Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Immunobox - Astudiaeth Achos

Immunobox - Astudiaeth Achos

Immunobox logo

Cefndir 

Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, sefydlwyd Immunobox gan Marie Jezequel ar ôl blynyddoedd o straffaglu dod o hyd i ddanteithion melys ffres a blasus a oedd yn bodloni gofynion dietegol pobl â chyflyrau awto-imiwn.  

Yn 2015, cafodd Marie ddiagnosis o sglerosis ymledol, a chanfu fod ei symptomau'n gwella trwy addasu ei deiet i dorri allan yr holl glwten, llaeth, wyau a siwgr wedi'i buro. 

Immunobox blondie

Felly, penderfynodd Marie sefydlu Immunobox a chynhyrchu ei hystod ei hun o fwydydd wedi’u pobi mewn hambwrdd a phwdinau sy'n rhydd rhag glwten, yn fegan ac sy'n cynnwys siwgrau naturiol neu heb eu puro yn unig.

Fel newydd-ddyfodiad i'r diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cysylltodd Marie â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE am gymorth tra roedd hi wrthi'n sefydlu ei busnes. 

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Rhoddodd yr arbenigwyr diogelwch bwyd yn ZERO2FIVE gefnogaeth i Immunobox gydag oes silff ei chynhyrchion, gan edrych ar y cynhwysion a ddefnyddir, gweithgaredd dŵr i bennu twf micro-organeb posibl, ac amserlen ar gyfer anfon samplau i'r labordy ar gyfer profion microbiolegol. 

Rhoddwyd cymorth hefyd i gyfrifo cynnwys maethol damcaniaethol ystod cynnyrch y cwmni yn ogystal â'r gofynion cyfreithiol ar gyfer labelu cynnyrch, rheoli alergenau a chynllun diogel ar gyfer ardal gynhyrchu'r cwmni. 

Manteision y cymorth 

O ganlyniad i'r gefnogaeth gan ZERO2FIVE, sicrhaodd Immunobox sgôr hylendid bwyd o 5 gan Iechyd yr Amgylchedd a lansiodd eu hamrywiaeth o gynhyrchion i'r farchnad yn llwyddiannus. 

Mae Immunobox bellach yn gwerthu danteithion melys yn uniongyrchol i gwsmeriaid drwy eu gwefan yn ogystal â mewn digwyddiadau lleol yng Nghaerdydd. Yn ystod y misoedd cynhesach, mae Immunobox hefyd yn gwerthu cynhyrchion o'i beic coffi a chacen, sydd i'w gweld mewn parciau o amgylch y ddinas.  

Immunobox cake box

Marie Jezequel, Immunobox: 

“Fe wnaeth ZERO2FIVE fy helpu'n fawr i ddeall nifer o bethau wrth sefydlu fy musnes, o ymarfer ymchwil marchnad drylwyr yn gynnar i ofynion technegol ar gyfer fy nghynnyrch a chymorth gyda dadansoddi cynnyrch. Mae gweithio gyda'r tîm wedi bod yn werthfawr iawn, ac rwy'n gobeithio parhau i weithio gyda nhw ar brosiectau yn y dyfodol.

“Mae ZERO2FIVE yn ffynhonnell wych o wybodaeth a chymorth ymarferol, ac mae'r aelodau staff rydw i wedi delio â nhw i gyd wedi bod yn hynod gymwynasgar a chyfeillgar. Rwyf bob amser wedi teimlo bod cyfathrebu'n rhagorol a bod fy anghenion busnes wrth wraidd y gwaith a wnaed gan y tîm.”