Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>The Preservation Society - Astudiaeth Achos

The Preservation Society - Astudiaeth Achos

Cefndir  

Mae The Preservation Society yn fusnes teuluol wedi'i leoli yng Nghas-gwent, Cymru, sy'n cynhyrchu siytni aml-wobr, suropau a chyffeithiau sy'n llawn blas ac yn cael eu gwneud gan ddefnyddio cynhwysion tymhorol lleol.  

Mae amrywiaeth o gynhyrchion y Preservation Society yn cynnwys blasau unigryw fel siytni Afal a Chwrw, Saws BBQ, Riwbob a Chilli, Marmalêd leim, surop Mafon a Jam Chilli.  

Ar hyn o bryd mae'r cynhyrchion yn cael eu gwerthu mewn manwerthwyr lleol ac ar-lein​.

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE  

Yn 2017, cysylltodd Angharad Underwood (Perchennog / Cyfarwyddwr The Preservation Society) â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE i gynorthwyo'r busnes gyda dadansoddiad maethol wedi'i gyfrifo o dros 20 o ryseitiau cynnyrch gan ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol. Hefyd, rhoddodd ZERO2FIVE arweiniad a gwybodaeth arfer gorau i'r Preservation Society mewn perthynas â labelu cynnyrch gorffenedig. 

Manteision y gefnogaeth  

Mae'r gefnogaeth a ddarparwyd a'r wybodaeth a drosglwyddwyd i'r busnes dan gyllid prosiect HELIX, wedi galluogi The Preservation Society i sicrhau bod eu labelu cynnyrch yn cydymffurfio'n llawn â gofynion labelu gorfodol.  

Angharad Underwood, The Preservation Society:

“Ar gyfer busnes micro fel ein un ni, mae'n anodd cadw i fyny â gofynion y diwydiant bwyd felly mae cefnogaeth ZERO2FIVE wedi bod yn wych ac mae Bethan wedi gwneud y broses yn syml ac yn bersonol iawn.”