Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Astudiaeth Achos - The Parsnipship

Astudiaeth Achos - The Parsnipship

Cefndir

Ac yntau’n gweithio yn y diwydiant arlwyo ers dros 25 mlynedd, cafodd Ben Moss, sylfaenydd The Parsnipship, ei ysbrydoli i ddechrau’r busnes wedi blynyddoedd o gael ei siomi gan y pethau pitw oedd ar gael i lysieuwyr a feganiaid pan fydden nhw’n mynd allan i fwyta, a’r difyrrwch a fyddai’n gwneud i ffrindiau a’r teulu grafu pen pan fyddai gofyn iddyn nhw goginio ar gyfer feganiaid a llysieuwyr.

Mae The Parsnipship yn gwneud cynhyrchion llysieuol a fegan unigryw a gwreiddiol arobryn o gegin gynhyrchu ym Mro Ogwr, gan gynnwys eu Potsh Ffacbys Tandwri sydd wedi ennill gwobr Great Taste. Dechreuodd y cwmni yn 2007, yn gwerthu i ddechrau amrywiaeth o gynhyrchion ym Marchnad Glanyrafon Caerdydd. Erbyn hyn, caiff eu cynhyrchion eu gwerthu mewn marchnadoedd, gwyliau bwyd a gwyliau cerddoriaeth, a thrwy gyflenwyr cyfanwerthu i siopau annibynnol ansawdd-uchel, caffis, tai bwyta a thafarnau.

Cysylltodd The Parsnipship â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE i gael cymorth pan oedd angen arbenigedd a chymorth gyda’u gwaith gwerthu a marchnata er mwyn codi nifer y cwsmeriaid newydd (yn enwedig o ochr gyfanwerthu’r busnes) a chynyddu eu trosiant gwerthu. Roedd angen cymorth technegol ar y cwmni hefyd o ran ennill achrediad SALSA i gael cadw eu cwsmeriaid presennol ynghyd â chymorth i ddilysu’r cyfarwyddiadau ail-dwymo ar gyfer eu cynhyrchion.

Cymorth oddi wrth ZERO2FIVE

Drwy Raglen Trosglwyddo Gwybodaeth Prosiect HELIX, fe wnaeth ZERO2FIVE recriwtio gweithiwr cysylltiol gwerthiant a marchnata rhan-amser ar gyfer The Parsnipship. Yn fuan roedd y gweithiwr yn gallu arwain ar feysydd marchnata a gwerthiant allweddol ar gyfer The Parsnipship, gan gynnwys creu strategaeth frandio a chynlluniau gwerthu a marchnata y rhoddodd ZERO2FIVE fewnbwn ac arweiniad arnyn nhw.

Bu The Parsnipship yn gweithio hefyd gydag Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd i gael creu cysyniadau dylunio ar gyfer eu pecynnau manwerthu newydd. Yn sgil hynny bu’r gweithiwr gwerthu a marchnata yn gweithio gyda dylunydd a chyflenwr pecynnau i gael penderfynu ar ddyluniad y pecynnau manwerthu; dyma’r tro cyntaf i’r cwmni wneud hyn a bydd yn eu galluogi i symud i fannau manwerthu traddodiadol.
Cafwyd cymorth ychwanegol drwy Brosiect HELIX, er enghraifft ZERO2FIVE yn hwyluso cyfweliadau ymchwil marchnata i gael adborth ar becynnau newydd The Parsnipship a chynnig ymchwil a mewnwelediad i dueddiadau fegan a llysieuol i’r cwmni.

Bu’r tîm technegol yn ZERO2FIVE hefyd yn cefnogi The Parsnipship i ddilysu a gwirio’r cyfarwyddiadau ail-dwymo ar gyfer eu cynhyrchion, o’r oergell ac o’r rhewgell. Gwneir hyn er mwyn sicrhau y bydd y cyfarwyddiadau ail-dwymo gorau gan y cwmni ar gyfer eu defnyddwyr, a hynny heb effeithio ar ansawdd y cynnyrch.

Yn olaf, drwy brosiect Rhwystrau i Achrediad 2 Llywodraeth Cymru, cafodd The Parsnipship eu cefnogi i ennill achrediad SALSA. Fe ymgymerodd tîm technegol ZERO2FIVE ag amrywiaeth o ymyriadau gan gynnwys dadansoddiad o’r bylchau ar systemau eu ffatri a gwaith papur eu prosesau, adolygiad ffug o’u systemau mewnol a mentora ym meysydd safonol angenrheidiol SALSA cyn ac ar ôl yr archwiliad.

 

Manteision y cymorth

Wedi’r 12 mis cyntaf o gymorth oddi wrth ZERO2FIVE, gwelodd The Parsnipship gynnydd yn nhrosiant y gwerthiant o bron 30% ac un swydd newydd wedi’i chreu a phum swydd bresennol wedi’u diogelu. Fe wnaeth y gweithiwr gwerthiant a marchnata ddod â 10 cwsmer newydd i’r busnes.

Mae’r cwmni bellach mewn sefyllfa lawer yn gryfach i gael mynediad i farchnadoedd newydd gan gynnwys llwybrau manwerthu mwy traddodiadol, wedi iddyn nhw ennill achrediad SALSA a datblygu pecynnau manwerthu.

“Bu’r cymorth a gawsom oddi wrth ZERO2FIVE yn amhrisiadwy i The Parsnipship o ran y cynnydd rydym wedi’i wneud yn ein parodrwydd i gyflenwi cwsmeriaid newydd – yn enwedig y rheiny yn y farchnad fanwerthu a chwsmeriaid gwasanaethau bwyd mwy o faint. Bu’r cymorth yn fodd i ni gael mireinio a gwella prosesau ar draws gweithgareddau cynhyrchu a gwerthu o fewn"
Meddai Flo Ticehurst, cyd-berchennog The Parsnipship