Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Puffin Produce - Astudiaeth Achos

Puffin Produce - Astudiaeth Achos

Cefndir 

Cyflenwr cynnyrch Cymreig mwyaf Cymru yw Puffin Produce Ltd. Ers 1995 maen nhw wedi cyflenwi cynnyrch Cymreig i sawl adwerthwr a chyfanwerthwr mawr. Yn ogystal â label tatws ei hunain, mae Puffin Produce hefyd yn cyflenwi ystod o datws, llysiau tymhorol a chennin pedr o dan eu brand ‘Blas y Tir’. ​

Mae gan Puffin Produce berthynas gwaith hirsefydlog gyda’r Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ers 2012. Yn ystod y cyfnod yma mae’r busnes wedi cyflogi a chefnogi dau Swyddog Cyswllt Trosglwyddo Gwybodaeth a datblygiad parhaus ar eu cyfer. Mae’r swyddogion yma wedi cefnogi datblygiad a chynhaliaeth systemau technegol ac ansawdd y safle yn ogystal â’r systemau rheoli pecynnu a rheoli gwastraff.   

 

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE 

Mae ZERO2FIVE wedi parhau i gefnogi Puffin Produce un diwrnod pob mis fel rhan o Broject HELIX er mwyn ychwanegu at dimau awdit mewnol a thechnegol y cwmni. 

Mae’r gefnogaeth yma wedi galluogi i Puffin Produce gael adnodd technegol annibynnol parhaus, mecanwaith cefnogaeth ar gyfer ymholiadau technegol, mentora ar gyfer timau technegol a sicrhau ansawdd y cwmni, a rhaglen strwythuredig ar gyfer cefnogi amserlen awdit mewnol y cwmni. 

Un o rolau allweddol ZERO2FIVE ydy gwneud awdit mewnol ar gyfer Puffin gan adolygu gweithdrefnau diogelwch bwyd yn annibynnol yn erbyn safonau BRCGS a’r adwerthwr. 

 

Buddion y Gefnogaeth 

Diolch i gyngor annibynnol ZERO2FIVE, mae Puffin Produce wedi adnabod diffyg cydymffurfiaeth a meysydd i wella wrth fesur yn erbyn safonau BRCGS a’r adwerthwr. Mae hyn wedi helpu Puffin Produce i gynnal eu harferion diogel ca o ganlyniad i hyn, i gadw ei achrediad trydydd parti a’i rhestrau adwerthu. 

Oherwydd gwybodaeth ac adnoddau tîm ZERO2FIVE, mae Puffin Produce wedi medru gwybod am ddiweddariadau i safonau diwydiant parhaus a chodau arfer sydd yn hanfodion busnes. Mae ZERO2FIVE wedi medru helpu tîm Puffin gyda hyfforddiant mewn meysydd megis awdit mewnol a dadansoddi synhwyraidd. 

Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Puffin Produce:

‘O ganlyniad i wybodaeth ac arbenigedd tîm technegol ZERO2FIVE, rydyn ni wedi gallu addasu a chryfhau ein systemau rheoli ansawdd yma yn Puffin Produce; golygai hyn i ni gadw ein hachrediadau BRCGS a Red Tractor.  Mae’r cymorth y cawsom ni gan ZERO2FIVE wedi bod yn hynod o werthfawr ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw.’’