Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Fiercely Fine - Astudiaeth Achos

Fiercely Fine - Astudiaeth Achos

​​​Fiercely Fine logo​​​

Cefndir 

Wedi’i leoli ym Mhowys, mae Fiercely Fine yn fusnes teuluol sy’n arbenigo mewn cynhyrchu bwydydd wedi’u heplesu, gan gynnwys diwylliannau Kimchi, tempeh a kombucha. Mae Fiercely Fine yn gwerthu cynnyrch trwy ei gwefan ac mewn marchnadoedd ffermwyr yn ogystal â chyflenwi cyfanwerthu i fwytai a siopau delicatessen.

Yn berchen i David Stoyel-Hastie, cogydd o 33 mlynedd, a Sarah Stoyel-Hastie, fe benderfodd y ddau sefydlu’r busnes yn 2020 pan ddaeth eu gwaith ymgynghori i ben yn ystod y pandemig. Roedd David, a oedd yn dioddef o soriasis, wedi sylwi bod ei symptomau wedi gwella ar ôl iddo gynnwys kimchi yn ei ddeiet dyddiol. Felly, eu nod oedd sefydlu cwmni a oedd yn arbenigo mewn bwydydd wedi’u heplesu.

Aethant at Fusnes Cymru am gymorth yn gyntaf a chawsant eu cyfeirio at ZERO2FIVE gan Cywain, sefydliad arall sy’n helpu cwmnïau bwyd a diod o Gymru.


 

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Canolbwyntiodd cefnogaeth gan ZERO2FIVE i ddechrau ar adolygiad marchnad o fwydydd wedi’u heplesu gan edrych ar ddemograffeg, maint y farchnad ac adolygiad o gynhyrchion cystadleuwyr gan gynnwys kimchi, kefir dŵr a kombucha. Gwnaeth hyn helpu nhw i sefydlu’r cyfle posibl ar gyfer e busnes newydd.

Cysylltodd Fiercely Fine â ZERO2FIVE am gymorth pellach yn gynnar yn 2022 ar ôl prynu cegin weithgynhyrchu bwrpasol a thra’n chwilio am help gyda HACCP.

Fiercely Fine kimchi

Cefnogodd ZERO2FIVE Fiercely Fine gyda datblygiad cynllun HACCP ar gyfer gweithgynhyrchu kimchi a tempeh, gan edrych ar agweddau megis llif prosesau, dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol, sefydlu gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cynllun HACCP yn gweithio’n effeithiol, camau cywiro, a chynhyrchu gwaith papur.

Cynorthwywyd y busnes hefyd i ddatblygu a dehongli canlyniadau amserlen brofi microbioleg i bennu uchafswm oes silff eu kimchi a thymheredd. Yn ogystal, darparwyd cymorth gyda chyfrifo maethol damcaniaethol a labelu cyfreithiol.

Dywedodd y cydberchennog David Stole Hastie: “Gwnaeth gweithio gyda ZERO2FIVE rhoi’r hyder i ni yn ein cynllun HACCP a’n bod ni’n bodloni’r holl reoliadau diogelwch bwyd. Aethom drwy’r cynllun HACCP o’r dechrau i’r diwedd, gair am air.

​“Roedd y gefnogaeth hefyd yn golygu bod gennym ni syniad da iawn o sut i ddatblygu ein cynllun HACCP wrth i ni greu cynnyrch newydd. Nid oedd yn unig am y cynhyrchion oedd gennym, ond yr hyn y gallem ei wneud nesaf.”

Manteision y cymorth 

O Ganlyniad i’r gefnogaeth gan ZERO2FIVE, sicrhaodd Fiercely Fine sgôr hylendid bwyd o bump gan Iechyd yr Amgylchedd, cwblhaodd eu labeli cynnyrch gydag oes silff warantedig, dyfarnwyd Gwobr Nod Gwyrdd am gynaliadwyedd iddynt, a lansiwyd eu cynnyrch yn llwyddiannus yng Ngŵyl Fwyd y Fenni ym mis Medi 2022.

Fiercely Fine tempeh

Dywedodd Sarah a David Stoyel Hastie, cyd-berchnogion Fiercely Fine: “Ni fyddem yn oedi cyn gweithio gyda ZERO2FIVE. P’un a oes gennych ychydig neu lawer o wybodaeth am ddiogelwch bwyd, byddem yn cysylltu â nhw. Mae cymaint o feysydd lle gallant ddarparu cefnogaeth.”

​“Allwn ni ddim dweud digon ynghylch faint mae ZERO2FIVE wedi ein helpu ni. Ni fyddai ein busnes wedi datblygu heb eu cefnogaeth, rydym yn wirioneddol ddiolchgar.”​​