Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Sidoli's Ice Cream - Astudiaeth Achos

Sidoli's Ice Cream - Astudiaeth Achos

Sidoli's logo

Cefndir 

Gyda dros 100 mlynedd o hanes, sefydlwyd Sidoli’s Ice Cream gan Benedetto 'Ben' Sidoli yn 1922 pan wnaeth y daith dair wythnos o Bardi yn yr Eidal i Gwm ger Glyn Ebwy. 

Y dyddiau hyn, mae pedwaredd genhedlaeth y teulu Sidoli yn rhedeg y busnes ac maent yn cynhyrchu dros 45 o flasau gwahanol o hufen iâ. Maent wedi derbyn nifer o Wobrau Hufen Iâ Cenedlaethol am eu cynnyrch, gan gynnwys Medal Aur yn 2020 am eu hufen iâ caramel hallt. 

Sidoli's pots

Mae Sidoli's wedi cynnal ardystiad diogelwch bwyd SALSA ers 2010 ac mae ZERO2FIVE wedi cefnogi'r cwmni ers sawl blwyddyn gyda mentora ac archwilio mewnol mewn perthynas â'r safon.

Gyda lansiad y  SALSA plus Ice Cream Standard  ym mis Medi 2022, cysylltodd Sidoli's â ZERO2FIVE am gefnogaeth bellach. Mae'r SALSA plus Ice Cream Standard yn fersiwn benodol o safon SALSA a lansiwyd mewn cydweithrediad â'r Gynghrair Hufen Iâ ac sy'n darparu cefnogaeth benodol i'r sector i gynhyrchwyr hufen iâ.

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Gweithiodd technolegydd ZERO2FIVE gyda'r tîm yn hufen iâ Sidoli i fynd drwy'r  SALSA Plus Ice Cream Standard  newydd a darparu mentora ar ei ofynion. Roedd hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol i'r sector ar lanhau, cymeradwyo cyflenwyr, asesu risg deunydd crai, olrhain a diogelwch bwyd.

Cynhaliodd ZERO2FIVE archwiliadau mewnol yn erbyn y safon newydd hefyd, gan roi cymorth i'r cwmni i'w helpu i ddatblygu eu system rheoli diogelwch bwyd a diweddaru gweithdrefnau a nodwyd o ganlyniad. 

Cafodd Sidoli's eu harchwilio gan SALSA ym mis Chwefror 2023 ac maent bellach wedi derbyn eu hardystiad yn llwyddiannus.

Manteision y cymorth 

O ganlyniad i sicrhau ardystiad SALSA Plus Ice Cream Standard, mae Sidoli's wedi gallu cynnal eu henw da fel gwneuthurwr cynhyrchion diogel o ansawdd uchel. Mae hyn wedi galluogi'r cwmni i gadw eu cwsmeriaid presennol ledled Cymru a diogelu 14 o swyddi o fewn y cwmni. 

Yn y dyfodol, mae ZERO2FIVE yn bwriadu cefnogi Sidoli's trwy adolygu eu prosesau cynhyrchu i nodi cyfleoedd lleihau gwastraff posibl o fewn y busnes.

Stef Sidoli, Sidoli’s Ice Cream: "Mae'r gefnogaeth gan ZERO2FIVE wedi bod yn hanfodol i'n busnes. Mae dyfnder y wybodaeth a'r arbenigedd y maent yn eu darparu yn hynod werthfawr wrth gynorthwyo gyda'n harchwiliadau a'n harolygiadau SALSA. Mae'r cymorth bob amser yn cael ei ddarparu mewn modd proffesiynol ond hawdd mynd ato. Byddwn yn argymell gweithio gyda ZERO2FIVE os ydych chi'n fusnes bwyd."