Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Cig Calon Cymru - Astudiaeth Achos

Cig Calon Cymru

​​

​​​



Cefndir y gefnogaeth

Mae Cig Calon Cymru yn lladd-dy a chyfleuster prosesu cig yn Sir Gaerfyrddin gyda thîm rheoli sydd â dros 100 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cig.

Mae’r cyfleuster sydd wedi’i ardystio gan BRCGS yn canolbwyntio’n gryf ar les anifeiliaid, sicrwydd ansawdd a’r gallu i olrhain ac mae’n gweithio i gefnogi ffermwyr lleol a’r diwydiant cig. Fel un o’r lladd-dai olaf sydd ar ôl yn Ne Orllewin Cymru, mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae mewn lles anifeiliaid drwy leihau’r pellter sydd gan ffermwyr lleol i deithio gyda’u da byw.​

HELIX logo

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE

Mae Cig Calon Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ers dros bedair blynedd,ac wedi derbyn cymorth trwy Brosiect HELIX i gynnal eu hardystiad diogelwch bwyd BRCGS. Mae'r cymorth hwn wedi cynnwys ZERO2FIVE yn cyflwyno rhaglen o archwiliadau mewnol yn erbyn gofynion y safon yn ogystal â mentora tîm rheoli technegol y cwmni. Mae Cig Calon Cymru hefyd wedi elwa o'r blaen o gymorth aelod cyswllt technegol yn y cwmni trwy Gynllun Trosglwyddo Gwybodaeth Prosiect HELIX.

Fel rhan o gefnogaeth barhaus y cwmni gydag ardystiad BRCGS, cafodd Cig Calon Cymru gymorth i sicrhau modiwl gwirfoddol 11 BRCGS, 'Sicrwydd y Gadwyn Cyflenwi Cig'. Mae'r modiwl hwn yn galluogi deiliaid yr ardystiad i roi hyder i'w cwsmeriaid eu bod yn lleihau'r risg o dwyll bwyd trwy ddangos rheolaeth dda ar y gadwyn gyflenwi trwy systemau olrhain cadarn a chadarnhau dilysrwydd.

Darparodd ZERO2FIVE fentora ar ofynion y modiwl gwirfoddol a oedd yn cynnwys elfennau cadwyn gyflenwi yn rhaglen barhaus y cwmni o archwiliadau mewnol. Fe wnaeth ZERO2FIVE gynnal profion olrhain i herio prosesau Cig Calon drwy ddewis sypiau ar hap ac asesu eu dogfennaeth o giât y fferm hyd at y cynnyrch wedi’u pecynnu er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei gyfrif ar draws y gadwyn gyflenwi.


Manteision y gefnogaeth

O ganlyniad i’r gefnogaeth gan ZERO2FIVE, llwyddodd Cig Calon Cymru i sicrhau modiwl gwirfoddol 11 BRCGS yn 2021 ac maent wedi parhau i gynnal eu hardystiad o dan BRCGS Rhifyn 9 a lansiwyd yn ddiweddar, gan basio eu harchwiliad diweddaraf yn llwyddiannus ym mis Mai 2023.

Ers ennill yr ardystiad, mae Cig Calon Cymru wedi dechrau allforio cig oen Cymreig, yn rhannol oherwydd yr hyder cynyddol y gall eu cwsmeriaid gael yn y broses olrhain a tharddiad eu cig. Mae'r ardystiad yn cyd-fynd ag ardystiadau Sicrwydd Fferm Tractor Coch ac Organig y cwmni o ran rhoi sicrwydd i'w cwsmeriaid.

Yn ogystal â’r cymorth y mae Cig Calon Cymru wedi’i dderbyn drwy Brosiect HELIX, mae’r cwmni’n gweithio’n agos gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ymgysylltu â’u myfyrwyr gwyddor bwyd a thechnoleg a chreu llwybr gyrfa ar gyfer gweithwyr technegol proffesiynol ifanc sydd am gychwyn ar yrfaoedd yn y diwydiant cig. Mae nifer o fyfyrwyr wedi ymgymryd â lleoliadau gyda'r cwmni ac wedi mynd ymlaen i gael eu cyflogi'n barhaol ganddynt ar ôl graddio. Mae Cig Calon Cymru wedi buddsoddi yn y gweithwyr hyn i'w helpu i ddatblygu i swyddi rheoli technegol.

​​​Vaughn Round, Cig Calon Cymru: "Mae ZERO2FIVE wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i gyflawni ein BRCGS, yn arbennig, y modiwl gwirfoddol 11. Fe fyddwm yn argymell ZERO2FIVE i unrhyw fusnes sy'n chwilio am gymorth. Mae eu gwybodaeth, lefel eu harbenigedd, hyblygrwydd a mentoriaeth wedi bod yn wych ac ni allem fel busnes fod yn fwy diolchgar. Yn dilyn eu cyfranogiad rydym mewn sefyllfa dda i gwrdd â'r heriau sydd o'n blaenau ac mae gennym hyder llawn yn ein systemau a'n prosesau
cadarn.​
​​"


EU funding logo