Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Astudiaeth Achos - Cradoc’s Savoury Biscuits

Astudiaeth Achos - Cradoc’s Savoury Biscuits

Cefndir

Mae Cradoc’s Savoury Biscuits wedi'u lleoli yng nghalon y Bannau Brycheiniog. Wedi cael llond bol ar y cracyrs diflas oedd ar gael i gyd-fynd â chaws, penderfynodd y fam a merch, Allie ac Ella Thomas, sefydlu'r cwmni yn 2008. Mae Cradoc’s Savoury Biscuits yn cyfuno llysiau, perlysiau a sbeisys ffres i greu ystod liwgar o flasau gwreiddiol sy’n cynnwys betys a garlleg a chennin a chaws Caerffili.

Ar ôl symud i adeilad gweithgynhyrchu mwy o faint yn 2019 ac ennill cydnabyddiaeth a lle i werthu gyda’r cyfanwerthwr bwyd CH&CO Group, aeth Cradoc’s ati i gyflawni ardystiad SALSA i sicrhau twf busnes pellach. Arweiniodd hyn at y cwmni'n mynd at Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE i gael cefnogaeth wedi'i hariannu trwy Project HELIX.

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE

Cynhaliodd technolegydd bwyd ZERO2FIVE ddiagnostig deuddydd gyda'r cwmni, gan edrych ar sut roeddent yn perfformio yn erbyn pob un o ofynion Safon SALSA Rhif 5 megis rheolaethau rhagofynnol, HACCP, systemau rheoli, dogfennaeth ac adeiladau.

Rhoddwyd dadansoddiad bwlch i'r cwmni a manylion y camau yr oedd angen eu cymryd cyn iddynt allu cyflawni ardystiad SALSA. Diolch byth, roedd gan y cwmni system HACCP gadarn eisoes ar waith a oedd yn sail ar gyfer cydymffurfio. Datblygwyd hwn gyda chefnogaeth ZERO2FIVE ar brosiect blaenorol.

 

Buddion y gefnogaeth

O ganlyniad i'r gefnogaeth, llwyddodd Cradoc's i ennill ardystiad SALSA ym mis Medi 2019, gan gefnogi nod y busnes o sicrhau sianeli gwasanaeth manwerthu a bwyd newydd, twf busnes a mwy o gyfleoedd cyflogaeth o fewn y cwmni.

Dywedodd Allie Thomas:

"Mae derbyn yr ardystiad hwn yn newyddion rhagorol gan y byddwn nawr yn gallu bodloni prif gyflenwyr bwyd fel Castell Howell, CH&CO, BaxterStorey ac Elior, sy'n gwasanaethu rhai o'r defnyddwyr bwyd mwyaf yn y DU. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y gwahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i'n dosbarthiad."

Mae ZERO2FIVE wedi parhau i gefnogi Cradoc’s gydag archwiliadau mewnol fel rhan o gynhaliaeth ei ardystiad SALSA. Llwyddodd Cradoc's i basio’i archwiliad SALSA diweddaraf ym Mawrth 2021 heb unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth.

Gwnaeth Cradoc’s hefyd recriwtio technegydd ymgysylltiol yn ddiweddar trwy brosiect Trosglwyddo Gwybodaeth HELIX. Mae’r rhaglen yn sefydlu pobl broffesiynol ymgysylltiol yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod Gymreig gyda chymorth a chanllaw staff yn ZERO2FIVE. Bydd y technegydd ymgysylltiol yn canolbwyntio ar gynnal system sicrhau ansawdd SALSA’r cwmni yn ogystal ag agweddau technegol datblygu cynnyrch newydd gan gynnwys manylebau, dogfennaeth ffatri a labeli maeth. Bydd cael aelod o staff sy’n ymroddedig i’r materion hyn yn rhyddhau adnoddau i ganolbwyntio ar arloesi a thyfu’r busnes.