Complete Co-packing - Astudiaeth Achos

Complete Co-packing logo

Cefndir 

Â'i leoliad yn Abercynon, mae Complete Co-packing Services yn cynnig pacio, cadw mewn warws a dosbarthu dan gontract ar ran cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn 2019, pan oedd y busnes yn profi twf parhaus a newydd agor ffatri newydd o 65,000 o droedfeddi sgwâr, recriwtiwyd Sophie Thomas gan Complete Co-packing fel cyswllt gwerthu a marchnata trwy Raglen Trosglwyddo Gwybodaeth Prosiect HELIX. 

Mae Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Prosiect HELIX, sy'n cael ei ddarparu gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cyflogi gweithwyr cyswllt technegol neu werthu a marchnata y’u hariannir yn rhannol, ac yn eu gosod mewn gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig â chymorth llawn gan ZERO2FIVE.  

Exterior Complete Co-packing

Dywedodd Jeff Parry, Rheolwr Datblygu Busnes Complete Co-packing: “Yn strategol, roedd hi’n hyfryd cael adeilad newydd, ond roedd yn rhaid i ni ei lenwi. Felly, roedd yn rhaid i ni dyfu, roedd yn rhaid i ni gynyddu gwerthiannau ac roedd yn rhaid i ni gynyddu ein proffil. A dyna mewn gwirionedd a’n harweiniodd ni at dderbyn cyswllt gwerthu a marchnata.”

Dywedodd Steve Nicholls, Rheolwr Gyfarwyddwr Complete Co-packing: “Oherwydd y pwysau o wneud popeth arall yn y busnes, marchnata oedd y peth olaf yr oeddem yn meddwl amdano bob amser. Roedd cael rhywun i ddod i mewn ac i'w rôl fod yn un marchnata yn berffaith i ni, yn hytrach na’i fod yn rhywbeth yr oeddem yn ei wneud fel ôl-ystyriaeth.

“Fe welsom hyn fel cyfle i ddechrau ar raddfa fach mewn marchnata, ceisio arwain y farchnad gyda chefnogaeth ac arbenigedd ZERO2FIVE, ond yna derbyn ymgeisydd ôl-raddedig fel Sophie, a rhoi cyfle iddi dyfu a’i thrwytho yn ethos y busnes. Roedd hynny'n allweddol i ni, y gallai rhywun ddod i mewn a thyfu gyda ni.” 


Cymorth gan ZERO2FIVE 

Trwy gydol ei lleoliad dwy flynedd a hanner o hyd gyda'r cwmni, cafodd Sophie hyfforddiant a mentora gan y tîm yn ZERO2FIVE, sydd â phrofiad o weithio ym maes marchnata a gwerthu ar gyfer rhai o frandiau FCMG mwyaf y DU. 

Dywedodd Sophie Thomas, sydd bellach yn Rheolwr Gwerthu a Marchnata Complete Co-packing: “Roedd y mentora’n canolbwyntio ar y meysydd yr oedd gen i lai o hyder â nhw. Fe wnaethom sesiwn ar ysgrifennu copi ac mae hynny wedi’n helpu ni’n fawr i greu ein gwefan newydd ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg. Fe gawsom rai sesiynau negodi a gwerthu hefyd, ac roedden nhw'n wych hefyd.”

“Roeddwn i’n wastad yn gwybod y gallwn godi'r ffôn neu anfon e-bost at y tîm yn ZERO2FIVE, ac fe wnaeth y gefnogaeth ychwanegol hon fy helpu’n fawr i ffynnu yn y rôl,” ychwanegodd Sophie. 

Sophie Thomas

Yn ei rôl fel gweithiwr cyswllt, Sophie oedd pwynt cyswllt cyntaf Complete Co-packing ar gyfer ymholiadau gwerthiannau cwsmeriaid, gan ganiatáu i werthuso mewnol pellach ddigwydd. Roedd Sophie hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar farchnata'r cwmni, gan gynnwys rheoli’r cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau â'r cyfryngau, cylchlythyrau dros e-bost a mynychu arddangosfeydd. 

“Hon oedd fy rôl farchnata gyntaf ar ôl graddio felly roedd yn ymwneud â rhoi'r ddamcaniaeth ar waith, a dyna'n union beth rydw i wedi gallu ei wneud yma. Rydw i wir wedi gallu datblygu fy sgiliau cyfathrebu a gwerthu,” meddai Sophie. 

Manteision y cymorth 

Gyda chymorth Sophie, fe wnaeth Complete Co-packing drosi gwerthiannau o £3.5 miliwn yn ystod 2021, fe wnaethant brofi eu blwyddyn fwyaf erioed o ran ymholiadau ac fe wnaethant lansio 17 o gynhyrchion newydd mewn cydweithrediad â'u cleientiaid. 

“O ganlyniad uniongyrchol i weithgarwch marchnata Sophie, cawsom fwy o ymholiadau gwerthu a arweiniodd at fwy o werthiannau. Hefyd, rydym bellach wedi cyrraedd y cam lle mae'r ymholiadau o safon uwch gan fod pobl nawr yn adnabod ein busnes yn well,” meddai Jeff. 

“Peth arall rydyn ni wedi'i sefydlu gyda mewnbwn Sophie yw dadansoddiad o'r gweithgarwch marchnata a wneir gennym a dangos ei enillion ar fuddsoddiad. Mae'n rhoi llawer iawn o ddata i ni i ddweud beth sy'n gweithio i ni a beth sydd ddim,” ychwanegodd Steve. 

Mewn cydnabyddiaeth o effaith Sophie ar y busnes, cafodd ei henwi'n un o'r 30 o dan 30 gan Packaging Innovations yn 2020. Mae'r gwobrau'n dathlu'r doniau ifanc gorau sy'n gweithio ym myd pecynnu.

Yn bwysicach na hynny, oherwydd cyfraniad amhrisiadwy Sophie i'r busnes, ar ddiwedd ei lleoliad cafodd ei derbyn fel gweithiwr parhaol gan Complete Co-packing a'i dyrchafu i rôl Rheolwr Gwerthu a Marchnata. 

Jeff Parry, Sophie Thomas and Steve Nicholls

“Rwy'n credu bod hynny’n dangos faint rydw i wedi tyfu yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae hi wedi bod yn anhygoel. Mae'r wybodaeth rydw i wedi'i hennill trwy weithio gyda phawb yn Complete Co-packing a'r cymorth marchnata gan ZERO2FIVE wedi bod yn gydbwysedd gwych,” meddai Sophie. 

Mae Sophie’n parhau i fod yn fantais i'r busnes ac mae’n helpu'r cwmni yng ngham nesaf eu twf, gan gynnwys hyrwyddo canolfan warws a chyflawni newydd Complete Co-packing, sy’n 53,000 o droedfeddi sgwâr, a agorodd eleni. 

I gwmnïau eraill o Gymru sy'n ystyried cymryd rhan yn Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Prosiect HELIX, mae gan Steve a Jeff eiriau cadarnhaol.

“Mae dwy fantais allweddol i'r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth i mi. Yn gyntaf, mae'n sianel i'r gweithwyr marchnata proffesiynol yn ZERO2FIVE sy'n mentora'r cyswllt. Y fantais arall yw bod hanner y cyflog yn cael ei ariannu felly mae'n rhoi amser i gwmnïau dyfu a datblygu heb y pwysau ychwanegol o edrych dros eu hysgwydd,” meddai Jeff. 

Ychwanegodd Steve: “Rwy'n credu ei fod yn wych i unrhyw gwmni sydd am ennill presenoldeb marchnata; dyma'r llwybr delfrydol i gyflawni hynny.”