Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Astudiaeth Achos - Lewis Pies

Astudiaeth Achos - Lewis Pies

 

Cefndir

Mae Lewis Pies wedi bod yn cyflenwi cynhyrchion toes sawrus, bara a chacennau o ansawdd ledled Cymru a'r DU am fwy nag 80 mlynedd.

Mae'r cwmni'n cyflogi mwy na 120 o bobl yn eu ffatri ym Mharc Busnes Gorllewin Abertawe lle mae'r cyfleuster cynhyrchu wedi'i rannu'n ddwy ardal, un sy'n canolbwyntio ar bobi sawrus ac un ar gyfer bara a chacennau Lewis Bakery.

Mae gan Lewis Pies berthynas waith hirsefydlog â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE felly cysylltodd y cwmni â ni am gymorth technegol pan oeddent yn gweithio tuag at y Safon Diogelwch Bwyd BRCGS newydd (Rhif 8) ac ardystiad y Bwrdd Awdurdod Halal (HAB).

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE

Cynhaliodd tîm technegol ZERO2FIVE drosglwyddo gwybodaeth helaeth mewn Diwylliant Diogelwch Bwyd ac elfennau newydd eraill o’r safon diogelwch bwyd ynghyd ag archwiliadau mewnol er mwyn gwirio systemau rheoli ansawdd y cwmni ar gyfer cydymffurfio â Safon Diogelwch Bwyd BRCGS, Rhif 8 a safonau HAB. Fe wnaethom hefyd ddarparu mentora ymarferol i'r tîm i weithredu'r holl gamau angenrheidiol sy'n ofynnol yn dilyn yr archwiliadau yn effeithiol.

Llwyddodd Lewis Pies i basio eu harchwiliad Diogelwch Bwyd BRCGS, Rhif 8, ym mis Mehefin 2019 ac ennill Gradd A. Bythefnos yn ddiweddarach fe wnaethant basio eu harchwiliad gan y Bwrdd Awdurdod Halal.

Rydym yn parhau i gynorthwyo'r cwmni trwy gynnal mentora, hyfforddiant a throsglwyddo gwybodaeth wedi'i drefnu, sy'n cael ei wirio gan gyfres o archwiliadau mewnol i gefnogi gwelliant parhaus yn eu systemau diogelwch bwyd a chydymffurfiad parhaus â BRCGS, Rhif 8. Rydym hefyd wedi cynorthwyo gyda dilysu cyfarwyddiadau coginio ar becyn ar gyfer cyfres o gynhyrchion newydd sy'n cael ei datblygu ar gyfer sector manwerthu'r DU.

 

Buddion y gefnogaeth

Ym mis Mai, dechreuodd Lewis Pies werthu eu pasteiod moethus brand Wilfred trwy'r sianel siopa QVC. Yn dilyn eu dwy sioe gyntaf, fe werthodd Lewis bob un o’u 9,200 o unedau a ddyrannwyd o fewn ychydig oriau.

Mae cael achrediad BRCGS Diogelwch Bwyd, Rhif 8 wedi caniatáu i'r busnes gynnal ei sylfaen cwsmeriaid bresennol gan gynnwys QVC, a sicrhau cwsmer manwerthu newydd o bwys.

“Mae dull ac arbenigedd proffesiynol ZERO2FIVE wedi bod yn amhrisiadwy i’n cwmni ac wedi ein helpu i gynnal ein hardystiad BRCGS a Halal trwy weithio ochr yn ochr â’n tîm technegol. Byddem yn argymell Prosiect HELIX yn fawr i weithgynhyrchwyr bwyd sydd angen cymorth technegol i gael achrediad.”
Kim Lewis, Cydlynydd NPD, Lewis Pies