Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Just Love Food Company - Astudiaeth Achos

Just Love Food Company - Astudiaeth Achos

Just Love logo

Cefndir 

Mae'r Just Love Food Company, sydd wedi'i leoli yn Oakdale ger y Coed-duon, ac sy'n cyflogi tua 100 o bobl, yn gwerthu eu dewis o gacennau dathlu cyfeillgar i alergenau i sawl un o fanwerthwyr ac allfeydd gwasanaeth bwyd mwyaf y DU, gan gynnwys Tesco, Asda, Sainsbury's, Morrisons, Waitrose a Booker.

Sefydlwyd y cwmni yn 2010 gan Mike a Karen Woods pan wnaethant sylweddoli bod bwlch yn y farchnad ar gyfer cacennau dathlu heb gnau i ddarparu ar gyfer teuluoedd â phlant sy'n dioddef o alergeddau i gnau. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi ehangu eu portffolio cynnyrch i gynnwys cacennau heb glwten, heb laeth, heb wyau a figan.

Ar ôl dod yn fwyfwy ymwybodol o gynaliadwyedd a buddion cost posib lleihau gwastraff, cafodd Just Love eu cyfeirio at gymorth gan yr arbenigwyr lleihau gwastraff yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.


 

Cymorth lleihau gwastraff

Rhoddodd ZERO2FIVE gymorth i Just Love â dau o'u llinellau mwyaf poblogaidd, gan gynnal adolygiad diagnostig o brosesau a pherfformiad gweithredol i ddeall ac amlygu colledion cynnyrch ac aneffeithlonrwydd cynhyrchu posibl a allai arwain at gostau uwch a cholledion o ran amser a llafur.

Cynhaliwyd y diagnosis ar hyd sawl diwrnod, gan archwilio'r prosesau cynhyrchu, pwyso cynhyrchion Just Love ar gamau amrywiol, cynnal astudiaethau amser a symud, a siarad â staff ar lawr ffatri i ddeall y cynhyrchion yn llawn o'r nwyddau i mewn hyd at ddosbarthu.

Helpodd cymorth ZERO2FIVE y cwmni i ddeall eu prosesau a'u ffrydiau gwastraff yn well. Adroddwyd am y data i Just Love mewn ffordd a allai eu helpu i ddeall yn gyflym ac yn eglur effaith gwastraff ar eu busnes ac amlygu meysydd ar gyfer gwelliannau i'r dyfodol.  

Meddai Mike Woods, Prif Swyddog Gweithredol Just Love Food Company:

"Mae agwedd broffesiynol ZERO2FIVE o ran mesur gwastraff ar bob cam o'n proses gynhyrchu a rhoi gwerth ar y gwastraff hwnnw wir wedi ein helpu i ddeall gwerth y cyfle.  

"Mae prosiect HELIX yn cynnig dull agored a chydweithredol iawn o rannu gwybodaeth a chwestiynu pam fod gwastraff yn digwydd. Trwy rannu eu harbenigedd, bydd yn ein caniatáu i wella ein galluoedd a gwneud lleihau gwastraff yn ffordd naturiol o weithredu ar bob lefel o'r busnes."

Just Love Food cake

Cefnogaeth hyfforddiant becws

Mewn prosiect arall, darparodd arbenigwyr pobi yn ZERO2FIVE hyfforddiant pwrpasol i aelodau cyswllt technegol Just Love ar ymarferoldeb cynhwysion a diffygion pobi. 

Dros ddau ddiwrnod, cyflwynodd tîm pobi ZERO2FIVE hyfforddiant ystafell ddosbarth ar rôl gwahanol gynhwysion cacennau a sut i gydbwyso eu cymarebau mewn ryseitiau amrywiol. Yn ystod sesiynau hyfforddi ymarferol ym mhecws ZERO2FIVE, bu'r cyfranogwyr yn creu cacennau gyda gwahanol ddiffygion ee, gormodedd o bowdr pobi neu orgymysgu, i edrych ar y canlyniadau a deall pam eu bod yn digwydd. Edrychodd yr hyfforddiant ymarferol wedyn ar sut i ail-gydbwyso'r ryseitiau diffygiol hyn trwy gymhwyso dealltwriaeth o gymarebau cynhwysion.

O ganlyniad i'r gefnogaeth, mae gan aeloday cyswllt technegol Just Love well dealltwriaeth bellach o'r hyn sy'n achosi gwahanol ddiffygion pobi a sut i'w datrys. Bydd y cwmnïau cysylltiedig yn gallu cymhwyso'r wybodaeth hon o fewn y busnes ac mae ZERO2FIVE hefyd yn bwriadu cyflwyno'r hyfforddiant hwn i'r tîm ehangach yn Just Love.

Dywedodd Liesel Taylor, Technolegydd NPD a Chyswllt Technolegol, Just Love Foods:​

​“Mae adnoddau ac arbenigedd ZERO2FIVE sydd ar gael i ni fel cysylltiedigion mor fuddiol. Roeddem wir yn gwerthfawrogi eu mewnbwn i werthuso swyddogaethau a phriodweddau pob cynhwysyn. Fe wnaeth cydbwyso ryseitiau helpu i ddadansoddi ein hystod bresennol ac ystyried hyn wrth ddatblygu yn y dyfodol. Fel technolegwyr NPD, gallwn dreulio llawer o amser yn mewnbynnu ryseitiau i fanylebau manwerthwyr ac rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol cael profiad ‘ymarferol’ gyda’r cynhwysion a’r prosesau i ddod â’r wyddoniaeth yn fyw.”

Am ragor o wybodaeth

E-bost: ZERO2FIVE@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 41 6306​