La Mediterranea

Cefndir

Mae Domenico Scarpetta yn hanu o ranbarth arfordirol Puglia yn ne'r Eidal, ac wedi sianelu ei 40 mlynedd o brofiad fel cogydd a perchennog bwyty i greu La Mediterranea Food UK, cynhyrchydd crefftus o gynhyrchion pasta ffres premiwm, bara, focaccia a chynhyrchion yn deillio o flawd Canolforol

O'u ffatri yn y Fenni, mae La Mediterranea yn darparu cynhyrchion i westai, bwytai a siopau manwerthu mawr a hefyd yn gwerthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid mewn marchnadoedd ffermwyr.

Cymorth gan ZERO2FIVE

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE wedi gweithio gyda La Mediterranea ar ddau brosiect gwahanol.

Pan oedd y cwmni'n bwriadu lansio ystod newydd o fara, darparodd ZERO2FIVE drosglwyddiad gwybodaeth ar sut i baratoi Cynllun Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli  Hanfodol yn unol ag arfer gorau'r diwydiant a gofynion cyfreithiol. Yn benodol, darparwyd mentora ar ddadansoddi peryglon, paratoi diagram llif prosesau, pennu terfynau hanfodol, gweithdrefnau monitro, camau unioni ac arfer gorau wrth labelu cynnyrch gorffenedig.
 
Wedi hynny, pan oedd La Mediterranea yn ceisio datblygu rhywfaint o gynnyrch newydd (NPD), fe'u cyfeiriwyd at dîm NPD ZERO2FIVE. Roedd y cwmni yn ymwybodol o'r tuedd protein uchel ac am ddatblygu pasta protein uchel ar gyfer marchnad y gampfa ac eisoes wedi derbyn diddordeb gan gyn-athletwyr proffesiynol.

Cynhaliodd tîm masnachol ZERO2FIVE adolygiad categori pasta am y tro cyntaf i roi cyfeiriad a chefnogaeth i ddatblygiad cynnyrch newydd y cwmni. Gan ddefnyddio ffynonellau data fel Kantar Worldpanel, The Food People a manwerthwyr ar-lein, roedd yr adroddiad yn ymdrin â thueddiadau mewn pasta cadarn, tueddiadau ynghylch siâp a lliw, a dadansoddiad cystadleuwyr a oedd yn edrych ar bris, cynhwysion a hawliadau iechyd.

Gyda’r dystiolaeth i gefnogi'r rhesymeg y tu ôl i'w datblygiad cynnyrch, datblygodd La Mediterranea prototeipiau pasta protein uchel. Er mwyn penderfynu a ellid disgrifio'r cynnyrch yn gyfreithiol fel "protein uchel", cynhaliwyd dadansoddiad maeth gan ZERO2FIVE i gadarnhau faint o brotein yr oedd yn ei gynnwys. Canfuwyd bod gan y cynnyrch lefelau protein tebyg i stêcs ffolen fesul 100g. 

Manteision y cymorth

O ganlyniad i'r gefnogaeth, lansiodd La Mediterranea dri chynnyrch bara newydd gan gynnwys ffyn bara a bruschetta ar gyfer cwsmeriaid eu bwyty. Recriwtiodd y cwmni gweithiwr cynhyrchu ychwanegol i ddelio â'r galw cynyddol gan gwsmeriaid. Maent hefyd yn bwriadu lansio eu hystod pasta protein uchel yn fuan.

Domenico Scarpetta, La Mediterranea Food:

"Mae ZERO2FIVE wedi bod yn gefnogol ac yn broffesiynol iawn ar gyfer ein prosiect. Mae gweithio gyda nhw wedi rhoi cipolwg a dealltwriaeth i'n cwmni o dechnoleg bwyd."