Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Puffin Produce - Astudiaeth Achos PEL

Puffin Produce - Astudiaeth Achos PEL

Y Cefndir

Puffin Produce Ltd ydy cyflenwyr mwyaf cynnyrch Cymreig yng Nghymru. Ers 1995, maen nhw wedi cyflenwi cynnyrch Cymreig i nifer o brif fanwerthwyr a chyfanwerthwyr Cymru. Ynghyd â’u label eu hunain o datws, mae Puffin Produce hefyd yn cyflenwi ystod o datws, llysiau tymhorol a chennin Pedr o dan eu brand ‘Blas y Tir’. ​

Gofynnodd Puffin i ZERO2FIVE am gymorth gydag ymchwil i’r farchnad drwy Brosiect Helix ar adeg pan oedden nhw’n ceisio ail-ddylunio deunydd pacio tatws 'Blas y Tir'. ​Yn flaenorol, roedden nhw wedi defnyddio Labordy Profiad Canfyddiadol Prifysgol Metropolitan Caerdydd (PEL) mewn astudiaeth beilot ac felly’n ymwybodol o’i gallu i fod yn adnodd ymchwil a marchnata pwerus.

Gwybodaeth am y Labordy Profiad Canfyddiadol 

Mae PEL (y Labordy Profiad Canfyddiadol) yn brosiect cydweithrediadol rhwng ZERO2FIVE ac Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd. Labordy realiti synthetig ydy PEL sy’n defnyddio delweddau eglur iawn ar sgrîn grom fawr, sain dwys, aroglau, symudiad awyr a thymheredd i greu efelychiad o amgylcheddau mewn labordy lle byddai’n bosibl i fonitro’n ofalus, i ailadrodd, i reoli, cofnodi a dadansoddi. Drwy hyn, gellir creu rhith amgylcheddau (e.e. archfarchnadoedd) sy’n anodd a chostus i’w gyrchu ar gyfer arbrofion ar arferion cwsmeriaid. Mae cyfranogwyr PEL yn ymddwyn yn fwy tebyg i’r hyn fydden nhw mewn sefyllfaoedd go wir nag y bydden nhw yn ymateb i gwestiynau holiaduron pen desg neu mewn grwpiau ffocws.

Mae academyddion yn nhîm PEL wedi datblygu technolegau  integredig unigryw ar gyfer tracio llygaid, sy’n caniatáu i ddadansoddi trem ac edrychiad, gan alluogi dealltwriaeth o wir ymddygiad cyfranogwyr a dilysiad o ymatebion i holiadur.

 

Cymorth ZERO2FIVE

Fe wnaeth ZERO2FIVE gwrdd â Puffin i drafod ystod gofynion yr astudiaeth. Roedd y cwmni wedi dewis dyluniad newydd ar gyfer y deunydd pacio ac yn dymuno ei brofi yn erbyn eu deunydd pacio cyfredol a label y manwerthwr ei hun.

Puffin Packaging 


Dyluniodd tîm PEL brotocol arbrofol priodol, creu sbardunau gweledol i’w gosod mewn ale cynnyrch ffres mewn rhith archfarchnad ac yna recriwtio cyfranogwyr o ddemograffeg targed cwmni Puffin.

Byddai cyfranogwyr arbrofol yn sefyll yn y rhith archfarchnad, yn cael sbectol tracio llygaid i'w gwisgo, yna'n cael eu holi cyfres o gwestiynau i gael eu barn ar ba ddyluniad oedd yr un fyddai denu sylw, yn Gymreig, yn ffres ac yn gynnyrch premiwm, eu dewis o gynllun deunydd pacio a pha un fydden nhw’n fwyaf tebygol o'i brynu. 

Wrth ofyn y cwestiynau hyn i’r cyfranogwyr, byddai’r sbectol tracio llygaid yn cofnodi i ble roedden nhw’n edrych ac ar beth roedden nhw’n edrych hiraf. Yn dilyn y gweithgaredd hwn, gofynnwyd cwestiynau mwy treiddgar iddyn nhw er mwyn iddyn nhw ystyried y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniadau roedden nhw wedi’u gwneud.

Perceptual Experience Laboratory
 

Manteision y cymorth

Dangosodd canlyniadau’r arbrawf bod yn well gan gwsmeriaid 25-50 oed o blith menywod ddyluniad newydd deunydd pacio Blas-y-Tir, yn hytrach na’r cynllun presennol a chynllun label eu hunain, a bod gan y dyluniad newydd y potensial i ennill cwsmeriaid newydd nad oedd wedi prynu’r brand yn y gorffennol. Y consensws cyffredinol oedd bod dyluniad y deunydd pacio newydd yn fwy chwaethus a modern, yn cynnwys delweddau gwell a’r cynllun yn symlach.

Cynigiodd y canfyddiadau hyn dystiolaeth gadarn ar gyfer manwerthwyr i gefnogi nod Puffin o greu dyluniad deunydd pacio mwy effeithiol a modern. Darparodd mapiau gwres tracio llygaid sy’n dangos i ble roedd cyfranogwyr yn edrych, ac am ba hyd, dystiolaeth weledol rymus arbennig.

Hefyd, darparodd ZERO2FIVE syniadau o ystod clir a rhai gellid eu gweithredu ar gyfer Puffin i wella dyluniad eu deunydd pacio ymhellach. Roedd hyn yn cynnwys gwneud tarddiad Cymreig y cynnyrch yn fwy amlwg.


Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cynnyrch Puffin:

"Caniataodd y Labordy Profiad Canfyddadwy i ni brofi dyluniadau newydd ein deunydd pacio gyda chwsmeriaid mewn amgylchedd sy’n agos at fywyd go wir, lle na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall. Darparodd yr adborth gwerthfawr dystiolaeth i ni ei chynnig i fanwerthwyr am effaith hynod amlwg ein deunydd pacio ar y silffoedd."