Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Clam's Cakes - Astudiaeth Achos

Clam's Cakes - Astudiaeth Achos


Cefndir 

Â’i leoliad ym Mlaenau Gwent, becws artisan yw Clam’s Cakes sy’n cyflenwi cacennau amgylchol ac wedi’u rhewi i’r marchnadoedd gwasanaeth bwyd, manwerthu ac uniongyrchol i’r defnyddiwr. Mae eu holl gynhyrchion, gan gynnwys cacennau torth, cacennau hambwrdd, myffins, cacennau crwn, sgons a bisgedi wedi’u gwneud â llaw mewn pobiadau bach. 

Mae Clam’s yn aros yn ffasiynol drwy ganolbwyntio ar greu cynhyrchion newydd arloesol, sy’n cynnwys casgliad o gacennau figan. Yn 2018, fe’u henwyd yn fusnes becws crefft gorau Cymru yn y  British Baker’s Baking Industry Awards ac mae’r cwmni hefyd wedi ennill nifer o wobrau Great Taste.

Mae Clam’s wedi gweithio gyda Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE o’r blaen ar ystod o brosiectau gan gynnwys archwiliadau mewnol, datblygu cynnyrch newydd, archwiliadau manwerthwyr, holiaduron manylebau cynnyrch a logio data.

 

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Dechreuodd ZERO2FIVE ar brosiect newydd gyda Clam’s yn 2020 pan oedd y cwmni’n paratoi i adnewyddu eu hardystiad SALSA.

Roedd Emma Mackenzie, cynorthwyydd technegol y cwmni, wedi datblygu o rôl sicrhau ansawdd ac nid oedd wedi arwain y cwmni drwy archwiliad SALSA o’r blaen. Darparwyd mentora rheolaidd i Emma gan dechnolegydd ZERO2FIVE ar ofynion safon SALSA a’r broses archwilio. Adolygwyd systemau diogelwch bwyd mewnol Clam’s gan ZERO2FIVE hefyd, ar y cyd ag Emma, fel y byddai ganddi ddealltwriaeth dda o’r hyn y byddai archwiliwr SALSA’n edrych amdano.

O ystyried pandemig COVID-19, dewisodd Clam’s broses archwilio SALSA tri cham sy’n cynnwys adolygiad estyn tystysgrif, asesiad o bell ac archwiliad corfforol ar y safle. Roedd gofyn i Clam’s ddarparu ystod o ddogfennaeth i SALSA, gan gynnwys cynllun HACCP y cwmni, asesiad risg alergenau a gweithdrefnau labelu. Gweithiodd ZERO2FIVE gydag Emma i sicrhau bod dogfennaeth y cwmni i gyd yn gyfredol ac yn barod ar gyfer SALSA.

Fel rhan o’r broses archwilio, cymerodd Emma ran mewn asesiad o bell gydag archwiliwr SALSA ac arweiniodd archwiliad ar y safle’r cwmni. Llwyddodd Clam’s i basio’u harchwiliad ar y safle ym mis Mai 2021 heb unrhyw ddiffygion cydymffurfiaeth. Eleni, mae Emma hefyd wedi arwain y cwmni’n llwyddiannus drwy archwiliad cyflenwyr ar-lein ar gyfer un o’u cwsmeriaid allweddol ac ymweliad Swyddog Iechyd Amgylcheddol ar y safle, gan gyflawni sgôr hylendid bwyd o 4.

 

Manteision y cymorth 

O ganlyniad i’r gefnogaeth gan ZERO2FIVE, llwyddodd Clam’s i gadw eu hardystiad SALSA a fu’n hanfodol wrth lansio cynhyrchion y cwmni mewn tri manwerthwr mawr ar y stryd fawr. Mae Clam’s wedi llwyddo i lansio naw cynnyrch newydd yn ystod 2021, gan gynnwys cwci figan, torth te gwyrdd matcha, a browni Sul y Mamau.

Gyda chefnogaeth ZERO2FIVE, mae Emma wedi medru arwain Clam’s yn llwyddiannus drwy gyfres o archwiliadau trydydd parti heriol a datblygu eu gwybodaeth ymhellach wrth iddi wneud cynnydd yn ei gyrfa dechnegol.

I’r dyfodol, mae ZERO2FIVE yn bwriadu darparu hyfforddiant a mentora ychwanegol i Emma fel y gall ddatblygu ei gwybodaeth a sgiliau technegol mewn meysydd a nodwyd yn ystod yr archwiliad SALSA, megis swabio amgylcheddol a meithrin ei sgiliau rheoli ymhellach. Mae Emma eisoes wedi derbyn mentora mewn arferion gweithgynhyrchu da ac archwilio mewnol.

Clam's Cakes:

"Mae'r cymorth gan ZERO2FIVE wedi bod yn amhrisiadwy ac rydym yn gallu galw arno pan fo angen."