Astudiaeth Achos - Trealy Farm Charcuterie

Trealy Farm Charcuterie

Cefndir

Mae Trealy Farm Charcuterie o Sir Fynwy, y’i sefydlwyd yn 2004, yn cynhyrchu charcuterie artisan arobryn gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a chynhwysion o'r ansawdd gorau. Mae'r cwmni'n cynhyrchu amrywiaeth o dros ddeugain o gynhyrchion gwahanol gan gynnwys salami a chorizo yn ogystal â chigoedd wedi'u sychu mewn aer, wedi'u halltu ac wedi'u coginio.

Mae Trealy Farm yn cyflenwi eu cynhyrchion i fusnesau ledled y DU; o fwytai, siopau cadwyn, delis, pizzerias a thafarndai, i westai, siopau fferm ac arlwywyr. Yn ddiweddar, mae'r cwmni hefyd wedi dechrau gwerthu eu cynhyrchion yn uniongyrchol i gwsmeriaid trwy eu gwefan.

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE

Mae gan Trealy Farm Charcuterie hanes hir o weithio gyda Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, gyda'r cwmni'n derbyn cefnogaeth barhaus i gynnal eu hardystiad diogelwch bwyd SALSA.

Fel rhan o'r broses hon, mae ZERO2FIVE yn cefnogi rheolwr technegol Trealy Farm Charcuterie trwy gynnal archwiliadau mewnol rheolaidd. Mae technolegydd ZERO2FIVE yn gwirio dogfennaeth a phrosesau'r cwmni yn erbyn gofynion SALSA. O ganlyniad i bandemig COVID-19, cynhaliwyd yr archwiliadau diweddaraf o bell.

Ar ôl helpu'r cwmni i baratoi ar gyfer adnewyddu eu hardystiad, cynhaliwyd archwiliad SALSA Trealy Farm Charcuterie o bell ym mis Chwefror 2021. Llwyddodd y cwmni i basio eu harchwiliad heb unrhyw ddiffygion cydymffurfiaeth. 

Trealy Farm Charcuterie

Buddion y gefnogaeth

Mae cynnal eu hardystiad SALSA yn hanfodol er mwyn caniatáu i'r cwmni barhau i gyflenwi eu cwsmeriaid presennol.

Yn ddiweddar, mae ZERO2FIVE wedi cychwyn prosiect arall gyda Trealy Farm Charcuterie, sef archwiliadau mewnol pellach yn ogystal â mentora rheolwr technegol y cwmni i ddilysu effeithiolrwydd eu systemau hylendid gan ddefnyddio offer arbenigol. 

Dywedodd Caroline Davies, rheolwr technegol Trealy Farm Charcuterie:

“Mae cael ardystiad SALSA wedi bod yn hollbwysig wrth helpu Trealy Farm Charcuterie i dyfu. Mae cefnogaeth ac arweiniad parhaus ZERO2FIVE wedi bod yn bwysig er mwyn caniatáu inni gynnal yr ardystiad hanfodol hwn. "