Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>The Rogue Welsh Cake Company - Astudiaeth Achos

The Rogue Welsh Cake Company - Astudiaeth Achos

The Rogue Welsh Cake Company

Cefndir 

Yn eiddo i dîm mam a mab, Joe a Maria Granville, mae Rogue Welsh Cakes yn cynhyrchu pice ar y maen wedi'u gwneud â llaw sydd â blasau annisgwyl fel siocled a charamel hallt a thomato wedi'i sychu yn yr haul a ffeta.

Mae Rogue Welsh Cakes, y'i sefydlwyd yn 2020, yn gwerthu ei gynnyrch yn eu stondin a agorwyd yn ddiweddar ym Marchnad Casnewydd yn ogystal â marchnadoedd ffermwyr ledled de Cymru. Mae Joe i'w weld yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig yn rheolaidd wrth redeg y stondin.

Joe and Maria Granville

Mae Joe, sy'n gyn-weithiwr cymorth gofal iechyd, yn frwd dros fwyd ac wedi bod eisiau sefydlu ei fusnes bwyd ei hun erioed. Yn ystod y cyfnod clo yn 2020, ymunodd â'i fam Maria, nyrs iechyd meddwl sydd hefyd yn bobydd brwd, a ganed Rogue Welsh Cakes.

Cysylltodd Rogue Welsh Cakes â ZERO2FIVE ym mis Awst 2021 pan oeddent yn chwilio am gymorth i adolygu eu harferion gweithgynhyrchu presennol i'w gwneud yn fwy effeithlon, gwella ansawdd y cynnyrch a'i gwneud yn haws i gynyddu maint y cynhyrchiad.

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Treuliodd Rogue Welsh Cakes ddiwrnod gydag arbenigwyr pobi ZERO2FIVE yn eu ffatri beilot o'r radd flaenaf. Gyda'i gilydd, fe wnaethant adolygu rysáit bresennol y cwmni ac edrych ar gynhwysion eraill a fyddai'n gwella ansawdd y cynnyrch.

Darparwyd mentora hefyd i adolygu prosesau cynhyrchu Rogue ac edrych ar eitemau o offer y gellid eu cyflwyno i'w gwneud yn fwy effeithlon.

Dywedodd Joe Granville, perchennog Rogue Welsh Cakes: "Darparodd ZERO2FIVE gyfle gwych inni roi cynnig ar yr holl offer gorau y gallai fod ei angen ar bobydd. Hefyd, fe wnaethon ni chwarae gyda'r rysáit i ddarganfod pa lefelau o gynhwysion oedd yn gwneud y pice ar y maen o'r gweadedd gorau."


 The Rogue Welsh Cake Company

Manteision y cymorth 

Ar ôl cytuno ar rysáit gwell, cynhaliwyd treialon cynhyrchu ym mecws ZERO2FIVE gan ddefnyddio cymysgydd mwy o faint. O ganlyniad, gweithredodd Rogue Welsh Cakes y newidiadau i'w rysáit a phrynu offer cymysgu newydd a arweiniodd at arbedion sylweddol o ran amser a chost.

Dywedodd Joe: "Fe wnaethon ni ddarganfod bod defnyddio cymysgydd mawr yn gwneud toes gwych ar gyfer pice ar y maen, ac yn llawer, llawer cyflymach. Mae hyn wedi arbed cannoedd o oriau o gymysgu â llaw i ni, sydd yn ei dro wedi arbed llawer o arian inni, a'n helpu i gadw ansawdd ein cynnyrch ar yr un safon uchel.

"Byddem yn argymell unrhyw fusnes i gysylltu â ZERO2FIVE; pwy a ŵyr sut y gallan nhw eich helpu chi. Gall rhedeg eich busnes bwyd eich hun fod yn eithaf unig, ond roedd ZERO2FIVE yn andros o gyfeillgar ac yn hynod ddefnyddiol. Byddwn yn sicr yn cysylltu eto pryd bynnag y byddwn yn teimlo mewn picil ac yn gallu gwneud tro â help llaw."