Cefndir
Mae gan Prima Foods, sydd wedi’i leoli yn Llanelli, flynyddoedd mawr o brofiad o gynhyrchu cymysgeddau pobi, cynhyrchion pobi gartref a chyfansoddion prydau. Mae’r cwmni wedi defnyddio’i arbenigedd i greu cyfres arloesol o gymysgeddau pobi di-glwten Chef’s Promise.
Mae Prima Foods yn gweithio gyda Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE oddi ar 2011 ar nifer o brosiectau technegol. Pan agorodd y cwmni gyfleuster coginio di-glwten gofal-uchel nodedig a oedd wedi’i ddylunio i gynhyrchu cyfansoddion ar gyfer y sector prydau parod, dyma nhw’n cysylltu â ZERO2FIVE i gael cymorth.
Cymorth oddi wrth ZERO2FIVE
Mae ZERO2FIVE wedi dilysu’n annibynnol waith gosod ffyrnau newydd Prima a’u cefnogi i sefydlu proffil coginio ac oeri ar gyfer eu cyfres newydd o gynhyrchion. Bu hyn yn gymorth i’r cwmni sicrhau diogelwch ac ansawdd y cynhyrchion.
Drwy ZERO2FIVE, roedd mynediad gan Prima i ystod o gyfarpar gan gynnwys mesuryddion tymheredd cyfoes yn ogystal ag arbenigedd technolegwyr bwyd a oedd yn gallu dadansoddi data i helpu’r cwmni i ysgrifennu eu gweithdrefnau coginio ac oeri.
Ar ail brosiect fe wnaeth ZERO2FIVE gyflawni gwerthusiad synhwyraidd o gyfres newydd Chef’s Promise o gymysgeddau cynhwysion sych. Drwy ddefnyddio swît gwerthuso synhwyraidd ZERO2FIVE, cafodd cymysgeddau di-glwten Prima eu meincnodi yn erbyn cynnyrch union-gyffelyb a oedd yn cynnwys glwten.
Rhoddodd panel o ddefnyddwyr adborth ar ansawdd, blas, gwead a’r olwg ar y cynnyrch. Er mai nifer o gynhyrchion Prima oedd yr hoff samplau, cafodd eraill eu hail-gyflunio o ganlyniad i’r adborth cyn penderfynu ar y ryseitiau terfynol.
Manteision y cymorth
Oddi ar cwblhau’r prosiect, tyfodd cyfres Prima o gymysgeddau di-glwten i gynnwys 10 o gynhyrchion sawrus a melys mae’r Gymdeithas Seliag yn eu cymeradwyo ac sy’n cael eu gwerthu ar-lein, mewn gwasanaeth bwyd ac o fusnes i fusnes.
Mae’r cymysgeddau wedi lansio’r datblygiad nesaf ym mhroses ehangu darpariaeth ddi-glwten y cwmni drwy fod yn sail ar gyfer cyfansoddion “parod i bobi” di-glwten sy’n cael eu lansio gyda Bidfood ac sy’n cynnwys sgonau a pheli stwffin figan. Erbyn diwedd 2019 y disgwyl yw y bydd y trosiant ar gynhyrchion di-glwten yn bwrw’r £500,000.
Peter Rice, Rheolwr Gyfarwyddwr, Prima Foods:
“Mae ZERO2FIVE yn elfen gwbl hanfodol yn natblygiad technegol Prima Foods oddi ar 2011. Heb eu cymorth, byddai rhaid bod y busnes wedi cael llawer mwy o amser i foddhau galwadau dod yn gyflenwr ail-reng i fanwerthwyr aml-sianel a busnesau o’r radd flaenaf. Mae eu cyngor di-duedd, eu datblygiad staff cydweithredol a thrwch y cymorth sydd ar gael wedi galluogi Prima i wneud yr hyn y mae’n ei wneud orau yn hyderus ac mewn ffordd ddiogel.”