i alluogi cyflenwyr i gael eu harchwilio yn erbyn un safon, ac mae wedi dod yn fyd-eang ers hynny, yn cael ei ddefnyddio gan dros 14000 o gwmnïau mewn 90 o wledydd. Mae safonau'n ymwneud â phecynnu a dosbarthu bwyd yn ogystal â gweithgynhyrchu bwyd. Mae BRCGS yn safon wedi'i meincnodi gan y Fenter Diogelwch Bwyd Byd-eang (GFSI). 

Cymorth Technegol BRCGS  

Mae gan ZERO2FIVE brofiad o ddatblygu a gweithredu systemau rheoli ansawdd sy'n cwrdd â gofynion safonau technegol BRCGS, gan gynnwys;

  • Bwyd (gan gynnwys Rhaglen Marchnadoedd Byd-eang BRCGS)

  • Storio a Dosbarthu 

  • Deunyddiau Pecynnu a Phecynnu 

  • Asiantau a Broceriaid 

Mae gan aelodau o'n tîm technegol brofiad sylweddol o'r diwydiant bwyd, gan greu a dilysu systemau diogelwch, cynnal archwiliadau system, sicrhau cydymffurfiad cyfreithiol a chydymffurfiaeth lawn â'r system. Mae gennym dîm archwilio cwbl gymwys. 

Mae gan ZERO2FIVE brofiad o gefnogi busnesau sy'n anelu at gyrraedd ardystiad BRCGS, a safleoedd sydd eisoes wedi'u hardystio i'r safon. 

Rhag-archwiliadau a Dadansoddiad Bylchau BRCGS  

Gall ZERO2FIVE gefnogi busnesau trwy gynnal cyn-archwiliad manwl neu ddadansoddiad bwlch yn erbyn safon dechnegol BRCGS o'u dewis.  Bydd yr ymweliad yn asesu statws cyfredol, ac yn darparu arweiniad mewn meysydd y mae angen eu gwella. Bydd safleoedd yn cael cynllun gweithredu manwl yn dilyn yr ymweliad a fydd yn helpu  safleoedd i  ganolbwyntio eu hymdrechion i gyflawni'r gofynion.  

Hyfforddiant Cymeradwy BRCGS 

Mae ZERO2FIVE yn cynnal y cwrs hyfforddi canlynol a gymeradwywyd gan BRCGS: 

  • Archwilydd Mewnol BRCGS (addas ar gyfer pob safon) 

Hyfforddiant Pwrpasol 

Gall ZERO2FIVE ddatblygu a darparu cyrsiau hyfforddi ar y safle i fodloni gofynion technegol manwerthwyr a'r sector gweithgynhyrchu. 

Cysylltwch â ni am ddyddiadau cwrs neu i gael dyfynbris ar gyfer cwrs  pwrpasol.

Buddion Safon BRCGS 

  • Mae’n agor y drws i lawer o fanwerthwyr mawr a darparwyr gwasanaeth bwyd sydd angen BRCGS fel rhagofyniad i gyflenwi  
  • Mae'n system diogelwch bwyd sy'n eich helpu  i gyflawni llawer o'r gofynion cyfreithiol  
  • Mae'n helpu i gynhyrchu cynnyrch sy'n gyson ddiogel  
  • Mae'n caniatáu ichi gael systemau clir wedi'u gosod fel bod yr holl staff yn deall yr hyn sy'n ofynnol a sut i'w gyflawni  
  • Dylai arwain at ostyngiad mewn archwiliadau cwsmeriaid  
  • Mae’n ysbrydoli hyder mewn cwsmeriaid presennol  a chwsmeriaid newydd posibl, gan alluogi twf eich busnes 

I gael rhagor o wybodaeth am Safon BRCGS, ewch i wefan BRCGS Global Standards www.brcglobalstandards.com

Cymorth Ardystio SALSA 

SALSA yw un o’r cynlluniau ardystio diogelwch bwyd mwyaf cydnabyddedig yn y DU gyda dros 2000 o aelodau. 

SALSA 

Wedi’i gynllunio ar gyfer cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd llai, rhaid i fusnesau sydd wedi’u cymeradwyo gan SALSA ddangos i archwilydd eu bod yn gallu cynhyrchu a chyflenwi bwyd diogel a chyfreithlon a’u bod wedi ymrwymo i fodloni gofynion safon SALSA yn barhaus. 

Gall Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE gefnogi pob agwedd ar ennill a chynnal ardystiad SALSA. Gall hyn gynnwys mentora, eich helpu i adolygu a dylunio eich systemau rheoli ansawdd yn unol â gofynion SALSA, ac archwiliadau mewnol.

I gael rhagor o wybodaeth am Safon SALSA, ewch i wefan SALSA

Am enghreifftiau o’r cymorth SALSA y gallwn ei gynnig, gweler ein hastudiaeth achos Burts the Bakers a’n hastudiaeth achos Fferm Charcuterie Trealy.

Cymorth Pecynnu Bwyd a Diod 

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn darparu ystod gynhwysfawr o gymorth pecynnu technegol sy'n cynnwys:  

  • Dyluniad pecynnu - datrysiadau pecynnu strwythurol, datrysiadau gweithredol technegol 

  • Datblygu Cynnyrch Newydd - gan gynnwys dadansoddiad synhwyraidd, grwpiau ffocws, meincnodi, ymchwil sylfaenol i'r farchnad, dadansoddi oes silff, labelu cyfreithiol, costiadau, dilysu cyfarwyddiadau coginio a dadansoddi cylch bywyd 
  • Datblygu prosesau 
  • Cyfraith Bwyd 
  • HACCP 
  • Archwilio technegol 
  • Datblygiad Systemau a safon  - gan gynnwys BRCGS, SALSA, ISO9001, BRCGS/IOP, SQF 
  • Datrys Problemau - pob agwedd ar brosesu a phecynnu e.e. labelu cyfreithiol 
  • Cyrchu deunydd - gan gynnwys pecynnu cynradd, MAP, pecynnu cynaliadwy, pecynnu parod ar gyfer manwerthu, dangosyddion tymheredd amser, adnabod amledd radio 
  • Rheoli pontio marchnad - cefnogaeth dechnegol ar gyfer mynediad cynhyrchion i farchnadoedd newydd h.y. o farchnadoedd ffermwyr lleol  i'r sector manwerthu cenedlaethol 
  • Ymchwil i'r farchnad - gellir defnyddio ein Labordy Profiad Canfyddiadol (PEL) i brofi dyluniadau pecynnu mewn amgylchedd manwerthu efelychiedig a gallwn hefyd drefnu grwpiau ffocws defnyddwyr 
  • Hyfforddiant - gweithgareddau gweithredol, gofynion cyfreithiol, archwilio, BRCGS, technoleg pecynnu 

Meysydd Eraill ar gyfer Cymorth Technegol  

Gallwn hefyd gynnig cymorth technegol yn y meysydd canlynol. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn helpu'ch cwmni:      

  • Dyluniad ffatri 
  • Lleihau/adolygu gwastraff 

  • Gwelliannau i'r broses 

  • Diwylliant diogelwch bwyd 

  • Rheoli argyfwng - galw cynnyrch yn ôl 

  • Adolygiad HACCP 

  • Dilysiad HACCP 

  • Cyfrifiad maethol 

  • Adolygiad system rheoli ansawdd 

  • Dehongliad deddfwriaeth bwyd 

  • Rheoli alergenau 

  • Ailfformiwleiddio/ail-beiriannu cynnyrch 

  • Diogelwch cynnyrch microbiolegol: cefnogaeth gyda phenderfyniad oes silff a dehongli canlyniadau labordy 

  • Rheoli Listeria 

  • Mynediad at gyfleusterau ac offer 

Am ragor o wybodaeth 

E-bost: ZERO2FIVE@CardiffMet.ac.uk​​


Ffôn: 02920 416306