Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Astudiaeth Achos - Treganna Gin

Astudiaeth Achos - Treganna Gin

​​

​Cefndir

 

Distyllfa grefftus yw Treganna Gin a sefydlwyd yng Nghaerdydd yn 2019. Rhoddir blas ar eu gin trwy ddefnyddio’r botanegau gorau sy'n dod o bob cwr o'r byd ac wedi'u distyllu mewn sypiau bach gan ddefnyddio distyll-lestrau distyllbair copr. Mae eu gin ar gael i’w brynu yn rheolaidd o Farchnad Glan yr Afon yng Nghaerdydd yn ogystal ag yn uniongyrchol gan y cwmni.

Pan symudodd Treganna Gin i ddistyllfa newydd yn 2020, aethant at ZERO2FIVE i gael cefnogaeth gyda dylunio, datblygu a gweithredu eu Cynllun Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) a chymeradwyaeth Iechyd yr Amgylchedd.

Cymorth oddi wrth ZERO2FIVE

Ar ôl mynychu digwyddiad rhithiol Cwrdd â ZERO2FIVE i ddysgu am y gefnogaeth a ariennir sydd ar gael trwy Broject HELIX, derbyniodd y cwmni fentoriaeth gan dechnolegydd ZERO2FIVE. Canolbwyntiodd y gefnogaeth hon ar ddatblygu eu Cynllun HACCP, gan gynnwys yr holl ragofynion a gweithdrefnau sy'n sail iddo fel glanhau, labelu a manylebau cynnyrch. Hefyd, darparodd ZERO2FIVE wybodaeth am gynllun y ddistyllfa newydd i gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.

 

Manteision y cymorth

Cafodd Treganna Gin eu harolygiad Iechyd yr Amgylchedd ym mis Chwefror 2021 ac roedd y cwmni'n falch iawn o dderbyn sgôr cynllun sgorio Hylendid Bwyd o 5. Bydd hyn yn caniatáu i'r busnes barhau i fasnachu a rhoi sicrwydd i'w gwsmeriaid am eu safonau diogelwch.

Mark Flanagan, Rheolwr Gyfarwyddwr, Treganna Gin:
“Mae cefnogaeth ZERO2FIVE trwy Broject HELIX wedi trawsnewid fy musnes yn fawr. Nid yn unig yr wyf wedi ennill sgiliau a gwybodaeth hanfodol, ond mae ZERO2FIVE wedi cefnogi gweithrediad y systemau diogelwch bwyd sy'n ffurfio sylfaen ein gweithgynhyrchu. Mae'r sgôr o 5 gan Iechyd yr Amgylchedd wedi rhoi hyder i'n cwsmeriaid yn ein gweithdrefnau a'n diogelwch, a fydd, heb os, yn cael effaith ariannol gadarnhaol."