Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Ty Tanglwyst - Astudiaeth Achos

Ty Tanglwyst - Astudiaeth Achos

​​

​​Ty Tanglwyst Logo

Cefndir 

Mae Tŷ Tanglwyst yn fferm laeth fach deuluol sydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n cynhyrchu llaeth, hufen a menyn. Gan gyflogi 15 o bobl leol, mae'r busnes wedi arallgyfeirio'n ddiweddar i botelu llaeth ac mae'n gweithredu ar draws amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys contractau ysgolion, cynlluniau masnachol, a danfoniadau ar garreg y drws. ​​


 

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Mae Tŷ Tanglwyst wedi derbyn cymorth technegol gan ZERO2FIVE ers nifer o flynyddoedd ac wedi elwa o'r blaen o gefnogaeth cyswllt technegol a oedd wedi'i wreiddio yn y busnes. Roedd y gefnogaeth hon yn hanfodol wrth alluogi Tŷ Tanglwyst i gyflawni a chynnal ardystiad SALSA. 

Pan gyflwynwyd Rhifyn 6 SALSA yn 2022, bu nifer o newidiadau i'r safon diogelwch bwyd, gan gynnwys mwy o bwyslais ar ddiwylliant diogelwch bwyd a diweddariadau mawr i HACCP. O'r herwydd, roedd angen cymorth pellach ar Tŷ Tanglwyst trwy Brosiect HELIX i ddiweddaru eu systemau rheoli diogelwch bwyd. 

Roedd cefnogaeth gan ZERO2FIVE yn cynnwys mentora perchennog Tŷ Tanglwyst, Rhys Lougher, ynghylch y newidiadau i safon SALSA a chynorthwyo gyda diweddaru eu system HACCP.

Ty Tanglwyst milk range

Manteision y cymorth 

Bu mentora parhaus gan ZERO2FIVE yn helpu Tŷ Tanglwyst i reoli'r newidiadau i safon diogelwch bwyd SALSA yn effeithiol a sicrhau eu bod yn gallu cynnal eu hardystiad SALSA. Mae SALSA yn hanfodol i'r cwmni allu tendro ar gyfer contractau llywodraeth leol ac addysg.  

Datblygwyd rhaglen gynnal a chadw hefyd i gefnogi unrhyw drefniadau contract newydd ac i helpu'r cwmni i baratoi ar gyfer archwiliadau SALSA yn y dyfodol. Mae'r gefnogaeth gan ZERO2FIVE wedi helpu i symleiddio llawer o brosesau busnes presennol y fferm a mwy o effeithlonrwydd. ​

Rhys Lougher, Perchennog, Tŷ Tanglwyst: "Mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn gan dechnolegydd ZERO2FIVE wedi bod yn wych.  Mae eu cefndir yn y diwydiant wedi bod yn hynod fuddiol ac maent yn gwybod, er mwyn i brosesau a syniadau newydd gael eu gweithredu'n llwyddiannus, bod angen iddynt fod yn ymarferol ac yn rhesymegol i'r staff eu cyflawni.  Rydym yn eu gweld fel aelod allweddol o'n tîm ac rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth yn fawr."​​

 ​