Juvela - Astudiaeth Achos

​​Juvela logo

Cefndir 

Ers dros 25 mlynedd, mae Juvela wedi ymrwymo i grefftio bwydydd arbenigol heb glwten ar gyfer unigolion sydd wedi cael diagnosis o glefyd coeliag. Yn eu becws di-glwten ym Mhont-y-pŵl, maent yn ymfalchïo yn eu gallu i gynhyrchu torthau a rholiau sy'n dynwared blas a gwead "bara go iawn" traddodiadol yn gywir, diolch i'w ryseitiau o ansawdd a heb glwten.

Ym myd cystadleuol datblygu cynnyrch newydd, mae sicrhau cynllun ryseitiau cywir ac effeithiol i'w treialu yn hanfodol ar gyfer llwyddiant. Cydnabu tîm NPD Juvela bwysigrwydd datblygu offeryn a allai symleiddio eu proses datblygu ryseitiau, gan ddod â chyflymder a manwl gywirdeb i dreialon cynnyrch a lleihau gwastraff amser a deunydd crai, a allai effeithio ar linell waelod y cwmni yn y pen draw. 

O ystyried cymhlethdod datblygu ryseitiau a'r newidynnau niferus dan sylw, roedd angen teclyn cynhwysfawr ar Juvela a fyddai'n darparu ar gyfer ei anghenion penodol. Felly, gwnaethant gysylltu â'r tîm Lleihau Gwastraff yn ZERO2FIVE am gymorth i gynhyrchu a gweithredu offeryn datblygu ryseitiau a fyddai'n lleihau'r lwfans gwallau ac yn cynyddu cyfradd llwyddiant treialon cynnyrch newydd.

 

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Bu ZERO2FIVE yn gweithio gyda Juvela i ddatblygu offeryn ryseitiau NPD pwrpasol a fyddai’n galluogi datblygu ryseitiau cywir a safonol, gan sicrhau cysondeb ar draws treialon cynnyrch a chanlyniadau treialon mwy dibynadwy. Yn ogystal, roedd y model yn caniatáu ar gyfer addasiadau ac efelychiadau amser real, gan alluogi ryseitiau i gael eu mireinio'n gyflym yn seiliedig ar ganlyniadau treial, a thrwy hynny leihau'r angen am dreialon ailadroddus a lleihau gwastraff deunyddiau crai.

Bu’r tîm Lleihau Gwastraff yn ZERO2FIVE yn gweithio’n agos gyda Juvela i ddeall eu cynnyrch, ryseitiau a llwybr eu proses NPD bresennol. Roedd hyn yn eu galluogi i weithio ar y cyd â thîm NPD Juvela i adeiladu offeryn syml ond pwerus a allai ddarparu ryseitiau cywir a phenodol, gan ymgorffori costau deunydd crai a cholledion gweithredol a ragwelir.

Unwaith y cwblhawyd y gwaith hwn, bu ZERO2IVE yn gweithio'n agos gyda Juvela i brofi'r offeryn gyda chynhyrchion a senarios amrywiol i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni'n union fel yr oedd ei angen ar dîm NPD. 

Juvela product range

Manteision y cymorth 

Mae offeryn datblygu ryseitiau ZERO2FIVE wedi bod yn allweddol wrth wella effeithiolrwydd a chywirdeb treialon NPD Juvela. Mae hefyd wedi arwain at ostyngiadau sylweddol mewn gwastraffu amser a deunyddiau crai. 

Mae'r gwaith hwn hefyd wedi'i wneud gyda'r bwriad y gellir adeiladu arno i ddatblygu cywirdeb ymhellach o ran datblygu cynnyrch newydd, gan ysgogi gostyngiad pellach mewn gwastraff trwy ddealltwriaeth well o'r meysydd presennol y mae angen eu gwella.

Nathan Hodges, Rheolwr Datblygu Cynnyrch Newydd, Juvela:

“Pan gysylltais i â thîm Lleihau Gwastraff ZERO2FIVE i ddechrau, nid oeddwn yn hyderus y byddent yn gallu helpu gan fod angen rhywbeth eithaf pwrpasol arnom. Fodd bynnag, trwy eu gwybodaeth amrywiol am brosesau cynnyrch, a dealltwriaeth o sut mae gweithrediadau bwyd yn gweithio, maent wedi darparu offeryn ryseitiau sy'n cyd-fynd yn berffaith â'r hyn yr oedd ei angen arnom.

“Trwy rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, mae gennym bellach system sydd nid yn unig yn arbed amser i ni ond sydd hefyd yn lleihau gwastraffu deunyddiau crai, rhywbeth sy’n hollbwysig o ran cynhyrchu bwyd ac NPD.  

“Mae gweithio mor agos gyda ZERO2FIVE ar y prosiect hwn wedi bod yn wych. Maent wedi bod mor broffesiynol yn eu hymagwedd, ac mae hyn wedi arwain at rywbeth sy’n gweithio mor dda ac sy’n cyd-fynd yn llwyr â’r hyn yr oeddem am ei gyflawni ar y dechrau. Byddwn yn argymell gweithio gyda’r tîm Lleihau Gwastraff yn fawr ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto ar gydweithrediadau yn y dyfodol yn fuan iawn.”

Am ragor o wybodaeth

E-bost: ZERO2FIVE@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 41 6306​

Welsh Government funding logo